Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brenhines, gwenwyn, gwenyn, haid, heidio, hollti, marw, mel i gyd, neithdar, paill, poison, Poisoning, robbing, trist, ymosodol
Newyddion trist mae arna i ofn. Cofio’r cwch o wenyn blin oedd gen i? Yr haid hedfanodd dros yr ardd gan fy nychryn yn rhacs oedd hi. Gwenyn prysur tu hwnt, yn hel paill a neithdar fel pethe gwirion, ond ymosodol a deud y lleia! Felly mi nath Carys a fi hollti’r cwch fis Mehefin a mynd a 4 ffram, gan gynnwys y frenhines, i’r cwch gwag oedd gen i yng ngardd fy rhieni.
Carys ydi honna, a hen gwch ges i’n ail law ydi hwnna. Rois i niwc ges i gan Carys ynddi llynedd, ond naethon nhw rioed lwyddo’n dda iawn, a rheiny fu farw dros y gaea.
Wel, roedd gen i obeithion mawr am y gwenyn yma a’u brenhines hynod gref. Ac roedden nhw’n gneud yn dda.
Ond rhyw dair wythnos yn ol, dyma be oedd ar lawr o flaen y fynedfa:
Pentwr o wenyn wedi marw, wedi pentyrru ar ben ei gilydd ac wedi dechrau cynthroni. Roedd y drewdod yn ofnadwy. A thu mewn i’r cwch, roedd hi’n waeth. Carped dwfn o gyrff.
Wel, ro’n i’n meddwl i ddechre mai haid arall oedd wedi ymosod arnyn nhw, achos doedd na’m tamed o fel ar ol yn y fframiau.
Roedd Carys yn ofni mai salwch o ryw fath oedd o, felly nes i ffonio’r insbector gwenyn. Mi ddoth fore Sadwrn, a deud nad oedd o rioed wedi gweld y fath beth o’r blaen.
“Possibly robbing,” medda fo, “but probably poisoning.” Ond roedd y cyrff wedi pydru gormod i ni gael sampl digon mawr i’w yrru i’r gwyddonwyr wneud profion i weld sut wenwyn oedd o.
Mi ddylwn i fod wedi hel llond jar yn syth a’i gadw yn y rhewgell.
A ble fysen nhw wedi dod o hyd i’r gwenwyn? Wel, os oedd rhyw arddwr/ ffarmwr wedi bod yn defnyddio chwynladdwr cry ar ‘chwyn’ oedd mewn blodau ar y pryd… Mi fysa hynny’n ddigon. Does na’m gwenyn lleol eraill wedi marw, jest y cwch yma oedd yn anlwcus, beryg.
Mor drist. Ond dyna ni, dydi cadw gwenyn ddim yn fel i gyd … (Sori!)
A gan mod i wedi hollti’r cwch arall hefyd, dwi’m yn meddwl y bydd gen i fel i’w roi i neb eleni, sori… Flwyddyn nesa ella!