BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Llwyddiant mewn sioe(au)!
Awst 30, 2012, 3:32 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Dyna i chi be ydi gwên ynde! Gwên o orfoledd a phleser a sioc pur. Do, mi ges i lwyddiant yn Sioe Talybont, ger Aberystwyth ac mi gewch chi weld y cwbl ar y rhaglen fis Medi ryw ben – tua’r canol dwi’n meddwl. A finnau rioed wedi cystadlu efo fy mêl o’r blaen, doedd gen i’m syniad be i’w ddisgwyl. 4ydd falle, os o’n i’n lwcus, gan fod Carys wedi canmol y lliw – ond doedd hi’m wedi ei flasu chwaith. Ond dychmygwch y sioc pan aethon ni mewn i’r dent ar ddiwedd y beirniadu – a gweld cerdyn coch wrth fy mêl i!

Lovely clear sample, ylwch, a good flavour. Ond ro’n i fod yn ofalus efo ‘specks of honey on the lids’ – a finna’n meddwl mod i wedi eu sgwrio’n lân! Dyna pam fod pawb arall yn cario’r jariau mewn bocsys pwrpasol. Do’n i’m fod i’w rhoi yn fy rycsac, debyg …  ac roedd yr adran mêl golau yn un fawr – 13 o gystadleuwyr cofiwch! A sbiwch pwy ddoth yn ail …

Ia, Carys, fy mentor! A sbiwch gwahaniaeth lliw – mae f’un i’n hurt o ysgafn tydi? A dim clem pam, dim syniad pa flodau sy’n gyfrifol am y lliw yna. Asgell falle? Os oes gynnoch chi eglurhad – rhowch wybod plîs! Chafodd Tom Edwards sydd o Rydymain yn wreiddiol ddim byd efo’i fêl golau o, ond mi nath o’n dda efo’r gweddill – a tase Carys heb anghofio ei chwyr, mae’n eitha posib mai rhwng y ddau yna fyddai’r gystadleuaeth am y mwya o bwyntiau. Dyma ni’n tri mewn rhes cyn y beirniadu:

a dyma fwy o luniau o Dalybont:

Ddeuddydd yn ddiweddarach, roedd gen i sioe yn nes at adre ( Rhydymain), a jar o fêl yn yr adran goginio …

Do, wir i chi, ges i gynta eto. Doedd na’m llawer yn trio – dim ond Tom Edwards – oedd wedi rhoi 3 jar i mi ar y dydd Sadwrn i ddod efo fi i Rydymain- a nes i lanhau y topiau iddo fo a bob dim! Ond mae arna i ofn bod arogl a blas fy mêl i yn rhagori ar y pethe tywyll o ardal Corris …! Dyna ddeudodd y beirniad beth bynnag. Ac mae pobl sy’n dallt eu mêl yn deud bod hwn yn fêl sbeshal! Bechod bod gen i’m digon i’w werthu de. Ond mi driai gofio tynnu peth tua’r un adeg flwyddyn nesa yn y gobaith y bydd yr un blodau/be bynnag wedi bod allan.

Ges i gynta efo rhosyn hefyd – ond fi oedd yr unig un yn y categori lleol! Lwcus deud gwir, achos sbiwch pwy oedd beirniad y blodau: Ia, Sioned ni – a fiw i neb ei chyhuddo o ffafriaeth! Roedd hi reit nerfus am feirniadu blodau yn hytrach na’u gosod, ond mi nath hi chwip o job, chwarae teg, a mwynhau ei hun!

Er gwaetha’r glaw, cafwyd sioe fach dda a’r coginio’n ardderchog fel arfer: A ges i drydydd efo fy nharten – unrhyw ffrwyth! Da ydi sioeau bach fel hyn de? Lot o waith trefnu a phwyllgora ond mae’r mwynhad maen nhw’n ei roi werth o – dwi’n meddwl!

Wps, wedi anghofio cynnwys hwn – llun o gactws anhygoel Llewelyn Evans, flodeuodd am ddiwrnod – jest mewn pryd i’r sioe! Mi gafodd y Wobr Arbennig am hynna – gwych de?



Mêl a bali rhedyn
Awst 22, 2012, 9:06 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Wel, dwi bron yn barod ar gyfer Sioe Talybont ddydd Sadwrn.  Mi fyddwn ni’n ffilmio yno – Carys Tractors a fi, yn cystadlu yn erbyn ein gilydd yn yr adran fêl! Mi ddoth hi draw ddydd Iau dwytha i fy helpu i dynnu’r mêl. Dim ond o’r cwch wreiddiol – dim digon i’w sbario gan y lleill, ac roedd yr haid ddiarth yn rhy bifish beth bynnag, a dim ond 6 ffram gymrais i, naci, 7 efo’r ffrâm dwi am gystadlu efo hi fel ffrâm mewn câs, er nad ydi hi wedi ei ‘chapio’ yn iawn.

