BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwefan newydd, cyfres newydd
Mawrth 31, 2009, 1:51 pm
Filed under: 1

A dyma ni ar wefan wahanol am fod y llall angen cic yn dîn. Croesi bysedd y bydd hon yn gweithio’n well! Dal i ddysgu sut i’w defnyddio ydw i, felly maddeuwch unrhyw smonach.

Dwi isio ychwanegu lluniau, mi wnai ddeall sut toc mae’n siwr. Dwi’n ei gweld hi’n anodd dangos i chi be dwi wedi bod yn ei neud yn yr ardd yma – a gerddi pobl eraill – heb luniau. Ond mi allai eich sicrhau chi mod i wedi bod yn brysur. Mor brysur, mae gen i lefrithen! Stye in the eye i chi sydd rioed wedi clywed/darlen y gair o’r blaen. Arwydd mod i wedi blino mae’n debyg. Ydw.

Ond sgwennu a darllen a golygu a theithio sy’n blino rhywun; mae garddio’n gwneud byd o les yntydi? Dwi newydd fod yn brysur efo caib a rhaw yn trio tynnu gwrych (dim clem be ydi hi, sori, dal yn anobeithiol efo enwau) allan er mwyn ei thrawsblannu yn rhywle arall. Mi gymerodd dridiau i mi’n y diwedd, a galwyni o chwys. Ond mi ddylai’r camelia oedd uwch ei phen hi gael llonydd i dyfu’n well rwan. A dwi’n teimlo ganmilgwaith gwell hefyd.

O, ac ers i chi weld fy ngardd i ddwytha, mae gen i bwll, a llwyth o benbyliaid ac o leia dwy lygodenfawr. Mwy am rheiny rywbryd eto.

Yn y cyfamser, dwi wedi deall sut i ychwanegu llun (insert image ar y top) a dyma i chi Russell efo’i ferfa llawn blodau a stwffiach gafodd ei defnyddio ar gyfer ffilmio’r hysbyseb S4C. Niwl? Roedd o fel uwd. Dwi eto i allu gweld patch Russell heb niwl. O, ac mae’r cyclamens pinc a phiws ‘na yn fy ngardd i bellach – ro’n i ffansi chydig o liw, a llysiau sydd ar y patch ynde – o, a miloedd o gennin pedr yn ôl Rhaglen 1. Syniad da ydi cael plant ysgol i mewn i neud y gwaith budr drosoch chi! Medde hi sy’n cael dynion mawr cry i mewn i godi wal a sied …

p1010070