Filed under: Heb Gategori | Tagiau: anemones, atgoffa, Bellis, Blin, briallu, BYYA, cadw, cennin pedr, coeden, disgyn, gwanwyn, ieir, lliwiau, Llyfrgell Caernarfon, pedr, Russell, zebra stripes
Dwi’n dal i drio dalllt y ffordd newydd o osod blog yn y bali system newydd ma. Ee. Dwi’n teipio rwan a methu gweld be dwi’n deipio. Beth sydd wedi digwydd?!? Ac wedyn do’n i methu teipio o gwbl. Hm. Ai bod yn sinigaidd ydw i yn amau falle eu bod nhw’n trio gneud i mi uwchraddio – hy talu, er mwyn gwneud y blogio’n haws?
ond mae pethau i’w gweld yn gweithio rwan, heblaw am ddiffyg llythyren fawr ar ddechrau’r frawddeg na … Grr. Iawn, driwn ni lun rwan ta:oce, nid hwnna oedd i fod fanna, ond dyna ni. Enillais i hwnna mewn raffl ond dio’m yn ffitio i mewn i unrhyw bot sy gen i.
Dwi’n trio sgwennu mwy ond yn gorfod mynd rownd y byd i neud hynny. Nai chwythu gasket ar y ret yma! Iawn, llun fanna o’r ardd fel mae hi heddiw – dim eira sylwch, mond ar y bryniau. Fel gwanwyn go iawn fan hyn. Ambell wenynen allan hyd yn oed. Iawn, mi fentrai roi llun arall…
dim clem os weithiodd hynna, ond nai ddal ati i deipio yn y gobaith mai llun o fy mriallu newydd zebra stripes ydi o. Del de? A llonydd gan y malwod hyd yma. A dyma fwy o mlodau bach newydd i. Bellis os cofia i’n iawn , math o lygad y dydd crand.
Hei! Mae’n gwella ma! Gobeithio mai llun o ddifrod llygod ydi hwn. Nid yn glir, ond y diawlied bach wedi chwalu fy ngwely grug i a gadael darnau cwbl foel.
Ymgais i osod blodau gwanwynol yn y darn gwag, hyll ydi hynna. Chydig o gennin pedr oedd yn diodde yn y wal gafodd ei chwalu yn y fynedfa, am fod angen lliw rwan yn y gwely fydd yn for o anemones nes mlaen. Ew, job ydi cadw’r lliwiau i fynd drwy’r tymhorau. Unrhyw syniadau be arall fedrai ei roi yna? Heb wario ffortiwn? Mae BYYA wedi mynd yn fwy o bres poced na chyflog i ni felly dim dosh, gyfeillion! O, ac os ydw i wedi dallt yn iawn, dim ond fis Medi welwch chi ni eleni. Dim rhaglen garddio dros yr haf. Nid yn 2013 o leia.
A dyma i chi goeden sydd wedi disgyn dros y wal i mewn i ngardd i. Sy’n fatgoffa – angen ffonio’r ffarmwr i adael iddo fo wybod. A gan fod blogio hwn di cymryd oes a dwi di cael llond bol a dim mynedd llwytho mwy o’r lluniau, ta ta am y tro. Blin? Moi?! O, ia, mi fydd Russell yn Llyfrgell Cfon Ebrill 13, 10.30. Mond isio deud hynny o’n i’n lle cynta pan ddechreues i’r blog ma! Felly ewch i wrando arno fo – yn siarad am ieir, garantid …
Filed under: Heb Gategori
O, y trafferthion o gadw blog! Gan fod WordPress yn mynnu mod i angen uwchraddio fy nghyfrifiadur, a’r cyfrifiadur yn rhy hen i’w uwchraddio, dwi wedi prynu Mac newydd – ers misoedd. Dyma fi’n sgwennu arno rwan: drapia – ro’n i’n meddwl bod na opsiwn i gynnwys llun rwan ( fel oedd na ar yr hen fersiwn o WordPress) a welai run rwan. Grrr.
