BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Newid enw
Medi 7, 2013, 8:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , , , , , ,

Rhag ofn eich bod chi’n poeni ble mae Byw yn yr Ardd wedi mynd, mae’r enw wedi newid. Tyfu pobl fydd enw’r gyfres yma, ac mi fydd gwybodaeth amdani yn eich papurau lleol yn fuan, gobeithio. Roedd na rywbeth ar Radio Cymru hefyd, ond glywes i mono fo. Mi fedrai wastad ‘wrando eto’ mae’n siwr. Da ydi technoleg ynde? Heblaw am y dechnoleg ar y wefan yma, neu fy ipad i. Dyna un rheswm pam nad ydw i wedi bod yn blogio llawer yn ddiweddar – mae’n ormod o gybol! Methu cywiro fy hun heb fynd rownd y byd a chychwyn eto, ac mae’r cursor am ryw reswm yn y man gwbl anghywir felly dwi methu gweld be dwi’n depio! Aaaaa!

Nes i roi’r ffidil yn y to ar ol sgwennu hynna pnawn ma, ac mae’n bihafio’n well heno, diolch byth.
Reit, ble ro’n i? O ia. Tyfu pobl. Pan welwch chi’r gyfres mi fydd yn gneud mwy o synnwyr. A peidiwch a phoeni, mi gewch chi dips tyfu yr un fath- wel, tyfu llysiau o leia. Weles i’r rhaglen gynta wythnos dwytha ac mae’n edrych reit dda! Mae’r bosys yn hapus hefyd, felly ( yn dibynnu ar y ffigyrau gwylio am wn i), bosib y bydd na Dyfu Pobl o ardal wahanol flwyddyn nesa. Gawn ni weld pa mor blwyfol ydi’r Cymry. Ydi rhywun o Abertawe/ Machynlleth/Wrecsam yn mynd i fod a diddordeb mewn pobl o Ddyffryn Nantlle? Difyr fydd gweld.
Ond welwch chi fawr o ngardd i, felly dyma ambell lun!
image

image

A dyma lle bu coeden Dolig fechan wnes i ei phlannu ryw ddeg mlynedd yn ol, dyfodd i fod yn anghenfil – sitka spruce oedd hi os cofia i’n iawn. Blwmin pigog beth bynnag! Ond rwan, diolch i hen gyfaill a’i fwyell, mae hi wedi mynd, a’r dderwen fach yma’n cael llonydd i dyfu yn lle.
image

image
A dyma luniau o Sioe Rhydymain a’r cylch. Nid fy llysiau i oedd rhain, ond Crispin a Karen, dau ddysgwr lleol. Chawson nhw’m cynta chwaith, ond mae nhw’n ddel tydyn?
image
Ond fi nath y chytni yma – efo afalau o’r ardd (mae gen i gannoedd) a nionod coch (siop – dwi’n cael dim hwyl ar dyfu nionod) a ges i 3ydd, cofiwch. Haeddu cynta os dach chi’n gofyn i mi, ond dyna fo…
image
A dyma fy ffrind Olga, a’i dalmatian, Juno. Doedd hi’m wedi meddwl cystadlu, ond nes i fynnu ac mi enillodd ddosbarth y ci mawr! Ro’n i wedi gadael Del druan adre…
image
A cwpwl o luniau eraill dwi’n eitha balch ohonyn nhw:
image

image
Ac yn olaf, Del efo’i ffrind newydd Thor, neu Thorne neu Thornton. Ddim yn siwr iawn pa un sy’n gywir bellach. Ffrindiau wedi ei fabwysiadu a ddim yn rhy hoff o’r enw Thorne. O’n i’n meddwl sa Sion yn swnio’n debyg i Thorne i glustiau ci ond dyna fo. Doedd Del ddim yn rhy hoff ohono fo i gychwyn ( mae o dwtsh yn fawr a thrwm a thrwsgl…) ond maen nhw’n gneud yn iawn rwan a’i chynffon yn troi fel hofrennydd pan mae’n ei weld. Diolch byth!
image



Nadolig
Rhagfyr 24, 2012, 4:19 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

DSC_0074Fydda i ddim yn gyrru cardiau drwy’r post, dim ond yn gyrru ebost efo llun Nadoligadd. DSC_0075 DSC_0076Ond fel y gwelwch chi, doedd Del ddim yn rhy hapus i helpu eleni. Wel, ro’n i wedi trio ei chael hi i bôsio mewn het ar gyfer ci – ond un ar gyfer cwn rhech oedd o dwi’n meddwl – braidd yn fach iddi. Felly dyma roi yr un yma arni, ond nagoedd, doedd hi ddim yn hapus. Ta ta llun artistig efo coeden Dolig yn sgleinio yn y cefndir. O wel.

Dwi newydd wneud mwy o fins peis gan fod y rhai wnes i bythefnos yn ôl wedi diflannu rhywsut, a dwi newydd fod yn stwnsio pupur a halen a saets a chydig o garlleg i mewn i fenyn – fydd yn cael ei stwffio o dan groen y twrci toc.  O, ac mae’r llaeth efo’r nionyn & cloves wrthi’n mwydo ar gyfer y saws bara, ac mae’r giblets yn mudferwi ar gyfer stoc y grefi. Ond wnaiff y twrci ddim ffitio yn y tun rhostio sydd gen i – ond diawch, mi roedd o llynedd, dwi’n siwr. Twrci o’r un maint dwi’n meddwl – 15 lb. Mi aiff i mewn ar binsh, dim ond i mi ofalu fod y saim o’r pen ôl yn llifo o dan y ffoil ac nid ar hyd llawr fy mhopdy i. Gas gen i lanhau popdy!

