BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Sioe Rhydymain 2
Awst 30, 2009, 9:26 pm
Filed under: 1

(Rhan o golofn Daily Post dwi newydd ei sgwennu)

Dwi’n sgwennu hwn ar nos Sul tra mae’r glaw yn tywallt tu allan. A mwy o law maen nhwn ei addo fory ar gyfer Sioe Rhydymain, ga drapia. Mi wnes i (a Robin, fy nai) wlychu’n socien pnawn ’ma wrth dyrchu am lysiau i’w harddangos, ac mi benderfynais
adael y blodau tan fory. Dwi’n difaru rwan. Fyddan nhw ddim sychach bore fory, ac mi fydd yn wyrth os fydd gan unrhyw beth betalau ar ôl wedi’r fath gawodydd rydan ni’n eu cael heno.

Braidd yn siomedig oedd fy llysiau hefyd. Llawer gwell na llynedd, ond nefi, tydw i wedi bod yn gweithio gymaint caletach ar fy llysiau eleni! A does ’na affliw o ddim byd yr un maint, a dach chi i fod i gael 3 neu 4 neu 6 llysieuyn sy’n matsio tydach? Does ’na’m dau o’r ffa yr un maint, heb sôn am chwech. A dwi’m yn siwr pa gategori i roi fy nhatws. Mae un yn weddol grwn, un arall yn hirgrwn  a’r gweddill yn siapiau rhyfedd. Roedd y rhai gwyn wedi cael ‘blight’ a dim ond y rhai coch sydd wedi cynhyrchu unrhyw fath o daten gwerth ei galw felly. Mae gen i un swejen anferthol (ond braidd yn hyll) ond roedd y lleill wedi penderfynu eu bod nhw isio bod yn foron o ran siâp.

A sôn am foron, mae gen i un sy’n berffaith, yn hyfryd, yn werth ei gweld, a’r lleill unai yn bethau bach tila, tenau, neu wedi penderfynu stopio tyfu’n gall ar ôl rhyw dair modfedd a magu tair neu bedair coes wedyn. Dwi’n dal i ddisgwyl i fy nionod godi i weld golau dydd, ond dwi wedi codi un planhigyn garlleg i gyth. Dwi’m yn meddwl y llwyddai i arddangos unrhyw dri o unrhyw beth (heblaw’r bitrwt – sy’n edrych reit ddel fel dadi bitrwt, mami bitrwt a babi) felly efallai y byddai’n well i mi jest mynd am y ‘casgliad bychan o lysiau gwahanol’.

Oherwydd y tywydd, coginio fues i heddiw. Efallai mod i wedi rhoi chydig gormod o bowdr codi yn fy nghacen lemon, gan ei bod hi’n ymdebygu i Vesuvius, braidd, ond mi fydd yn flasus, felly gawn ni weld be fydd tâst y beirniad. Mae’r afal bendramwnwgl (dyna be benderfynon ni fel pwyllgor oedd y cyfeithiad gorau ar gyfer ‘apple turnover’) yn edrych yn hyfryd, ond mae fy mrawd a minnau newydd fwyta un ohonyn nhw a dwi’n amau’n gryf mai honno oedd yr un gofies i roi siwgr ynddi. Doedd gen i’m mynedd ffaffian efo cacen gaws na chacen penblwydd, ond dwi wedi rhoi cynnig ar y gacen ‘Tamed tro ’ma a galwch eto!’, sef ein cyfieithiad ni o ‘Cut and come again cake’. Do, gawson ni hwyl efo’r cyfieithu; be dach chi’n ei feddwl o 3 ‘mwffsen’ am 3 muffins? A ‘brownsen siocled’ am ‘chocolate brownie’?