Ta waeth. mi wnes i ei brynu ar frys, a methu cofio’r cyfrinair am oes. Wedi llwyddo i fynd mewn iddo ddoe – a dwi’n sylweddoli nad oes gen i syniad mwnci lle rois i’r CD Windows ayyb. Argol, mae isio gras. Ydw, dwi’n gallu mynd ar y we yn llawer cynt ond fedrai’m sgwennu! A dwi’n dal ddim yn dallt WordPress ar ei newydd wedd!
Iawn, wedi gorfod rhoi’r llun mewn post ar wahan. Isio gras. Ond diaw – newydd lwyddo i’w roi ar dop hwn rwan. Fffff.
Beth bynnag, pan fyddai wedi dallt hwn, ac wedi do yn ôl o Wyl Llen Plant Caerdydd. gewch chi flog call.
Ond am y tro, stwffio fo!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bwced bwydo, bwlio, Carys Tractors, cwch, cynnes fel tôst, Dolgamedd, gwenyn, haid, mêl, perllan, pigiadau, spirit level
Dyma sut mae pethe yn y gwyllt: yr haid wan sy’n y cwch mwya, ar y chwith. Yr un gynta ges i sydd drws nesa, ac mae’r un ddiarth yn y cefndir. O, a sylwch ar y grug gwyn ym mlaen y llun – wedi ei blannu fel na fydd raid teithio’n rhy bell … dio’m yn llawer, ond mae’n well na dim!
Felly dyma’r crown board ar ben y wahanlen, ac os sbiwch chi’n ofalus mae na un neu ddwy wenynen yn codi drwy’r tyllau i weld be goblyn sy’n mynd ymlaen.
Pan gyrhaeddodd Carys, y peth cynta nath hi oedd stwffio lwmp mawr o foam i mewn i’r fynedfa.
Gosod y strap a’r flanced ar lawr wedyn a’r ddwy ohonon ni’n gosod y cwch yn ofalus yn y canol. Doedd hi’m yn drwm o gwbl – fawr o fêl ar ôl ganddyn nhw nagoes, bechod?
Clymu’r cyfan fel parsel bach taclus a’i gario i’r car.
Car Carys, achos roedd fy fan i yn y garej yn cael brake pads newydd …
Sef yr hen berllan yma sydd am yr afon o’r ty. Pêl ydi’r peth gwyn na’n y canol. A dyma’r ty mewn silwet – jest i ddangos i chi y pellter o’r ty i’r berllan.
Carys yn deud ‘fan hyn!’Sbiwch yn ofalus ac mi welwch bod ‘na ddwy flocen goncrit fanna – un yn lân a newydd, y llall yn fwsog i gyd, ac mae Carys yn gwirio efo spirit level bod y cyfan yn gwbl lefel.
A dyna ni, y cwch yn ddiogel yn ei chartref newydd.Mi ai draw eto fory i roi’r supers yn ôl arni, a’r bwced bwydo, a chroesi bysedd y cawn nhw lonydd i gael babis a chryfhau. Roedd hi’n wan iawn, iawn, bechod, dim swn byzzian na dim, a dim ond rhyw ddwy wenynen ddaeth allan pan dynnodd Carys y foam allan o’r fynedfa. Mae Carys yn deud y dylwn i roi rhywbeth ychwanegol dros y cwch hefyd, i’w helpu i gadw’n gynnes yn ystod y nosweithiau oer ‘ma. Mae gen i ddarn hir o sbwng mae rhywun yn ei ddefnyddio i gysgu arno mewn pabell, neith y tro yn champion. Ddois i o hyd iddo fo ar ochr y ffordd fisoedd yn ôl – a gwybod y byddai’n ddefnyddiol ryw dro. Bosib roi chydig mwy o bethau drosti ac o’i chwmpas hefyd i ofalu eu bod nhw’n gynnes fel tôst.
Ond am y tro, nos da fy ngwenyn bach. Croeso i’ch cartref newydd.