BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Grifft, paneli a Rich 2 Olwyn
Mawrth 30, 2010, 2:49 pm
Filed under: 1

Jest i brofi bod y llyffant wedi ffansio fy mhwll i … dim ond un hyd yma, ond does wybod be ddaw yn yr holl law ma. Mi wnai gymryd llun o’r ‘rhaeadr’ fechan toc achos dwi wedi penderfynu bod angen rhyw fath o gerflun neu rhywbeth ar ei ben o a dwi isio syniadau!

Ta waeth, mae’r rhaglen gynta eleni heno dwi’n meddwl, tydi? Ond wela i mohoni achos dydi fy signal Sky i ddim yn gweithio ers ddydd Gwener am fod hwn ar y to:

Ar gyfer y paneli haul/heulol/solar mae hwnna. Ac mae’r bois newydd adael pnawn ma, wedi diwrnod a hanner yn eu gosod nhw. Dau foi clen iawn o Leeds. A dwi’n hapus iawn efo’r canlyniad! Dydyn nhw DDIM yn hyll! Gewch chi eu gweld nhw unwaith fydd y sgaffaldiau yma wedi dod lawr. Ond maen nhw wedi bod reit handi yn y cyfamser. Mae’n siwr mod i wedi torri’r rheolau yn rhacs ond nes i ddringo i jest o dan y platfform i baentio’r V gwyn na dros y ffenest. Does gen i’m ysgol digon hir i’w neud fel arfer! Mi nath fy nghoes chwith i ddechre crynu pan ro’n i’n hongian oddi ar un polyn … a finne rioed wedi diodde vertigo o’r blaen! Henaint mae’n rhaid . Yn anffodus do’n i methu cyrraedd y V arall felly mae golwg y diawl ar hwnnw o’i gymharu â’r llall rwan. O wel. Benthyg ysgol hir fydd raid. A duwcs, efallai gai gyfle i lanhau’r ffenest o’r tu allan am y tro cynta erioed!

Dwi wedi plannu rhai o’r coed yn barod i lenwi’r bylchau yn y gwrych ond mae gen i ryw 50 ar ôl. A dyma i chi lun ohona i efo Richard, fu’n gwneud y torri. Mae o i fod i ddod yn ôl i dorri’r bonion yn goed tân ond efallai fod y babi newydd gyrraedd – neu ar fin cyrraedd o leia. Mi wnai ei ffonio nes mlaen i weld be ydi be. Ond efallai mai disgwyl i’r siec fynd drwadd mae o …

Newydd fod ar ben y platfform na a dyma fy ngardd i fel mae aderyn yn ei gweld! Wel, aderyn ar y to.

A dyma sut siap sydd ar do’r sied eco ..



y pwll neithiwr
Mawrth 28, 2010, 2:53 pm
Filed under: 1

Tydi o’n ddel! A ddeuddydd wedi ei gwblhau, roedd na lyffant wedi galw a gadael blob reit dda o rifft llyffant ynddo fo. Wir yr! Gewch chi lun o hwnnw fory neu drennydd. Jest isio rhannu fy hyfryd bwll efo chi!



Y pwll
Mawrth 21, 2010, 10:59 pm
Filed under: 1

Ydach chi’n cofio Russell a’i frawd yn fy helpu i wneud pwll i ddenu bywyd gwyllt llynedd? Union flwyddyn yn ôl fel mae’n digwydd … wel, roedd o’n edrych yn eitha i ddechre. Braidd yn fach, a do’n i’m yn siwr am y ffaith bod yr holl rwber yn y golwg, ond duwcs, roedd o’n iawn, ac mi ddoth y penbyliaid. Ond doedd o’m yn ddwfn iawn, ac unwaith iddi ddechre cynhesu, dyma be digwyddodd:

Ia, rhyw hen algae hyll, afiach oedd yn crogi pob dim. A thros y gaea ma, mi rewodd yn golsyn fel bod pob dim yn gelain – hyd y gwelwn i beth bynnag. Anghofies i dynnu llun ohono fo cyn i’r dynion mawr o Lanuwchllyn gyrraedd dydd Iau dwytha. Gwyn, ei fab Dochan a Dilwyn. Mi ddoth y tri yn gynnar iawn – wel, Dochan a Dilwyn chydig hwyrach am eu bod nhw mewn layby, methu dod o hyd i’r ty nes i mi eu pasio ar feic efo Del …

A chyn pen dim, roedden nhw wedi gwagu’r hen bwll a thyllu un mwy a thipyn dyfnach …

gwaith caled, a dyna pam fod Dilwyn yn sychu’r chwys oddi ar ei dalcen. Roedd hi’n eitha braf a sych drwy’r bore, ond roedd y glaw ar ei ffordd a phawb yn gwybod hynny ac yn mynd fel fflamia. Cinio hwyr iawn amdani! Ro’n inne’n trio helpu ond mi wnes i sylwi’n o handi mod i o’r ffordd felly mi es i gribinio mwswg yn lle – a sbiwch – mi weles i bod gynnon ni gynulleidfa – madfall.

Mae gen i deulu ohonyn nhw’n dod i’r golwg bob ha – ond rioed mor gynnar â hyn o’r blaen. Ta waeth, mi ddoth y glaw wrth gwrs, a chyn pen dim roedd y pridd yn llaid ond roedd y rwber i lawr mewn pryd diolch byth. Ro’n i wedi meddwl rhoi cerrig crynion o gwmpas y pwll, ond mi sylwodd Gwyn fod gen i lechi mewn pentwr wrth y fynedfa. Ia, iawn, defnyddia nhw ar bob cyfri meddwn yn llawen.

