Filed under: Heb Gategori | Tagiau: brifo, Byw yn yr Ardd, cysgu fel twrch, dyffryn nantlle, gordd, gwaith caled, Llanllyfni, palu, palu dwbl, Penygroes, rhaw
WEDI GWYLLTIO’N GANDRYLL AM FOD WORDPRESS YN DAL I CHWARAE SILI BYGYRS FELLY LLUNIAU A SGRIFEN AR WAHAN, IAWN!!!
Do, dwi wedi bod ar ei hôl hi efo’r blogio. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio, dyna pam!
Dwi wedi bod i fyny ac i lawr fel io-io i Ddyffryn Nantlle, gan mai dim ond yn yr ardal honno y bydda i a Russell yn ffilmio eleni. Dim ond 12 diwrnod ffilmio sydd wedi eu clustnodi i mi am y flwyddyn ( toriadau S4C yn taro rhai yn waeth na’i gilydd!) a dwi wedi gwneud 5 diwrnod o fewn cyfnod byr – mewn termau garddwriaethol.
A iechyd, rydan ni wedi bod yn gweithio’n galed. Ty Margaret ym Mhenygroes oedd yr un caleta – llond gardd o goncrit a cherrig oedd angen ei balu’n ddwbl. Roedd ein cefnau, ein dwylo, ein breichiau – bob dim yn sgrechian ar ôl hynna! A chwarae teg, er mai dim ond Russ, Craig, Margaret a fi welwch chi wrthi ( o, a mab Margaret weithiau ond doedd o’m yn teimlo’n rhy dda y diwrnod hwnnw, y creadur) ar y sgrin, roedd y criw i gyd yn palu mewn pan nad oedden nhw’n ffilmio – efo rhawiau, gordd, sgriwdreifar, y cwbl. Fydden ni byth wedi gorffen onibai. Diolch, hogia.
Oes, mae gan raglenni garddio dros y ffin fyddin o weithwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw, ond S4C dlawd ydi hyn, a does dim byddin, iawn! Mi gysgais i fel twrch meddw y noson gynta honno ar ôl slafio yng ngardd Margaret. Dim ond gobeithio y tyfith y llysiau yno, ddeuda i!
Gardd Lynwen yn Llanllyfni oedd hi wedyn – gardd dipyn llai a dipyn haws ei thrin, diolch byth, gan fod Lynwen eisoes wedi palu chydig arni dro’n ôl, ac roedd y pridd gymaint haws ei dorri a’i balu o’r herwydd. Ond roedd hi’n dal yn waith caled.
Diolch byth am help Llywela, merch Lynwen, oedd yn chwip o weithwraig er mai dim ond 4 oed ydi hi. Gawson ni lot fawr o hwyl efo hi, a dwi’n meddwl ei bod hithau wedi mwynhau hefyd. A synnwn i daten na fydd Lynwen yn chwip o arddwraig …
Drannoeth, gardd Debbie ac Eifion oedd dan sylw. OND GEWCH CHI’R HANES HWNNW TRO NESA ACHOS DWI DI LARU EFO WORDPRESS AM HEDDIW …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: beic tair olwyn, blodeuo, cennin pedr, chwaer, chwarae teg, dyffryn nantlle, feic, ffilmio, honesty, nith, pesgi, Rehoboth, uchelseinydd
Dwi wedi gwneud diwrnod o ffilmio o’r diwedd! Ddydd Gwener oedd hi, ym Mhenygroes, ac yn ardal Dyffryn Nantlle y bydd 6 rhaglen o’r gyfres nesa o Byw yn yr Ardd, sef y rhaglenni y bydda i a Russell yn eu gwneud. Mi wna i egluro pam mewn blog arall, ond yn y bôn, ceisio perswadio, annog a helpu pobl yr ardal i dyfu eu bwyd eu hunain fyddwn ni.
Mynd o gwmpas y dre yn cnocio drysau i weld pwy fyddai â diddordeb oedden ni. Yn anffodus, chydig iawn o bobl Penygroes oedd adre ar ddydd Gwener … ond mi ddaethon ni o hyd i rai, peidiwch a phoeni!
Ac os oeddech chi’n pasio drwy Benygroes ddydd Gwener, mae’n bosib y byddwch chi wedi gweld Russ ar feic tair olwyn a finnau’n eistedd yn gweiddi/gwichian/gwingo ar y cefn. Mi rois i gynnig ar bedlo’r beic hefyd, ond iechyd, roedd angen ymarfer. Dydi o’m byd tebyg i feic dwy olwyn a do’n i jest methu gneud i’r blwmin peth droi i’r chwith. Ond mae Russ wedi bod yn ymarfer ac yn mynd rêl boi arno. Chwarae teg, dim ond 3 gêr sydd ar y peth!
Wele lun ohonon ni ar ganol ffilmio – o, ac oedd, roedd gen i fegaffôn/uchelseinydd/ be bynnag dach chi’n eu galw nhw. Gewch chi weld pam pan gaiff y gyfres ei darlledu fis Medi.
Nefi, dwi newydd sylweddoli mod i wedi pesgi. Bydd raid torri’r carbs eto mwn. Ho hym.
A dyma i chi luniau o ngardd i heddiw:
Yr Honesty wedi tyfu dros nos, rhyw gennin pedr hwyr nad oes gen i syniad pam eu bod nhw gymaint hwyrach na’r lleill, a’r un ola ma – dim clem be di’r enw ond mae’n tyfu o wreiddiau mawr tew, digon hyll, yn cael blodau sydd fel madarch i gychwyn, wedyn yn blodeuo’n fawr ac yn binc a phan ddaw’r dail, mae’r rheiny bron fel riwbob. Rois i gwpwl o ddarnau o’r gwreiddiau i ferched Rehoboth. Difyr fyddai cael gwybod ymhen blwyddyn neu ddwy sut siap sydd arnyn nhw. Mynd i fynd a peth i fy chwaer a fy nith heddiw. Mae gan y nith ddwylo gwyrdd. Ddim yn siwr am y chwaer eto – dyddie cynnar …