BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Symud gwenyn
Mawrth 14, 2013, 12:35 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

DSC_0075Dyma i chi rai o ngwenyn i’n cael modd i fyw yn y saffrwm. Gan fod ‘na dipyn o felyn yn y wenynen yn y canol, un o’r haid ddiarth ydi, nid un o’r gwenyn bach duon Cymreig. Bosib bod rheiny’n gwledda ar y grug neu’r cynffonau wyn bach ar y pryd. Ond mae’r haid ‘fach’ o rai duon ges i gan Carys wedi bod yn cael eu bwlio’n o arw gan y cwch gynta a’r haid ddiarth. Mae’n debyg bod y ddwy gwch gref yn gallu arogli/teimlo bod hon yn wan ac yn cymryd mantais o hynny i ddwyn eu mêl nhw.

Dyma sut mae pethe yn y gwyllt: DSC_0097 yr haid wan sy’n y cwch mwya, ar y chwith. Yr un gynta ges i sydd drws nesa, ac mae’r un ddiarth yn y cefndir. O, a sylwch ar y grug gwyn ym mlaen y llun – wedi ei blannu fel na fydd raid teithio’n rhy bell … dio’m yn llawer, ond mae’n well na dim!

Wel, dwi wedi cael llond bol o’r holl ddwyn a bwlio felly ges i air efo Mam: tybed fyddai hi’n fodlon i mi roi cwch yn Nolgamedd? Byddai, mi fyddai wrth ei bodd. Ieee! Mae na ddwy berllan fechan yn Nolgamedd, ac ro’n i’n eitha siwr y byddai un o’r ddau le yn addas. Felly mi ffoniais i Carys Tractors. Digwydd bod, dydi hi’m yn rhy brysur efo’r wyna eto, felly ges i ordars i dynnu’r supers oddi ar y cwch yn syth bin, tynnu’r bwced bwydo hefyd a rhoi’r crown board yn syth ar ben y queen excluder neu’r wahanlen. Wedyn, heno, mi fyddai hi’n galw acw i fy helpu i’w symud i Ddolgamedd. Yn syth bin, fel’na! Dydi Carys ddim yn un am dindroi …

DSC_0098 DSC_0099Felly dyma’r crown board ar ben y wahanlen, ac os sbiwch chi’n ofalus mae na un neu ddwy wenynen yn codi drwy’r tyllau i weld be goblyn sy’n mynd ymlaen.

DSC_0101Mi rois i’r caead yn ôl yn syth, rhag iddyn nhw oeri. Achos dyma be fedar yr oerfel ei wneud i ngwenyn bach druan i. Ac fel dach chi’n gweld, mwy o ddu yn rhain, felly dyma’r rhai Cymreig.

DSC_0105Pan gyrhaeddodd Carys, y peth cynta nath hi oedd stwffio lwmp mawr o foam i mewn i’r fynedfa.

DSC_0106Yna, sgriwio’r cwch yn sownd i’r darn gwaelod, i wneud yn siwr na fyddai dim byd yn symud wrth ei symud ac na fyddai’r gwenyn yn dianc drwy’r gwaelod.

DSC_0111A rhag ofn i chi feddwl mai hi oedd yn gwneud y gwaith i gyd, na, mi fues i wrthi hefyd – yn fy siwt, achos dwi’m isio cael fy mhigo! Roedd Carys yn tynnu arnai am fod yn gymaint o fabi, ond dydi hi’m wedi gweld y ffordd mae pigiadau gwenyn mêl yn effeithio arnai nacdi!

DSC_0112Gosod y strap a’r flanced ar lawr wedyn a’r ddwy ohonon ni’n gosod y cwch yn ofalus yn y canol. Doedd hi’m yn drwm o gwbl – fawr o fêl ar ôl ganddyn nhw nagoes, bechod? DSC_0113Clymu’r cyfan fel parsel bach taclus a’i gario i’r car.

DSC_0115Car Carys, achos roedd fy fan i yn y garej yn cael brake pads newydd …

DSC_0117Roedd hi’n brysur nosi erbyn cyrraedd Dolgamedd, ond doedd hi ddim mor dywyll â hyn go iawn – y fflash sy’n twyllo. Dyma’r berllan gynta, ond gan fod Mam a Del yn cerdded drwy fanna’n eitha aml ( pan fydda i i ffwrdd) gwell oedd sbio ar y lleoliad posib arall.