Beth bynnag, ydi, mae popeth yn barod at fory, mae Nain wedi dod adre o’r sbyty ac mi fydd hi a Noni ( fy modryb o LA) yn dod aton ni i ginio. Mwynhewch eich Dolig chithe a pheidiwch a gadael i’r glaw ‘ma ddifetha pethe!

O, a chofiwch wrando ar Radio Cymru tra’n paratoi yn y gegin bore fory … mi gewch chi brofiadau cerddorol rhyfeddol.

Bethan XX



Syniad am anrheg i arddwyr
Chwefror 1, 2012, 7:47 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Chwefror yn barod?! Mae 2012 yn rasio heibio myn coblyn. Mi fues i’n tacluso a thocio dros y penwythnos, jest cyn iddi rewi. Siapio chydig ar goediach a gwrychoedd, fel eu bod nhw’n tyfu’n well pan ddaw’r gwanwyn. Mae’r bin brown yn orlawn, y bin compost yn llawn at yr ymylon a llwyth o stwffiach yn pydru mewn pentwr yn y gornel bellaf ( rhyw fath o domen gompost sy’n sicr yn gweithio gan fod gen i chwyn ffantastic yn tyfu yno).

A sôn am chwyn, tydi’r llun uchod yn grêt? Anrheg bach Cymraeg, difyr ar gyfer y dynion yn eich bywyd sy’n garddio – neu o leia’n rhoi cynnig arni. Fan hyn maen nhw ar gael:

http://www.adrahome.com/index.php?main_page=product_info&products_id=575&language=cy

Cyfle i chi gefnogi cwmni Cymraeg. Ydw i’n cael hysbysebu ar hwn dwch? Dwi’m yn gweld pam lai a dwi’n meddwl ei bod hi’n ddyletswydd arnai i roi sylw i gynnyrch Cymraeg o Gymru. Dach chi’n cytuno? Cofiwch chi, dydi’r llechi bach yma’n dda i ddim i mi gan nad oes gen i unrhyw ddyn yn fy nheulu sy’n garddio. Roedd Taid Frongoch, tad fy mam, yn tyfu llysiau yn arbennig o lwyddiannus, ond mae o wedi’n gadael ers blynyddoedd rwan, fel y taid arall, Taid Gronant, ond doedd o’m yn trafferthu efo llysiau o gwbl mae’n debyg. Nain oedd yr un oedd yn hoffi blodau ond er ei bod hi’n rhyfeddol am 96 ac yn dal i fyw ar ei phen ei hun ( dyma hi efo Del), dydi hi’m yn gallu garddio ryw lawer rwan. Fi sy’n gneud hynny iddi, fwya. Jest plannu pethau mewn potiau a chadw trefn ar y rhosod a’r chwyn. Mae hi wrth ei bodd efo lliw o gwmpas y lle,  a gawson ni flwyddyn dda yn 2011, chwarae teg.

Mae Mam yn garddio’r mymryn lleia ( ond fi sy’n tocio’r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd. Ond mae’n un da am godi waliau, chwarae teg. Y ddawn yn dod yn handi acw weithie!

Rhywbeth arall sydd ar werth ar wefan ‘Adra’ ydi hwn:

Mae gen i bot neu ddau fel yna fy hun a dwi wrth fy modd efo nhw. A rhag ofn nad ydw i i fod i hysbysebu un cwmni yn ormodol, maen nhw ar gael hefyd ( neu mi roedden nhw llynedd …)  yn y farchnad ar sgwâr Dolgellau sy’n cael ei chynnal ar fore Sul unwaith bob mis. Braidd yn drwm i’w postio hefyd, ddeudwn i. Ond mae o i fyny i chi! Roedd na rai yn ‘Spectrum’ Machynlleth ar un adeg hefyd.

Er mod i wedi bod yn tacluso, mae arna i ofn bod y ty gwydr ‘chwythu i fyny’ yn dal yn grempog ar y gwair. Dwi’m wedi sbio ar y bali peth. Mi wnai drio ei chwythu i fyny eto pan gai’r amser a’r awydd, jest i weld faint o byncjars sydd ynddo fo. Ac ydw i’n mynd i drio eu trwsio? Ym … gawn ni weld.

O ia, ges i goblyn o hwyl yn sgwrsio efo Gaynor Davies ( nid Gaenor ydi hi naci? Naci, siwr mai Gaynor ydi hi) ar Radio Cymru bnawn Sul. Ro’n i’n cael dewis tair cân a malu awyr am hir rhyngddyn nhw – pleser pur. Os ydach chi isio gwybod sut fath o falu wnes i, mi fydd i’w glywed ar yr iplayer ar wefan radio Cymru am ryw bythefnos, dwi’n meddwl. Dwi’n mwynhau’r radio fel cyfrwng. Cymaint mwy o ryddid na sydd ar deledu – am ei fod o gymaint rhatach, felly llai o bwysau i fod yn fyr a chryno.

Yn darllen ‘When God was a rabbit’ rwan – hwnnw’n bleser pur hefyd.