Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Byw yn yr Ardd, cymry, Del, dyffryn nantlle, ennill, felly, garddio, Juno, llysiau, Olga, radio Cymru, Sioe Rhydymain, Thorne, Thornton, tips, Tyfu Pobl, Wrecsam
Rhag ofn eich bod chi’n poeni ble mae Byw yn yr Ardd wedi mynd, mae’r enw wedi newid. Tyfu pobl fydd enw’r gyfres yma, ac mi fydd gwybodaeth amdani yn eich papurau lleol yn fuan, gobeithio. Roedd na rywbeth ar Radio Cymru hefyd, ond glywes i mono fo. Mi fedrai wastad ‘wrando eto’ mae’n siwr. Da ydi technoleg ynde? Heblaw am y dechnoleg ar y wefan yma, neu fy ipad i. Dyna un rheswm pam nad ydw i wedi bod yn blogio llawer yn ddiweddar – mae’n ormod o gybol! Methu cywiro fy hun heb fynd rownd y byd a chychwyn eto, ac mae’r cursor am ryw reswm yn y man gwbl anghywir felly dwi methu gweld be dwi’n depio! Aaaaa!
Nes i roi’r ffidil yn y to ar ol sgwennu hynna pnawn ma, ac mae’n bihafio’n well heno, diolch byth.
Reit, ble ro’n i? O ia. Tyfu pobl. Pan welwch chi’r gyfres mi fydd yn gneud mwy o synnwyr. A peidiwch a phoeni, mi gewch chi dips tyfu yr un fath- wel, tyfu llysiau o leia. Weles i’r rhaglen gynta wythnos dwytha ac mae’n edrych reit dda! Mae’r bosys yn hapus hefyd, felly ( yn dibynnu ar y ffigyrau gwylio am wn i), bosib y bydd na Dyfu Pobl o ardal wahanol flwyddyn nesa. Gawn ni weld pa mor blwyfol ydi’r Cymry. Ydi rhywun o Abertawe/ Machynlleth/Wrecsam yn mynd i fod a diddordeb mewn pobl o Ddyffryn Nantlle? Difyr fydd gweld.
Ond welwch chi fawr o ngardd i, felly dyma ambell lun!
A dyma lle bu coeden Dolig fechan wnes i ei phlannu ryw ddeg mlynedd yn ol, dyfodd i fod yn anghenfil – sitka spruce oedd hi os cofia i’n iawn. Blwmin pigog beth bynnag! Ond rwan, diolch i hen gyfaill a’i fwyell, mae hi wedi mynd, a’r dderwen fach yma’n cael llonydd i dyfu yn lle.
A dyma luniau o Sioe Rhydymain a’r cylch. Nid fy llysiau i oedd rhain, ond Crispin a Karen, dau ddysgwr lleol. Chawson nhw’m cynta chwaith, ond mae nhw’n ddel tydyn?
Ond fi nath y chytni yma – efo afalau o’r ardd (mae gen i gannoedd) a nionod coch (siop – dwi’n cael dim hwyl ar dyfu nionod) a ges i 3ydd, cofiwch. Haeddu cynta os dach chi’n gofyn i mi, ond dyna fo…
A dyma fy ffrind Olga, a’i dalmatian, Juno. Doedd hi’m wedi meddwl cystadlu, ond nes i fynnu ac mi enillodd ddosbarth y ci mawr! Ro’n i wedi gadael Del druan adre…
A cwpwl o luniau eraill dwi’n eitha balch ohonyn nhw:
Ac yn olaf, Del efo’i ffrind newydd Thor, neu Thorne neu Thornton. Ddim yn siwr iawn pa un sy’n gywir bellach. Ffrindiau wedi ei fabwysiadu a ddim yn rhy hoff o’r enw Thorne. O’n i’n meddwl sa Sion yn swnio’n debyg i Thorne i glustiau ci ond dyna fo. Doedd Del ddim yn rhy hoff ohono fo i gychwyn ( mae o dwtsh yn fawr a thrwm a thrwsgl…) ond maen nhw’n gneud yn iawn rwan a’i chynffon yn troi fel hofrennydd pan mae’n ei weld. Diolch byth!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: capten, cyfieithu, garddio, Gwreiddyn Chwerw, Jerry Hunter, Môr-Ladron yr Ardd, natur, nofelau am arddio, Steddfod, The Secret Garden, Uwchgwyrfai
Rhyfedd o fyd, ro’n i newydd ddeud mewn digwyddiad bach difyr yng ngardd Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr nad oes nofelau Cymraeg am natur, garddio, blodau ac ati, a dyma Jerry Hunter yn cyhoeddi hwn:
Rwan ta, dwi’m wedi ei ddarllen, a dyma sydd ar y broliant: ‘Nofel i oedolion yn ymdrin â safle’r ferch tua chan mlynedd yn ôl, wrth i Mari, y prif gymeriad, roi genedigaeth i’w thrydydd plentyn’ ond o be dwi’n ei ddeall, mae ‘na gryn gyfeirio at flodau a ballu. Bydd raid i mi ei ddarllen cyn gallu deud wrthach chi faint yn union o flas y pridd sydd ynddi. Dwi’n gobeithio nad oes gormod, gan mod i wedi penderfynu ceisio llenwi’r bwlch fy hun – pan gai gyfle! Ond mae hi wedi ei chanmol i’r cymylau gan y gwybodusion a rhai wedi deud ei bod hi’n nofel sy’n rhaid ei darllen fwy nag unwaith i ddeall pob dim sydd ynddi. Nid nofel ffwrdd â hi mohoni felly, ond fyswn i’m yn disgwyl un felly gan Jerry Hunter a bod yn onest. Boi clyfar.