A dyma’r gwaith ar ei hanner – cot law Richard y gwr camera yn dangos fod y tywydd wedi troi.

Roedd hi wedi tywyllu erbyn i ni orffen a finne’n gorfod brysio am y de reit handi. Ond dyma lun ohonon ni’n sefyll ar lan fy mhwll newydd hyfryd! Gewch chi lun yng ngolau dydd ryw ben!



a bydded goleuni …
Mawrth 11, 2010, 10:15 am
Filed under: 1

Dwi wedi bod isio plygu’r gwrych rhwng y ty a’r ffordd fawr erioed. Ond wedi bod yma ers deg mlynedd, do’n i’m wedi gneud dim am y peth a jest gadael i’r coed dyfu nes eu bod nhw’n llawer rhy uchel. Ond ddoe, daeth tro ar fyd. Daeth Richard Dwy Olwyn draw efo’i li gadwyn … Er mwyn plannu coed bach newydd hawdd eu plygu, mae’n rhaid gwneud lle. Felly hacio a chwalu amdani …

Bore ddoe, fel hyn roedd hi’n edrych o’r ochr arall o’r ffordd:

Ond erbyn y pnawn, roedd gyrrwyr ceir rhwng Bala a Dolgellau yn cael braw … sbiwch gwahaniaeth!

Roedd o’n dipyn o sioc, rhaid cyfadde. Ond rwan, fe ddylai fy ngardd fwynhau’r holl oleuni newydd, a’r lawnt yn diodde llai o fwsog efallai. A beryg y bydd yr ochr yna o’r ty yn gynhesach! Ar yr ochr negyddol wrth gwrs = llai o breifatrwydd – dwi’n teimlo’n noeth! Mae pawb yn gallu ngweld i rwan – a gweld pob dim dwi’n ei hongian i sychu ar y lein ddillad!

Mae na dipyn o waith clirio canghennau i’w wneud heddiw. Dwi’n cadw cryn dipyn fel coed tân wrth gwrs. Eith y llwch lli ddim yn ofer chwaith.

A sbiwch – o graffu’n ofalus ar dalcen y ty mae’n bosib gweld RW a AM (Vaughan – nhw gododd y ty) a’r dyddiad 18/37 bob ochr i’r ffenest.

Iawn, dydi o’m yn glir – ond maen nhw yno, wir yr! Roedd Dafydd y gwr camera yn meddwl y dylwn i eu paentio i wneud iddyn nhw sefyll allan ond dwi’m yn siwr.

A nefi wen, dwi newydd gael gwybod mod i wedi cael caniatad i roi paneli haul ar y to (i gynhesu dwr) – roedd y Parc wedi gwrthod ddwywaith ond daeth boi i fyny o’r Cynulliad wedi i mi roi apêl i mewn. Doedd o’m yn gweld pam na ddylwn i eu cael nhw wir (dydi’r ty ddim wedi ei gofrestru) – “… ac mae na wrych mawr yn cuddio’r ty beth bynnag”. Wps. Ond dim ond ddoe ges i wybod ei fod o wedi deud hynna!

Ond dwi’n licio paneli haul, dydyn nhw ddim yn bethau parhaol beth bynnag a dwi’n gneud lles i’r amgylchedd! Yn enwedig pan fydda i wedi plannu’r 85 o goed bychain ges i gan fy mrawd … pan gai gyfle wrth gwrs …



Wedi’r gaeaf oer …
Mawrth 5, 2010, 12:44 pm
Filed under: 1

Dydi’r holboellia coriecia ddim yn edrych yn rhy iach nacdi? Dwi’n meddwl ei fod o wedi marw a deud y gwir, ond wythnos nesa, mi fydd y camerau yn ôl yn yr ardd, ac arbenigwraig arddio o’r enw Carol yn crwydro drwy fy mhlanhigion druan yn deud wrthai be fedrai  ei wneud – a be i beidio a’i wneud! Dwi’n ofni’r gwaetha … a dydi’r planhigyn arall ges i o Rug ddim yn edrych yn hapus chwaith – yr un efo arogl mêl arno fo:

Rhywbeth mellifera neu rywbeth felna. Dwi’m yn meddwl gai arogl mêl ohono fo eleni rhwysut. Onibai fod Carol yn gwybod yn wahanol wrth gwrs. Croesi bysedd. Ond os fyddan nhw’n gelain, stwffio fo, dwi’m am brynu planhigion ecsotig eto. Does gen i’m amser na mynedd i roi gwlan cotwm am bob dim dragwyddol!

Dydi’r lawnt ddim yn edrych yn sbeshal chwaith. Mwy o fwsog na gwair. Dwi’n gobeithio cael cyngor am hynna hefyd ac yn gweddio na fydd yn golygu oriau poenus o gribinio’r bali stwff. Ges i swigod y tro dwytha. Mae’n rhaid bod na ateb haws!

O leia mae rhai o’r blodau’n edrych yn hapus er gwaetha’r rhew a’r oerfel: A typical! Newydd gymryd y llun yna ydw i, ac wedi i mi daro golwg drwy’r ffenest, mae ugain munud wedi gwneud byd o wahaniaeth – sbiwch arnyn nhw rwan!

Ac mae gen i newydd-ddyfodiaid eraill i’r ardd hefyd, sy’n poeni dim am yr oerfel. Anrheg gan hen gyfaill. Del tydyn?!