Filed under: Heb Gategori | Tagiau: acer, blodau haul, chilli, hydref, jeli mafon duon, lliwiau, pechu, Penygroes, rhaglen arddio, Tyfu Pobl
Am fod lliwiau’r ardd mor fendigedig heddiw, rois i’r gorau i weithio ar y nofel a mynd allan efo’r ipad. Cymaint haws na chwilio am y camera mawr. A dyma i chi agweddau gwahanol o ngardd i – ac ydw, i loves my acer, i do.
Dwi wedi gwirioni bod cymaint o flodau’n dal yn fyw, a rhai wedi atgyfodi o’r marw. Sbiwch ar fy mlodau haul i:
Dwi wedi’i ddeud o o’r blaen, ac mi ddeudai o eto: yr Hydref ydi fy hoff dymor i o ddigon. Es i am dro efo Del ar y beic bore ma, a sbiwch golygfeydd – Dolgamedd, ty fy rhieni ydi’r lle bach llwyd yna yn y coed – yn y pellter. Nefoedd ynde!
A dyma lun gymres i efo fy ffon 3G o dy fy ffrindiau, Luned a Richard morgan neithiwr. Machlud gwefreiddiol.
O, a gyda llaw, rois i lwyaid bach o’r jeli mafon duon a chilli mewn grefi efo’n cinio dydd Sul, ac roedd o’n flasus, bobol bach.
Ac mae’n wir ddrwg gen i bod rhaglen Tyfu Pobl wedi pechu rhai o drigolion Penygroes – mi wnaethon ni ffilmio mwy o bethau fyddai wedi eu plesio nhw, ond rhaglen am arddio ydi hi yn y diwedd, a doedd na’m lle i’r darnau hynny yn y diwedd. Gobeithio y gwelan nhw fwy i’w plesio erbyn diwedd y gyfres…
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: anemones, atgoffa, Bellis, Blin, briallu, BYYA, cadw, cennin pedr, coeden, disgyn, gwanwyn, ieir, lliwiau, Llyfrgell Caernarfon, pedr, Russell, zebra stripes
Dwi’n dal i drio dalllt y ffordd newydd o osod blog yn y bali system newydd ma. Ee. Dwi’n teipio rwan a methu gweld be dwi’n deipio. Beth sydd wedi digwydd?!? Ac wedyn do’n i methu teipio o gwbl. Hm. Ai bod yn sinigaidd ydw i yn amau falle eu bod nhw’n trio gneud i mi uwchraddio – hy talu, er mwyn gwneud y blogio’n haws?
ond mae pethau i’w gweld yn gweithio rwan, heblaw am ddiffyg llythyren fawr ar ddechrau’r frawddeg na … Grr. Iawn, driwn ni lun rwan ta:oce, nid hwnna oedd i fod fanna, ond dyna ni. Enillais i hwnna mewn raffl ond dio’m yn ffitio i mewn i unrhyw bot sy gen i.
Dwi’n trio sgwennu mwy ond yn gorfod mynd rownd y byd i neud hynny. Nai chwythu gasket ar y ret yma! Iawn, llun fanna o’r ardd fel mae hi heddiw – dim eira sylwch, mond ar y bryniau. Fel gwanwyn go iawn fan hyn. Ambell wenynen allan hyd yn oed. Iawn, mi fentrai roi llun arall…
dim clem os weithiodd hynna, ond nai ddal ati i deipio yn y gobaith mai llun o fy mriallu newydd zebra stripes ydi o. Del de? A llonydd gan y malwod hyd yma. A dyma fwy o mlodau bach newydd i. Bellis os cofia i’n iawn , math o lygad y dydd crand.
Hei! Mae’n gwella ma! Gobeithio mai llun o ddifrod llygod ydi hwn. Nid yn glir, ond y diawlied bach wedi chwalu fy ngwely grug i a gadael darnau cwbl foel.
Ymgais i osod blodau gwanwynol yn y darn gwag, hyll ydi hynna. Chydig o gennin pedr oedd yn diodde yn y wal gafodd ei chwalu yn y fynedfa, am fod angen lliw rwan yn y gwely fydd yn for o anemones nes mlaen. Ew, job ydi cadw’r lliwiau i fynd drwy’r tymhorau. Unrhyw syniadau be arall fedrai ei roi yna? Heb wario ffortiwn? Mae BYYA wedi mynd yn fwy o bres poced na chyflog i ni felly dim dosh, gyfeillion! O, ac os ydw i wedi dallt yn iawn, dim ond fis Medi welwch chi ni eleni. Dim rhaglen garddio dros yr haf. Nid yn 2013 o leia.
A dyma i chi goeden sydd wedi disgyn dros y wal i mewn i ngardd i. Sy’n fatgoffa – angen ffonio’r ffarmwr i adael iddo fo wybod. A gan fod blogio hwn di cymryd oes a dwi di cael llond bol a dim mynedd llwytho mwy o’r lluniau, ta ta am y tro. Blin? Moi?! O, ia, mi fydd Russell yn Llyfrgell Cfon Ebrill 13, 10.30. Mond isio deud hynny o’n i’n lle cynta pan ddechreues i’r blog ma! Felly ewch i wrando arno fo – yn siarad am ieir, garantid …