Filed under: 1
Un bach arall cyn mynd gan y bydd hi’n dawel yma am 3 wythnos rwan …
Dyma be fu’r criw a fi’n ei wneud ddydd Gwener … gwneud jam eirin damson a chytni neu gatwad betys (bitrwt) efo Dilys Morgan o ffarm Alltgoch, Talybont, Aberystwyth. A mwynhau blasu hefyd! Hi ydi brenhines y jams a chytnis, mae’n gwneud miloedd ohonyn nhw bob blwyddyn. Ac maen nhw mor dda, roedd Barry (Archie) wedi gwirioni….
A deud y gwir ynde, mi wnaethon ni gyd brynu llwyth o jams a chytnis i fynd adre efo ni. Steve y dyn camera aeth fwy hurt (neu galla mae’n siwr) mi brynodd o gwerth £25! Ond mi wnan nhw anrhegion Dolig bach neis yn gwnan? Pob jar yn £2.50 ac yn werth pob ceiniog. Ond os dach chi am eu gwneud nhw eich hun, mi fydd y risetiau ar wefan Byw yn yr Ardd cyn bo hir. Es i a jar o chytni ‘cidni bêns’ efo fi i noson poker nos Wener ac roedd pawb yn glafoerio ar ôl ei flasu o. Cracker bach tenau efo chydig o brie neu cheddar cry – a’r picyl … nefoedd! Colli’r poker wnes i gyd llaw …
Welai chi ar ôl Hydref 17! O ia, llun o gwn bach Alltgoch cyn mynd … del tydyn?
Filed under: 1
Nodyn sydyn cyn i mi ddiflannu i wlad boeth. Dwi’n cychwyn ddydd Llun ac yn pacio fel het (mae’r stwff personol yn iawn, fwy neu lai, y stwff dwi’n mynd fel anrhegion i blant pentre bach tlawd Gbara sy’n drafferthus – mae gen i ormod ohono fo …).Dyma i chi un o’r hogia y byddwn i wrth fy modd yn cael ei weld eto – ond mi fydd o 25 mlynedd yn hyn rwan! Ta waeth, gewch chi hanes trip Nigeria ar S4C tua’r Dolig ma, blog garddio ydi hwn i fod – neu gai row mae’n siwr!
Un o’r dyddiau ffilmio wnes i eu mwynhau fwya eleni oedd y daith i Sain Ffagan; mae na stryd yno sy’n difyr ofnadwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes garddio – ac i unrhyw un sydd heb affliw o ddiddordeb hefyd o ran hynny. Stryd Rhydycar, lle mae’r tai bach teras i gyd wedi eu dodrefnu yn ôl cyfnodau gwahanol yn ei hanes ni fel Cymry, o 1805 i 1985, ac mae’r gerddi yn dangos ffasiwn y cyfnodau hynny hefyd. Ew, difyr cofiwch! Ro’n i yng nghwmni John Davies (Bwlchllan), felly roedd o’n ei wneud o hyd yn oed yn fwy difyr wrth reswm. Mae o’n gwmni da bob amser.
Doedd na’m ty bach yn yr ardd tan 1895 gyda llaw, jest mynd i ardal benodol yn y gwyllt fydden nhw cyn hynny. A dyna pryd y dechreuwyd tyfu riwbob ar gyfer ei fwyta hefyd; cyn hynny, dim ond ar gyfer rhesymau meddyginiaethol y byddai’n cael ei dyfu.
Ac yn 1955 roedd na lawer o flodau coch, gwyn a glas i’w gweld yng ngerddi’r Cymru. Roedden ni gyd isio bod yn Brydeinwyr mae’n debyg, ac yn plannu ein blodau i ddathlu’r coroni.
A damia – nes i stopio yn fanna i neud swper – a dwi newydd weld yr eitem yma ar y rhaglen heno! O wel, os na welsoch chi’r eitem, wele flas ohoni. A dyma lun gymrais i yng nghefn un o’r tai – y canlyniad reit ddifyr tydi?
A dim jôcs am jwgs os gwelwch yn dda …
Welai chi ar ôl Hydref 17!
Filed under: 1
Eitem y byddwch chi’n ei gweld ar y rhaglen yn fuan ydi’r un am Wayne Cooksey o Benydarren, Merthyr. Dyma fo yn ei randir:
Roedd o’n arfer gweithio fel peiriannydd amaethyddol, ond aeth o’n sal efo ME. Mae o’n eitha siwr mai’r holl gemegolion/gemegion (pa bynnag un sy’n gywir) oedd yn gyfrifol am hynny. Pesticides ac ati, y stwff dipio aflwydd na sydd wedi effeithio ar gymaint o ffermwyr (ond bod y Llywodraeth yn gwadu hynny ond stori arall ydi honno …). Mi fu’n gaeth i’w wely am flwyddyn os nad dwy, ond mi sylweddolodd os oedd o’n peidio bwyta unrhyw fwyd oedd wedi ei brosesu, roedd o’n gwella. Felly, gan ei fod o rwan yn tyfu a bwyta ei fwyd organig ei hun, mae o’n llawer iawn gwell. Diddorol ynde?
