Filed under: Heb Gategori | Tagiau: arddegau, ceanothus, creyr glas, cynhyrfu, Diwrnod y Llyfr, great diving beetle, grug, Ioan Morgan, Llanfachreth, Llwyth, llyffantod, saffrwm, Sodom, swil
mae &^%$£ WordPress newydd golli pob gair o’r llith hir sgwennais i ETO!!! $%£@£%^&*(££@! BLIN? BERWI!
Anadlu’n ddwfn … trio eto:
Llun da de? Ioan Llewelyn ( bosib mai ‘y’ ydi o, nid ‘e’) Morgan, mab fy ffrind i gymrodd hwn – a’r rhain:
Roedd hi fel Sodom a Gomorra yn eu pwll nhw yn Llanfachreth wythnos dwytha. Ond mae na chydig o ‘action’ wedi bod yn fy mhwll i hefyd:
Ond sgen i’m lens cystal â Ioan ac mae fy llyffantod i’n fwy swil. Dim rhyfedd, achos mae na greyr glas ar eu holau nhw o hyd. Er hynny, craffwch yn ofalus ac mi welwch ben ôl a choesau llyffant ynghanol fy llun i.
Felly rhwng y llyffantod a’r gwenyn, mae na fywyd newydd yn yr ardd – ond dwi’m yn siwr os ydi hwn yn fyw:Fy ceanothus i. Fymryn yn frown. Fel hyn ddylai o edrych pan fydd o’n blodeuo:
Mi fydd yn wyrth os fydd hwn yn edrych fel’na. Unrhyw un ag unrhyw dips sut i atgyfodi ceanothus?
Dwi wedi bod yn chwynnu o ddifri wythnos yma, a phlannu mwy o saffrwm a grug ar gyfer y gwenyn. Gewch chi luniau tro nesa. Dwi’n dal yn flin am for y bali wefan blogio ma’n gneud i mi WASTRAFFU CYMAINT O FY AMSER!
Ond ges i sypreis neis heddiw – y llyfr yma wedi dod yn post: Ei lawnsio fo yn Ysgol y Moelwyn & Gader ar Ddiwrnod y Llyfr Mawrth 7fed. Edrych mlaen. Go iawn.
Reit, mynd i sgwennu hatemail at WordPress rwan.
Filed under: Heb Gategori
Mae WordPress yn deud bod angen i mi adnewyddu fy server, wel, lawrlwytho’r fersiwn diweddara. Ond mae’r server yn deud na fedar o neud hynny am fod fy nghyfirifadur yn rhy hen. Does isio gras? Pam na fedran nhw adael pethau fel maen nhw, achos mae’r bocs yma’n gweithio’n iawn, diolch yn fawr! Grrr.
Dwi wedi prynu cyfrifiadur newydd fel mae’n digwydd – ers misoedd. Ond mae’n dal yn y bocs achos golles i fynedd ar ôl ei siwtsio mlaen – roedd o isio cyfrinair. Rhyw gyfrinair roddwyd pan o’n i’n ei brynu yn y siop. Ydw i’n gallu dod o hyd iddo fo? Nacdw.
Pan fydd pethau’n gweithio’n iawn eto, gewch chi flog taclus efo lluniau. Ond tan hynny, tyff.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carys Tractors, cennin pedr, gwahanlen, gwanwyn, gwenu, gwenyn, Ioan Morgan, lili wen fach, llyffantod, marw, mygu
Ail gynnig ydi hwn. Naci, trydydd a bod yn onest. Dwi’m yn gwbod be sy wedi digwydd i WordPress ond mae isio rhoi tro yng ngwddw rhywun! Dwi di treulio ORIAU yn llwytho blwmin lluniau a sgwennu’n goeth a hyfryd, ond does na’m byd i’w weld ar y b•¶∞¢# blog wedyn! Grrr…
Dwi’n gallu copio’r paragraff cynta ma oddi ar Facebook ond dim mwy. Iawn, cyfri i ddeg … trio eto:
Ia, lluniau o’r ardd bore ‘ma. Doedd hi’n hollol wefreiddiol gweld awyr las a haul eto? Iawn, mae na ryw bali malwod neu rywbeth wedi bod yn… cnoi fy lilis gwynion bychain a’r cennin pedr oedd ar fin blodeuo ond mae na ddigon o liw i’w weld ar flodau a choed eraill.