Ond, dwi newydd gyfieithu nofel i blant hyd at tua 7 oed sy’n BENDANT yn ymwneud â garddio a thyfu pethe.
Disgrifiad Gwales: Stori am y Capten Cranc creulon a’i long Ych a fi! Mae’r criw wedi cael llond bol ar fwyta bisgedi, ond wedi dweud eu cwyn wrth y capten drwg ei hwyl, daw’r bisgedi i’w cyfeiriad drwy’r awyr. Un diwrnod fe lania’r môr-ladron ar ynys gan chwilio am drysor, ond hadau ac offer garddio sydd yno. Addasiad Cymraeg o The Gardening Pirates.
Mi wnes i wir fwynhau cyfieithu hon, a ges i’r gwahoddiad oherwydd Byw yn yr Ardd! Da de … a dyma i chi sut mae’n dechrau:
Llong yr ‘Ych-a-fi’ oedd y llong dristaf i hwylio’r moroedd erioed. Roedd y môr-ladron druan mor ddigalon â gwymon gwlyb am mai’r cwbl oedd i’w fwyta oedd bisgedi â blas fel baw ci. Ych-a-fi!
Pam oedden nhw’n bwyta pethau mor ffiaidd? Am fod Capten Cranc, yr hen grinc annifyr, yn mynnu hynny, ac os byddai unrhyw un yn cwyno, byddai’n taflu’r bisgedi atyn nhw, fel ffrisbis bach caled. Aw!
Un diwrnod, glaniodd yr ‘Ych-a-fi’ ar ynys. Roedd map trysor gan Capten Cranc ac ymhen dim, roedden nhw wedi dod o hyd i’r man ar y map. ‘Tyllwch, y tyrchod!’ gwaeddodd Capten Cranc, ‘neu mi dafla i fisgedi atoch chi!’ Ond fe daflodd nhw’r un fath.
Ond o diar! Pan godon nhw’r gist, nid aur oedd ynddo. Ond pecynnau o hadau, bagiau o bridd a theclynnau garddio.
Roedd y Capten mor flin, bu bron iddo ffrwydro. Bu’n rhaid i dri môr-leidr ei gario’n ôl i’r llong. Sylwodd neb ar Gwen y forwyn fach yn llenwi ei phocedi â phecynnau, yn dodi’r pridd dan ei dillad a chuddio rhawiau yn ei sgidiau.
Roedd un hadyn rhyfedd iawn yr olwg yng ngwaelod y gist. Cuddiodd Gwen yr hadyn hwnnw o dan ei het.
Wel, fel’na roedd o’n dechrau gen i cyn gweld unrhyw olygydd, ond mi fydd yn ddifyr gweld faint fydd wedi ei newid. Ac os dach chi isio gwybod be sy’n digwydd, wel, mi fydd y llyfr ar werth yn y Steddfod am £4.99 – bargen!
Dwi’n synnu nad oes mwy o straeon gwreiddiol am natur ac ati a bod yn onest, rhywbeth fel ‘The Secret Garden’ gan Frances Hodgson Burnett. Dwi’n cofio mai hwnnw oedd ein llyfr dosbarth yn fy mlwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gader ac mi wnaeth gryn argraff arnai ar y pryd. Ond efallai mai fi sy’n dwp a bod nofelau Cymraeg am natur wedi eu cyhoeddi eisoes. Allwch chi feddwl am rai? Rhowch wybod.
O ran fy ngardd i, dwi’n dal i frwydro efo’r rhedyn sy’n mynd yn wyllt acw ac yn dechrau cymryd drosodd. Ond argol, di’m yn hawdd eu tynnu allan unwaith maen nhw wedi mynd yn fawr a’r gwreiddiau wedi stwffio eu hunain dan gerrig – mae gen i ofn chwalu fy waliau! Ond yn ara bach a bob yn dipyn, dwi’n dechrau ennill. Ond mae fy nghefn i’n brifo. Ond dwi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn y malwod. Un broad bean sydd wedi tyfu gen i – un! Ac mae’r malwod wedi tyllu mewn i hwnnw, hyd yn oed. Sglyfs. Ac mae rhywbeth wedi bwyta’r mefus oedd bron yn barod neithiwr. Dydi o’m yn deg!
O leia mae’r gwenyn wedi cael mymryn o haul – tan heddiw. Os gai gyfle heddiw, mi ai i weld faint o fêl maen nhw wedi ei gynhyrchu – os o gwbl. Croesi mysedd …