BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Dewstow, Sir Fynwy
Awst 28, 2011, 9:49 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Da ydi Facebook. Drwy hwnnw ges i neges gan Bethan Edge ( Bethan Maffia Maniac ers talwm, am ei bod hi wedi gwirioni efo Maffia Mr Huws)

yn deud ei bod yn byw yn Sir Fynwy bellach a bod ‘na ardd wych wrth ei hymyl. Felly dyma sbio ar wefan yr ardd, neu’r gerddi hynny a ges i ngyrru yno gan y cynhyrchwyr bron yn syth! Dio’m yn bell o Bont Hafren – mi welwch chi’r bont o waelod yr ardd fan hyn: Wel, rhan ohoni – yn edrych fel pyst rygbi. Caerwent ydi’r pentre, nid nepell o Gil-y-coed neu Galdicot. A http://www.dewstow.co.uk ydi’r wefan. Mae’n werth mynd yno, yn enwedig os oes gynnoch chi blant, gan fod plant dan 10 yn cael mynd mewn am ddim ac mae na ddigon yno i’w diddori, rhwng helfa dedi bêrs, digon o wair i redeg a chwarae arno, pyllau lu a llwyth o fywyd gwyllt i sbio arno. O, ac mae na gwrs golff 18 twll hefyd.

Ond hanes y lle sy’n ddifyr. Mae’n hen, hen le ( Dewi’s Stow) a sôn am eglwys Sanctus Dewin nôl yn y 6ed ganrif, ond yn 1893 y newidiodd pethau o ddifri. Henry Oakley, dyn hynod ariannog brynodd y lle a dechrau canolbwyntio ar ei ddau brif ddiddordeb – magu ceffylau gwedd a garddio. Roedd na dwtsh o Michel Jackson ynddo fo ac mi benderfynodd greu rhyw fath o fyd ei freuddwydion a chyflogi sêr garddwriaethol y cyfnod – James Pulham & sons o Lundain i wireddu’r freuddwyd honno. Dyma i chi luniau o sut oedd pethe: Cliciwch ar y llun ac mi aiff yn fwy. Mi wariodd ffortiwn, ond pan fu o farw, doedd gan ei etifedd ddim diddordeb mewn garddio ac roedd angen tir ffarmio am ei bod hi’n gyfnod yr ail ryfel byd. Cafodd y cwbl ei orchuddio a’i lenwi i mewn, pob ogof, pob pwll, pob dim. Ac am fod Oakley yn foi hynod breifat, doedd fawr o neb yn gwybod am y gerddi beth bynnag.

Ond yn 2000, mi nath y perchnogion presennol ( eu taid oedd un o’r gweithwyr ers talwm) ddarganfod grisiau … a dechrau tyllu. Waw. Dychmygwch ddod o hyd i hyn i gyd!

Ia, Bethan a fi yn un o’r twneli – mae na domen ohonyn nhw – a rhai yn dywyll iawn! Na, doedd na’m planhigion yno pan gawson nhw eu hail ddarganfod, mae na lot fawr o waith a phres wedi mynd mewn i’w cael nhw’n debyg i sut oedden nhw ers talwm.

Bu’n rhaid gweithio’n galed ar y pyllau a’r llynnoedd hefyd: Ia, cymylau yn cael eu hadlewyrchu yn y dwr – da de! Tra roedd hi’n tresio bwrw yng ngweddill Cymru, roedd hi’n hyfryd yn Dewstow – nes i ni orffen ffilmio – ffiw.

Mi wnes i wir fwynhau ein diwrnod yn Dewstow – sbiwch y wên – Ac roedd y tad a’r mab sydd pia’r lle – Elwyn a John Harris, yn glen tu hwnt. Y clwb golff sy’n talu am y lle hyd yma – llafur cariad oedd gwario’r holl ar atgyfodi’r gerddi ond maen nhw’n haeddu eich cefnogaeth felly ewch yno! Efallai y gallan nhw rhyw ddiwrnod ailgreu’r ‘Tropical house yma: oedd yn llawn planhigion rhyfeddol, parots a hyd yn oed ambell fwnci yn ôl y sôn! Lle hyfryd a stori werth chweil.

