Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bach, broccoli, Dorothy, dyffryn nantlle, gerddi, Llongyfarchiadau, llwyddiannus, Mabon Llewelyn, neiant, nithoedd, petunias, plentyn, Russ
Iawn, gan fod y WordPress poenus ma’n dal i wneud bywyd yn anodd i mi, dwi newydd fod am dro ar y beic tra’n aros i’r lluniau canlynol lwytho i fyny ( neu i lawr, pa bynnag un ydi o).
Amrywiol luniau o’r gerddi rydan ni wedi bod yn gweithio/chwysu/busnesa a ffilmio ynddyn nhw ydyn nhw, a rhai wedi cael gwell hwyl arni na’i gilydd. Dyma un oedd newydd gael ei blannu….
A dyna’r un ardd eto, efo un o’i pherchnogion hapus. Ond rhain ro’n i’n eu hoffi fwya, dim bwys gen i am bregeth Russ am fethu bwyta blodau!
A dyma rai gerddi eraill:
Gwych ynde! Bydd raid i chi wylio’r gyfres yn yr hydref i weld yr hanes a dod i nabod y cymeriadau. Achos dwi newydd glywed na fydd o mlaen fis Medi rwan, ond ryw dro ym mis Hydref. Hir yw pob ymaros…
A mwy o erddi: Bocsys taclus iawn fanna sylwer … Fe gewch yr hanes!
Russ wrth ei fodd efo broccoli rywun yn fanna!
Grrr…dwi’m yn gallu gweld hwn wrth sgwennu a llwytho i weld os ydi popeth yn y lle iawn, felly dwi’n gneud hyn yn ddall, fel petae. O, dechnoleg… Weithiau dwi’n dy gasau!
Ta waeth, dwi’n gobeithio mai rhywbeth oedd ar wal un o dai ein garddwyr ydi hwn, nath i mi chwerthin, a deud ia, cytuno i’r carn, gyfaill.
Ac yn ola, llun o ddwy nain yn dangos eu wyr bach newydd (wrth ymyl y petunias). Fy chwaer i ydi’r flonden, Dorothy Ann ydi’r nain arall a Mabon Llewelyn ydi’r bychan – fy ngor- nai newydd i! Llongyfarchiadau Leah a Gareth. A Leah ydi’r unig un o fy nithoedd a neiant sy’n dangos unrhyw ddiddordeb mewn garddio hyd yma. Ond does wybod faint o gyfle gaiff hi rwan, efo 3 plentyn bach i’w magu!