Mae gen i ddwy botel o siampên sgawen gwahanol ond doedd yr un agorais i ar bnawn braf yn y Steddfod ddim â llawer o fywyd ynddi, felly dwi’m yn meddwl mod i wedi cael cystal hwyl arni eleni. A dwi wedi perswadio Mam i drio efo’i chytni eirin, felly dyna i ni o leia un cystadleuydd newydd eleni. Roedd hi wedi rhoi jar i mi wythnos dwytha, ond mi ddisgynodd fy mag i’r llawr wrth i mi ddod drwy ddrws y ty … ro’n i isio crio. A dwi wedi malu jwg del iawn heddiw ’ma – un o’r rhai ro’n i wedi ei estyn ar gyfer gosod blodau fory. Felly dwi’n siwr o dorri rhywbeth arall cyn bo hir tydw?

Mi ddoth Mam draw i weld canlyniad fy ngwaith caled heno, a deud “Ond Bethan, ble mae dy doilies di? Mae’n rhaid i ti gael doilies siwr!” O, ffliwt. Dwi’n anghofio bob blwyddyn. Ond galwad ffôn i Nain – a hei presto, mae gen i doilies mawr gwynion, hyfryd rwan. Maen nhw’n bendant yn gwneud i gacen edrych yn well. Fyddan nhw’n gwneud digon o wahaniaeth i mi gael gwobr o rhyw fath? Gawn ni weld … mae safon y coginio yn Rhydymain yn anhygoel bob blwyddyn.



Sioe Rhydymain
Awst 30, 2009, 5:00 pm
Filed under: 1

Mae’r sioe fory … wedi bod yn coginio fel ffwl, a newydd fod yn tynnu llysiau allan o’r pridd. Hm. Dim byd yr un maint, damia!

A’r tatws wedi cael blight – wel, y rhai gwyn. Y rhai coch yn iawn ond ddim yn siapiau taclus iawn. A dim ond un moronen fawr sy gen i!

O diar …



Hymdingar o Siani Flewog
Awst 27, 2009, 9:03 pm
Filed under: 1

P1010041Mi ddois i o hyd i hwn tra’n chwynnu yng ngardd Llinos fy chwaer yn y Parc, Bala. Mae hi’n anobeithiol am chwynnu felly mi fydda i wastad yn gneud chydig iddi pan fyddai’n galw. A be weles i yn sglaffio ei hosta hi ond hwn. Mae o’n fawr! O leia hyd eich bys chi – wel, f’un i, a’r un trwch – wel, mwy a deud y gwir. Wedi rhoi’r llun ar Facebook, ges i wybod gan Caryl Parry Jones, neb llai (!) mai Elephant Hawk-moth ydi o. Wedyn ges i wybod mai Gwalch-wyfyn helyglys ydi’r enw Cymraeg, ac wedi rhoi’r enwau yn Google, darganfod mai fel hyn fydd o’n edrych pan fydd o wedi tyfu i fyny:

thumb_ElephantHawkMothNGD Del ynde? Rhyw binc frown – a rhai yn binc -wyrdd. Maen nhw reit gyffredin ym Mhrydain mae’n debyg, ond dwi’m yn meddwl i mi weld un fel hyn erioed. Ond mi fydda i’n chwilio amdanyn nhw o hyn allan.



Cadw’n ffit yn yr ardd
Awst 24, 2009, 2:31 pm
Filed under: 1

P1010006Cofio hon? Ia, fi sydd ar y chwith, ond be am y flonden ar y dde? Edrych yn gyfarwydd? Wel, hi oedd keep-fit guru S4C nôl yn y 90au; mi nath hi ryddhau fidio cadw’n heini drwy gyfrwng y Gymraeg a bob dim. Dwi’n gwbod, achos roedd gan fy chwaer i un. Iona Lloyd Roberts ydi hi – mam i 6 o blant, credwch neu beidio! Iechyd, mae hi’n ffit. A dyna pam fod y cynhyrchwyr wedi gofyn iddi ddod i Bethesda i roi gwersi i mi a Linda Brown ar sut i gadw’n heini yn yr ardd – a sut i beidio a brifo.