A thra roedd o’n gaeth i’w wely, roedd o isio rhywbeth i gadw ei ben yn brysur – felly mi benderfynodd ddysgu Cymraeg – a llwyddo!
Ydi, mae o’n gymeriad. A deud y gwir, dwi’n edrych ymlaen i weld os fydd be ddeudodd o i neud i fi biffian chwerthin ar gamera yn cael ei gynnwys yn y rhaglen … Doedd o’m byd drwg, ond mi allai rhai feddwl bod fy ymateb i braidd yn wirion. Gawn ni weld be oedd barn y cynhyrchwyr/S4C!
O, a ges i datws a blodfresych hyfryd ganddo fo i fynd adre efo fi. Roedden nhw’n flasus iawn, Wayne, diolch!
A dyma i chi’r drws ‘ The Secret Garden’ -aidd sy’n arwain o gefn ei dy i’r rhandir. Hyfryd tydi? A’r criw ffilmio sy’n sbwylio’r olygfa drwyddo fo, sori …
Filed under: 1
Dyna i chi be ydi wal! Wedi gwneud joban daclus tydyn, chwarae teg? Ydw, dwi’n falch iawn o’r dynion yn fy nheulu. Er, dwi’n deud hynna cyn i mi weld a chlywed be fuon nhw’n ei ddeud amdana i ar gamera y diwrnod o’r blaen. Nid ar gyfer Byw yn yr Ardd, ond rhaglen arall (tair a deud y gwir) fydd yn cael eu darlledu ryw dro ar ôl y Dolig. Dwi’n mynd yn ôl i Nigeria ar ôl 25 mlynedd dach chi’n gweld. Fues i’n dysgu Saesneg yno efo VSO. Ac rydan ni wedi bod yn ffilmio fy mywyd i fel mae o heddiw (heb drafferthu i ffilmio’r ardd – dach chi wedi gweld digon o honno bellach, siawns!), holi teulu a ffrindiau sut berson ydw i ac ati. Do’n i ddim yn cael bod yn bresennol wrth gwrs … ond mi gai wybod be ddywedwyd yn y diwedd!
Felly dwi’n falch iawn bod yr haul allan, i mi gael cofio sut beth ydi o a dod i arfer efo gwres cyn mentro i un o’r gwledydd mwya clos (humid) yn y byd. Handi iawn i dorri’r lawnt hefyd wrth gwrs. A tydi o’n deimlad rhyfedd gorfod dyfrio’r planhigion eto? Mae fy llysiau i rêl bois rwan ac mae’r ffa yn wirioneddol flasus. Byth wedi gneud dim byd call efo’r bitrwt chwaith. A dwi’n gobeithio y cai sbrowts, er fod y lindys wedi eu troi nhw braidd yn debyg i gonffeti. Mi fydd raid i mi brynu netting tro nesa.
O, a gesiwch be, dwi’n byw yma ers 9 mlynedd rwan a dyma’r tro cynta i mi sylwi bod gen i goed eirin a damsons! Weles i run ffrwythyn arnyn nhw o’r blaen. Mae ‘na domen eleni!
Reit, gorfod cychwyn am Abertawe rwan. Gas gen i yrru mewn haul braf fel hyn ond wedi noson yn Wa Bala neithiwr, does gen i mo’r egni i feddwl cerdded i fyny mynydd …
Filed under: 1
Mae ‘na wastad rhywbeth yndoes? Echnos, es i am dro rownd yr ardd a gweld hyn yn y berllan:
Wal arall wedi disgyn! A slaff o wal hefyd, ga drapia. A sbiwch lwcus oedd fy nghoed ffrwythau druan, a hwythau wedi bod yn tyfu cystal –
Sori, mae’r llun yna wedi gwrthod troi am ryw reswm – bydd raid i chi droi eich pen mae arna i ofn. Ond mi allwch chi weld mai cael a chael oedd hi – mater o filimedrau! Wel, nes i ffonio fy nhad i ofyn pwy oedd i fod i dalu am drwsio’r wal … fi neu berchennog y cae yr ochr arall neu oedden ni’n gallu rhannu’r gost. “Os mai wedi disgyn ar dy ochor di mae hi, (ia …) ti sy’n gyfrifol amdani. Ond sy’m rhaid i ti dalu neb siwr, ddaw Geraint a fi i’w thrwsio hi.”
Ieee! Felly bore ma, fel ro’n i’n cychwyn am dro ar y beic efo Del, cyrhaeddodd fy nhad, a thoc wedyn, fy mrawd, a dyma nhw wrthi’n ei hail godi. Y garreg fawr na oedd y drwg, roedd hi wedi llithro a throi am ryw reswm – y gwlybaniaeth mae’n debyg:
Dwi wrthi’n gwneud cinio iddyn nhw rwan. Chwarae teg, dyna’r lleia fedra i ei neud – a mae hi’n glawio. Mi gawn nhw fod y rhai cynta (ar wahân i fi) i flasu fy llysiau ffres, hyfryd i. Ac os fydd Dad yn deud nad ydi o’n hoffi ffa, geith o fynd i ganu! Ond maen nhw’n gwneud joban reit dda tydyn? Dim ond gobeithio na fydd y sioc wedi effeithio ar fy Victoria Plwmsen i ynde …