Oedd yn grêt, achos roedd y gwenyn allan – ieee! Ro’n i wedi bod yn poeni amdanyn nhw. Ar un llaw, ro’n i isio gadael llonydd iddyn nhw dros y gaea, ddim isio’u styrbio na’u hoeri; ar y llaw arall, do’n i’m isio iddyn nhw lwgu. Ro’n i’n gwybod bod 2 o’r 3 cwch yn dal yn fyw am mod i wedi gweld gwenyn yn symud dros y queen excluder/wahanlen pan fues i’n eu bwydo nhw. Ond roedd pethau’n annifyr o dawel a di-symud yn y cwch flin – dyna dwi’n galw’r un lle doth yr haid ddiarth llynedd. Hen bethau pifish. Ar ôl gweld Carys Tractors yn dre y diwrnod o’r blaen, mi ddywedodd y dylwn fynd i’w chrombil ar fyrder. iawn, felly pnawn ma, mi wnes i danio’r mygwr am y tro cynta ers oesoedd a draw a fi at y gwenyn. At yr un flin/farw gynta – a mynd coblyn roedd hi fel ffair yn y fynedfa! Roedden nhw’n hynod fyw.
Rwan ta, dwi di bod yn darllen am ddynes sy’n rhyw fath o ‘horse whisperer’ i wenyn a dydi hi byth yn eu mygu nhw, felly wnes i fawr o fygu. A diawch, wyddoch chi be, er i mi fynd drwy bob ffram, roedden nhw’n glen ac annwyl a hyfryd – fel wyn bach. ‘Beth sydd wedi diiigwyyyyydd?’ Yr hen frenhines bifish wedi marw? Wedi sylweddoli ei bod hi mewn lle da? Ei bod hi’n licio fi? Pwy a wyr, ond roedden nhw’n lyfli. Ac roedd y ddwy arall yr un mor dawel a chlen – ac iach a byw a dim sôn am afiechyd nac adennydd cam na dim. Ew, ro’n i wedi mhlesio ac yn hedfan fy hun. Sbiwch llun ( sal) dries i ei gymryd ohonof fy hun wedyn:
Gwenu go iawn fanna – nid actio mo hynna! Ro’n i’n flin fel tincar ddoe ond yn hapi byni go iawn ar ôl bod yn trin fy ngwenyn. Dylai doctoriaid ystyried rhoi gwersi trin gwenyn yn lle tabledi i bobl sy’n diodde o’r felan. A tase hi ddim yn nos, mi fyswn i’n mynd nôl at y gwenyn rwan i g^wlio lawr ar ôl i WordPress fy ngyrru’n benwan!
Cofiwch chi, roedd yr haul yn help i godi gwên hefyd doedd? A’r adar yn canu – a nythu fel mae dau ditw tomos las wedi gneud yn y bocs pren eto Fethais i gael llun call ohonyn nhw. A does na’m robin goch wedi sbio ar y tebot eto. Ro’n i wedi gwirioni efo’r llyffantod hefyd, ond gewch chi hanes rheiny yn y blog nesa ( dim mynedd rwan!) ond dyma un llun bach i aros pryd:
Ioan Morgan, mab fy ffrind, Luned, gymrodd hwnna. Mwy tro nesa. A dwi’n mynd i gopîo hwn cyn pwyso ‘Cyhoeddi’, achos os ydi o’n diflannu eto mi fydd fy sgrech i’w chlywed yn y Bala …