 



Enlli
Awst 19, 2011, 11:42 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Rydan ni wedi trio ddwywaith o’r blaen i ffilmio ar Enlli, ond mae’r tywydd wedi cowlio pethau bob tro. Ond ddydd Mercher, o’r diwedd, gawson ni dywydd perffaith – Enlli amdani! Brecwast yn Nhy Newydd, Aberdaron am 5.45 ( yyyy) a dyma’r olygfa ym Mhorth Meudwy jest cyn gadael ar y cwch efo Colin:

Y môr fel darn o wydr, ylwch. Ro’n i wedi bod i Enlli o’r blaen, ond roedd rhai yn croesi am y tro cynta ac wedi cynhyrfu’n rhacs – fel Gwennan, un o’r cyfarwyddwyr …

Rwan, os na fuoch chi yno erioed, dyma’r map efo enwau pob man – ac enwau bendigedig ydyn nhw ynde?

  Na, dydi hi’m yn fawr, ond mae’n ddigon hawdd bod arni drwy’r dydd – neu am wythnos, bythefnos hyd yn oed heb ddiflasu o gwbl. Mae Mam yn mynd am wythnos bob mis Medi ers blynyddoedd ac yn dod adre yn frown, yn hapus ac wedi ymlacio’n llwyr. “Eli i’r enaid” medda hi. Mi fyswn inna’n licio treulio wythnos yno – ond gewch chi’m mynd â chi yno … ond mi wnes i dreulio penwythnos hir yno cyn cael Del, pan oedd Mair ac Alun yn wardeniaid. Pleser pur. A dyma lle roedden nhw’n byw:

Mae ‘na naw ty sydd ar gael i’w rhentu, ond y warden neu’r gofalwr sy fama, ac ers chwe mlynedd, Emyr o Gwmpenanner sydd yno, ac mi welwch chi dipyn ohono fo ar y rhaglen pan gaiff hi ei darlledu – diwedd y gyfres fis Medi ryw ben.  Garddwr o fri, achos doedd yr ardd ddim cweit fel hyn pan oedd Mair ac Alun yno! Cwpwl o luniau i chi – a’r ty bach ydi’r drws yn y pen draw – tai bach compost – peidiwch a disgwyl fflysh!

Dwi’n fflamio achos ches i’m llun call o Sioned, ond dyma lun da iawn gymrodd hi ohona i a Russell:

Ac mi brynon ni’n dau fuschias Enlli o’r stondin yma gan Emyr. Dwi wedi ei phlannu yng ngwaelod yr ardd yn y gobaith y gwnaiff hi dyfu’n goeden fawr i gadw fy ngwenyn yn hapus!

Mae ‘na siop grefftau ac ati drws nesa, lle mae dynes hyfryd o’r enw Carol yn nyddu a phaentio a hepu’r criw sydd ar eu gwyliau yno i wneud pob math o bethau allan o glai Enlli. Fuon ni’m yn ffilmio fanno ond ges i fodd i fyw yno! Dyma luniau oddi yno, yn cynnwys y teclyn clai sy’n berwi tecell i neud paned … gwych!


Mi allwn i sgwennu colofn hurt o hir am Enlli ( a deud y gwir, mi wnai un i’r Herald – y gwenyn sydd gen i yn hwnnw wsnos nesa!) ond jest isio rhoi blas i chi ydw i rwan. Cafwyd diwrnod hyfryd. A dwi’n meddwl bod pawb wedi syrthio mewn cariad efo’r lle. Ac allwn i’m credu faint o bobl ro’n i’n eu nabod oedd yno, boed ar wyliau nes jest am y diwrnod – y Shakespears o Bentir, Bangor, y nytars o Dalybont, Aled Jones Williams a’i wraig Sue (?), Elen o Ddolgellau yn wreiddiol a hyd yn oed Casi Wyn, fu’n sgwrsio mor ddifyr efo Gaynor Davies ar Radio Cymru bnawn Sul dwytha.

Un llun o’r olygfa o Ty Capel i orffen … nefoedd.

Ychwanegiad! Newydd gael llun da o Sioned mewn cae o lafant i neud iawn am y ffaith nad oes gen i lun ohoni ar Enlli!