Yng ngardd Linda roedden ni, ac roedd Del wedi cymryd at Iona yn arw. Y funud aeth hi i lawr ar y mat ma, roedd Del yn llyfu ei gwyneb hi.P1010001 Lwcus bod Iona’n ffit, achos pan aeth pawb ond Iona i gaffi am ginio (roedd Iona wedi dod a dwr a chanu efo hi … dyna pam bod na gystal siâp arni …) mi wnaethon ni adael Del ar ôl yn yr ardd. Ond y funud ddalltodd hi mod i wedi mynd, mi neidiodd dros y wal a dechrau rhedeg ar ôl y fan. A bu’n rhaid i Iona redeg ar ei hôl … wps. Mi gafodd hi’n ôl i’r ardd yn saff diolch byth. Mae Del wedi mynd yn rhyfedd fel ‘na yn ddiweddar – yn panicio’n lân os ydi hi’n meddwl mod i’n mynd i’w gadael hi yn rhywle. Dyna dwi’n ei gael am ei gadael hi adre bob tro dwi’n mynd i’r de, bechod.

Ta waeth, roedd Linda a finna yn gegrwth pan welson ni pa mor ffit a heini ydi Iona …P1010004 A tasech chi’n gweld y gwahaniaeth yn y ffordd roedd Linda, fi a Iona yn dringo i fyny ac i lawr grisiau hynod serth Linda … ond mi gewch chi weld hynny pan fydd y gyfres yn ei hôl (ddechrau Medi dwi’n meddwl).

Roedd o’n uffernol o ddifyr, ac roedd fy nhenglin giami a fy nghluniau athritig yn teimlo gymaint gwell wedi dysgu sut i stwytho’n iawn, a sut i wneud bob dim gyda rheolaeth yn lle jest ‘plopio’ – chwedl Iona. Ond roedd Linda a fi’n bendant yn haeddu G&T yr un yn y diwedd. P1010008Bechod mai dim ond y T oedd yn y gwydrau (sydd jest allan o’r llun) … ond ro’n i isio gyrru adre toeddwn?

Dwi’n edrych ymlaen at weld yr eitem yma … yn dibynnu faint o shots o ben ôl a bloneg fydd ynddo fo! Olygyddion … cawsoch eich rhybuddio …



Priodas
Awst 19, 2009, 10:36 am
Filed under: 1

Roedd Leah, fy nith, yn priodi ddydd Gwener dwytha, ac mi ofynodd a fyddai dynes y blodau (Mim Coedfoel) yn cael dod i ngardd i i hel gwyrddni ar gyfer y gosodiadau. Fy ngardd i?! Wel, caiff siwr! Chyffd, toeddwn? Ond wyddoch chi be, anghofies i dynnu lluniau o’r gosodiadau i chi gael gweld fy ngwyrddni i yn ei holl ogoniant … ond dyma lun o fy Nain – Annie Meirion Evans, 93 oed, efo un o’r powlenni o’i blaen:P1010061 Fy nail i ydi’r rheina. Nid y blodau, dim ond y dail. O leia, dwi’n meddwl mai fy nail i oedden nhw. Roedd y trefniadau blodau i gyd yn hyfryd beth bynnag, mi fyddai Sioned Byw yn yr Ardd ei hun wedi bod yn falch ohonyn nhw. A dwi mor chyffd bod fy ngardd i wedi gallu bod o help! Does gen i fawr o flodau yn yr ardd ar hyn o bryd, diolch i’r malwod a’r tywydd, ond mae gen i ddigon o wyrddni i gynnal cannoedd o briodasau.