Capio ydi cwyr dros y tyllau llawn mêl. Dydi’r ochr yma ddim yn ddrwg, ond rhywsut, aeth ‘na fys drwy’r cwyr ar yr ochr arall – wps. Ond mae Carys yn deud bod pawb yn yr un cwch eleni ( ha – jôc …cwch …?) a fydd gan neb fframiau gwych iawn. Y cystadlu sy’n bwysig ynde …

A dyma’r aeddfedwr yn llawn ( wel, efo cwpwl o fodfeddi) o fêl: Arogl hyfryd pan dach chi’n tynnu’r caead na. Rydan ni wedi ffilmio’r broses o gael y mêl i mwn i fanna felly gewch chi weld hynny ar S4C cyn bo hir.

A dyma’r mêl wedi ei dywallt i jariau ddoe. Na, dio’m llawer nacdi? Y tair jar fawr ar gyfer cystadlu ( un yn sbâr rhag ofn i mi gael damwain ar y ffordd i Dalybont), yr un ganolig i mi – ro’n i eisoes wedi mynd ag un at yr Hughesiaid sydd pia’r tir lle dwi’n cadw’r cychod, a dwi’n rhoi’r rhai bach yn anrhegion i deulu a ffrindiau. Nagoes, sgen i’m labeli eto – dim pwynt trafferthu efo cyn lleied o fêl nagoes! Mae o’n fêl golau iawn, iawn a blas bendigedig arno fo. Oes gen i obaith yn Nhalybont? Dim clem. Dibynnu os nath y mwslin ei waith yn iawn yn ei hidlo am wn i. Dwi wedi llenwi’r rhai mawr i’r top fel bod lle i mi grafu unrhyw gync oddi ar y top cyn dydd Sadwrn. Ac os na chai hwyl arni, mae ‘na gystadleuaeth jar o fêl yn Sioe Rhydymain ddydd Llun hefyd – ac un ar gyfer dechreuwyr yn Sioe Ganllwyd ar Fedi’r 15fed!

Dwi wedi cael fy ail bigaid gyda llaw – nid wrth dynnu’r mêl, ond gan y bali haid bifish – yn syth ar ôl codi’r wahanlen. Aethon nhw’n wallgo, er mod i wedi mygu a gneud bob dim yn ofalus, dawel. Ges i bigiad drwy ddefnydd y wisg, cofiwch, yn fy mraich. Fy mai i am wisgo crys T, debyg – ond roedd hi’n boeth! Do’n i’m yn teimlo fel taswn i ar fin mynd i sioc anaphylactic ( gallu digwydd efo’r ail bigiad os oes gen i alergedd), felly rois i bopeth yn ôl yn ei le, a ges i lonydd gan y gwenyn milain erbyn cyrraedd y ty ( ar ôl cerdded reit drwy’r rhedyn uchel!). Dim byd mawr yn codi i gychwyn, cymryd tabled antihisthamine rhag ofn. Ond erbyn trannoeth, roedd y patshyn coch yn fawr ac yn cosi ac yn goblyn o boeth. Aeth o ddim i lawr am 4 neu  5 diwrnod chwaith, er gwaetha’r tabledi. Drapia, dydi nghorff i jest ddim yn licio gwenwyn gwenyn mêl. Gawn ni weld os fydd ymateb y 3ydd pigiad yn llai … dwi’n croesi mysedd.

Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn trio cael gwared o’r rhedyn sydd wedi dechrau mynd yn wallgo yn yr ardd: Ond mae’n goblyn o anodd tynnu’r cwbl lot a’r gwreiddiau. Dyma be ddigwyddodd i fforch eitha newydd, gwerth tua £46: Ond ges i hen un bren, solat am £12 yn mart Dolgellau. Mae honno’n wych!Roedden nhw’n gneud pethe i bara ers talwm. Es i a’r un £46 yn ôl i’r siop, yn gobeithio cael fy mhres yn ôl, ond na, un newydd yn ei lle hi ges i. O wel. Dwi’n ystyried talu rhywun ifanc, cryf i dynnu’r gweddill gyda llaw – mae nghefn i’n fy lladd i!

A digwydd bod, dyma i chi rywun cryf, sydd ddim llawer iau na fi ( Geraint fy mrawd) yn tacluso rhan arall o’r ardd … gewch chi weld y canlyniad yn y blog nesa! Ac i orffen, llun bach od ( dwi’n hoffi sgwarnogod):