Y gwenyn – a’r mêl!
Awst 12, 2011, 10:17 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Drapia’r glaw yma. Roedden ni fod i ffilmio mewn dwy ardd NGS ddydd Iau ond bu’n rhaid gohirio. Ond ro’n i wedi mynd i weld y ddwy – Tyn Twll, Llanfachreth a gardd ‘Anti’ Beryl ( dydi hi’m yn fodryb i mi, ond mae hi’n nabod Cadi FFlur yn dda) yn Bontddu a dan ni’n siwr o ffilmio yno eto – maen nhw’n werth eu gweld, dwi’n addo. A sôn am NGS, mae Bryngwern ( lle fuon ni’n ffilmio llynedd) ar agor dydd Sul yma, ond mae’r perchennog, Hilary Nurse yn flin fel tincar am fod y glaw wedi chwalu bob dim! Hefyd, mae pob dim yn gynharach nag arfer tydi, felly mae ei hoff flodau wedi darfod yn barod. Ond mi fydd yn werth mynd yno run fath – ar ffordd Dolgellau-Bala – ac maen nhw’n addo tywydd gwell at ddydd Sul.

Bechod am ddydd Sadwrn – sef fory. Addo cawodydd maen nhw a dyna pryd mae Sioe Fach y Patsh. Croesi bysedd mai dim ond cymylau gawn ni. Ac mae gen i ryw hen beswch annifyr wedi codi – a’r hen boen ‘na yn yr ysgwyddau sy’n arwydd bod annwyd/ffliw ar y ffordd. Dim ond gweddio y bydd y garglo halen yn gweithio ac y bydd gen i lais ac egni fory …

Ond, er gwaetha’r tywydd, llwyddwyd i wneud diwrnod da o ffilmio ddydd Mercher, fan hyn, yn Ffrwd y Gwyllt. Gewch chi weld sut siap sydd ar fy nhy gwydr ( dal i gadw’r un ciwcymbar fawr at Sioe Rhydymain), y gornel gysgodol lle driodd Carol a finne roi mwy o liw ynddi, hanes y camerau adar – a’r gwenyn. Y diwrnod cyn i’r criw gyrraedd, roedd Carys Tractors wedi galw efo siwtiau ar eu cyfer. A dyma fanteisio ar fynd i weld fy ngwenyn gan ei bod hi’n braf.

Ym … pan dynnon ni’r caead, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ddim cweit fel y dylai fod:

Dach chi’n gweld y crwybr ( honeycomb) drwy’r tyllau? Dydyn nhw ddim i fod fanna. Wedi tynnu hwnna, sbiwch llanast:‘Bad beekeeping’ yn barod! Ro’n i wedi bod yn rhy araf yn gneud a gosod fframiau ychwanegol i lenwi’r bocs, felly roedd fy ngwenyn prysur wedi dechrau llenwi’r bwlch eu hunain … wps. Bu’n rhaid tynnu’r cwbl oddi  yna a’i roi mewn bwced … ac mi wnes i fframiau newydd yn o handi!

Dyma sut roedd y bocs i fod i edrych:

A sbiwch ffram dda sydd gen i’n y canol – llwyth o fêl ar honna! Nôl â ni i’r ty wedyn, a rhoi’r crwybr mewn sosban oddi mewn sosban arall yn llawn dwr poeth: Gan fanteisio ar flasu peth ohono fo cyn ei doddi yn gynta …

ew, melys. Ond dydi’r mêl yma ddim wedi cael cyfle i aeddfedu felly neith o’m cadw’n hir iawn. Mae o’n ffresh, ydi, efo blas ysgafn, ffresh, ond ffermentio neith o yn ôl Carys.

Yn ara bach, dyma’r stwff yn toddi … Nes ei fod yn edrych fel cawl minestrone. Y paill ydi’r darnau bach coch ac oren, gyda llaw. Wedi gadael iddo oeri, roedd y wax wedi caledu ar y top, ac wedi hidlo’r mêl drwy fwslin, ges i 4 jar o fêl! Es i â un i Nain ac un i fy rhieni, ac mi gaiff fy chwaer y llall. Mae hi i fod i alw heddiw ryw ben – efo Cadi Fflur gobeithio. Mae Caio chydig yn rhy ifanc i werthfawrogi mêl dwi’n meddwl.