Roedd hi’n briodas hyfryd gyda llaw, a dyma’r pâr priod, Leah a Gareth i chi.P1010045 Roedd Cadi Fflur eu hogan fach 2 a hanner nhw i fod i bôsio efo nhw yn y llun, ond roedd yn well ganddi chwarae ar y grisiau ym Mhlas Isaf. Hi ydi un o ffrindiau penna Del gyda llaw. Dydi hi byth yn deud helo pan mae hi’n fy ngweld i, dim ond “(Ble) ‘ma Del?” A gan mai oren oedd lliw a thema’r briodas, ges i row gan Mim na fyddwn i wedi rhoi rhuban ar Del a dod a hi efo fi. Ia, ond meddyliwch tase hi wedi neidio ar ffrog Leah efo’i phawennau budron …

O, gyda llaw, ro’n i reit grand hefyd, chwarae teg. Wele fi efo Daniel, brawd Leah, oedd yn hynod smart ei hun:

P1010007



Yn ôl o’r Steddfod
Awst 9, 2009, 2:47 pm
Filed under: 1

Dim lluniau y tro yma, mae’n ddrwg gen i. Dim ond unwaith gafodd y camera ddod efo fi i faes y Steddfod, ac mi wnes i anghofio cymryd lluniau o’r pryfed genwair ar gyfer y blog ma. Ro’n i’n rhy brysur toeddwn!

Bu’n rhaid i mi ddod adre ar y nos Fercher – lifft gan fy chwaer, a hynny’n eitha hwyr. Roedd hi’n rhy dywyll i mi hyd yn oed sbio arnyn nhw. Ond ro’n i i fyny am 7.30 fore Iau, yn sefyll yn y ffos yn fy welintyns yn glanhau’r ‘trays’ plastig. Mi wnes i dywallt y llysnafedd drewllyd mae’r pryfed wedi ei wneud hyd yma i mewn i un tray, gosod hwnnw ar lawr y porch llechi tu allan a rhoi darn mawr o fetal trwm dros hwnnw, efo jest digon o le iddyn nhw anadlu am dridiau. Mi olchais i’r gweddill, yna mynd i nôl y bwced o bryfed genwair newydd. Mi ges i lifft gan fy nith reit at fynedfa’r Steddfod – roedd y golau ar goch jest fel roedden ni’n cyrraedd, diolch byth. Roedd hi’n ddigon anodd cerdded o fanno efo’r trays plastig a bocs o geriach (sbarion bwyd, carbod ayyb) o mlaen a’r bwced pryfed genwair yn hongian oddi ar un fraich. Bu’n rhaid i mi roi’r tocyn mynediad i’r stiward efo ‘nannedd …

Erbyn cyrraedd stondin y MYM, roedd fy mreichiau’n dechrau sgrechian. Ta waeth, am 11, mi ddoth na rhyw wyth neu naw o blant draw i gael chwarae efo’r pryfed genwair. Ffedog i bawb a dwy bowlen o ddwr cynnes iddyn nhw olchi eu dwylo wedyn. Roedden nhw i gyd wrth eu boddau, chwarae teg, heblaw am un hogan fach oedd jest “ddim yn licio dwylo budur”, diolch yn fawr. Mi wnes i egluro mai stwff cnau coco oedden ni’n ei ddefnyddio, nid pridd, ond doedd na’m symud arni – er mawr siom i’w mam oedd yn amlwg jest a drysu isio iddi faeddu ei dwylo!

O wel, dan ni gyd yn wahanol yn y byd ma! Y broblem fwya i un rhiant oedd trio cael ei blant oddi yno. Roedd o ar frys i fynd i rywle ond roedd y ddau fach wedi gwirioni efo’r “mwydod”. Ro’n i’n falch iawn o hynny wrth reswm – wedi’r holl gybol! Mi wnes i adael y pryfed yno am weddill y Steddfod, a dwi newydd eu derbyn yn ôl rwan. Braf cael bod adre dwi’n siwr. A dwi’m yn meddwl bod na lawer o’r hen bryfed wedi dianc tra ro’n i i ffwrdd. Felly dyna hynna.

A rwan mi fedrai ddal ati i wagu’r campafan, golchi dillad ayyb. Roedd hi’n wythnos wych yn y Bala, ond nefi, mae gen i waith i’w wneud yn yr ardd ma rwan – ond does gen i jest ddim mynedd heddiw. Wedi bopio fel ffwl efo Tebot Piws ym Maes C neithiwr, dydi cerdded ddim yn hawdd, heb sôn am drio torri’r lawnt.  Yyyyy …