Dwi angen bocs ‘super’ arall rwan am fod fy nghwch yn datblygu mor gryf, mor sydyn – a bydd angen 11 ffrâm arall yn barod pan ddaw hi! A chwch cyfan arall yn o handi wedi hynny – mae’r gwenyn yn amlwg yn licio’u lle yma ac yn cael hen ddigon o fwyd yn fy ngardd i. Gewch chi eu gweld nhw eto toc – a finna efo nhw, yn edrych dipyn llai, gobeithio – es i ar ddeiet ar ôl gweld y siap oedd arna i …



Nôl o’r Steddfod
Awst 7, 2011, 12:09 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Ges i ryw 3 noson a 3 diwrnod yn y Steddfod, yn cysgu yn fy nghampafan am fod adlen fy rhieni, lle ro’n i i fod, wedi malu. Fel mae’n digwydd, ges i le gwell na nhw yn y diwedd am fod y maes parcio reit wrth ymyl y cawodydd, y tai bach, y siop a’r caffi hyfryd mewn carafan, lle roedd brecwast llawn a bendigedig i’w gael am £5 – yn cynnwys llond mwg o baned! Nes i fwynhau’n arw ar y maes, a gweld cymaint o bobl ro’n i’n eu nabod, ro’n i’n gweld y bliws.

Uchafbwyntiau – gig Dr Hywel Ffiaidd ar y nos Lun, y sgwad sgwennu ar y dydd Mawrth efo Haf Llewelyn, a gwylio drama ‘Salsa’ yn y Stiwt, Rhos. Gwych – noson hwyliog, hyfryd.

Es i adre nos Fercher a dod nôl nos Wener am fod gen i apwyntiad deintydd, ro’n i isio helpu fy chwaer yn y maes carafannau, ac ro’n i’n poeni am gynnwys fy nhy gwydr! Dwi’n falch o ddeud fod popeth yn dal yn fyw, yr un ciwcymbar fawr yn dal yn gyfan – ond y tomatos byth wedi cochi … ac mae angen rhoi gwynt yn y bali peth eto.

Roedd 3 llond bocs o fygiau Sioe Rhydymain wedi cyrraedd – gewch chi lun ryw ben. Roedden ni fel pwyllgor wedi penderfynu bod mwy o werth mewn mwg na’r cwpanau bach plastig da i ddim sy’n cael eu rhoi fel gwobrau fel arfer. Gawn ni weld be fydd ymateb y cystadleuwyr!

Os nad yw’r tomatos yn goch, mae na ddigon o gochni yng ngweddill yr ardd:

Ac roedd ‘na ymwelwyr newydd i’r bwa bwyd adar:

Ia, sgrech y coed – oedd yn barod i hedfan am fod Del yn sefyll yn y drws. Maen nhw’n adar hardd iawn, ond nefi, y sgrech ‘na. Maen nhw’n rhoi harten i mi’n aml wrth fynd am dro.

Rhywbeth dwi’n gweithio arno ar hyn o bryd yw cyfrol newydd i Wasg Gwynedd. Yn sgil llwyddiant ‘Nain/Mam-gu’ llynedd, mae ‘Taid/Tad-cu’ ar ei ffordd – erbyn Dolig. 12 o awduron gwahanol, yn cynnwys y Prifardd Rhys Iorwerth, Huw Chiswell, Dafydd Emyr, Gwyneth Glyn a Gwyn Thomas, i gyd wedi sgwennu ysgrif neu gerdd am fod yn daid neu eu teidiau eu hunain.

Mae Dorry Spikes o’r Cyngor Llyfrau wrthi’n gweithio ar y clawr, sy’n wych fel arfer, a dyma i chi lun o’r lluniau wnaeth hi ar ei gyfer:

Da ydi o ynde! A dim clem pam fod y teipio yma wedi newid lliw mwya sydyn. Grrrr… Ond dwi’n siwr bod 98% o deidiau Cymru yn rai am dorri lawnt yn gyson, a bod hwn yn lun nodweddiadol iawn ohonyn nhw. Mae’r peiriant yn debyg iawn i f’un i, ac un o ffrindiau Taid, Yncl Bili ( Caertydddyn gynt) fu’n gofalu am y lawnt i mi  nes iddo farw rai blynyddoedd yn ôl. Fo ddeudodd mod i angen peiriant gwell na’r Flymo bach pathetig oedd gen i ar y cychwyn. Roedd o’n iawn, wrth gwrs. Ac oes, mae angen torri’r gwair eto – pan fydd o wedi sychu. Mae’r criw camera’n dod yma wythnos nesa ac mae gen i goblyn o waith tacluso! O, ac angen gwneud mwy o fframiau i’r gwenyn … ai i weld os ydyn nhw’n dal yna beth bynnag yn gynta. Roedd Gethin Clwyd, sydd hefyd newydd ddechrau cadw gwenyn eleni yn poeni bod un cwch wedi heidio tra roedd o’n y Steddfod … croesi bysedd bod rhain yn hapus lle maen nhw!