DSC_0118

Sef yr hen berllan yma sydd am yr afon o’r ty. Pêl ydi’r peth gwyn na’n y canol.DSC_0120 A dyma’r ty mewn silwet – jest i ddangos i chi y pellter o’r ty i’r berllan. DSC_0121

Carys yn deud ‘fan hyn!’DSC_0122Sbiwch yn ofalus ac mi welwch bod ‘na ddwy flocen goncrit fanna – un yn lân a newydd, y llall yn fwsog i gyd, ac mae Carys yn gwirio efo spirit level bod y cyfan yn gwbl lefel.

DSC_0125

A dyna ni, y cwch yn ddiogel yn ei chartref newydd.DSC_0126Mi ai draw eto fory i roi’r supers yn ôl arni, a’r bwced bwydo, a chroesi bysedd y cawn nhw lonydd i gael babis a chryfhau. Roedd hi’n wan iawn, iawn, bechod, dim swn byzzian na dim, a dim ond rhyw ddwy wenynen ddaeth allan pan dynnodd Carys y foam allan o’r fynedfa. Mae Carys yn deud y dylwn i roi rhywbeth ychwanegol dros y cwch hefyd, i’w helpu i gadw’n gynnes yn ystod y nosweithiau oer ‘ma. Mae gen i ddarn hir o sbwng mae rhywun yn ei ddefnyddio i gysgu arno mewn pabell, neith y tro yn champion. Ddois i o hyd iddo fo ar ochr y ffordd fisoedd yn ôl – a gwybod y byddai’n ddefnyddiol ryw dro. Bosib roi chydig mwy o bethau drosti ac o’i chwmpas hefyd i ofalu eu bod nhw’n gynnes fel tôst.

Ond am y tro, nos da fy ngwenyn bach. Croeso i’ch cartref newydd.



Sioe Ganllwyd a Hanka

Sbiwch yr holl fu’n cystadlu yn yr adran fêl yn Sioe Ganllwyd. Sioe fechan ydi hi, ond roedd Carys wedi hel cystadleuwyr o bob man! Roedd y stwff efo cwyr yn werth ei weld hefyd. Dwi’m wedi mentro gneud dim efo fy nghwyr eto. Ond mi wnes i gystadlu efo fy mêl yn yr adran mêl golau:A nagoes, does na’m cerdyn o unrhyw liw wrth fy mêl i! Carys gafodd y cerdyn coch … mae gwybodusion y byd mêl ( wel, Wil) yn trio deud mai ffliwc oedd y ffaith i mi ennill yn Sioe Talybont. Hmff. Ac yn synnu at y ffordd ro’n i’n hidlo fy mêl ar y rhaglen y noson o’r blaen! Ylwch, dim ond unwaith o’r blaen dwi wedi mynd drwy’r broses, iawn? Ac ro’n i’n eitha siwr mod i’n gwneud rhywbeth o’i le. Be, dwi ddim yn siwr, ond gai wybod, dicini …

Ges i affliw o ddim am fy misgedi mêl chwaith:Ond roedden nhw’n flasus tu hwnt. Iawn, bosib nad oedden nhw i gyd cweit yr un lliw, ond dyna fo …

A dyma lun o darten Iola Horan, sy’n ennill am ei tharten ym mhob sioe mae’n trio ynddi:Be ydi’r gyfrinach dwch? A sut mae gneud tarten sy’n plesio’r beirniaid? Sgen i’m clem.

Roedd ‘na bob math o gystadleuthau ‘gwledig’ gwahanol yno: Yn wair a gwellt a seilej ( yn y bag Aldi!) a llysiau rhyfeddol o ystyried y tywydd a’r malwod. Llongyfarchiadau i’r enillwyr oll, ac i Carys ac Enid yn enwedig, am drefnu’r holl beth – sydd ddim yn hawdd, mi wn. Cefnogwch eich sioeau bach lleol – a chynigiwch helpu os allwch chi! Mae Cyfarfod Blynyddol Sioe Rhydymain am 7.30 ar nos Fercher Tachwedd 7fed – a byddai croeso mawr i wynebau newydd …

Llun bach arall i chi rwan:Edward Werner, darlithydd o Leipzig ydi hwn, efo copi o ‘Hanka’, sef ei gyfieithiad o ‘Gwrach y Gwyllt’ i iaith o’r enw Sorbeg Uchaf ( Higher Sorbian), iaith leiafrifol yn ardal yr Almaen. Sbiwch ar Wicipedia os am fwy o fanylion am yr iaith. Mae o wedi dysgu Cymraeg ( wrth gwrs – sut arall fyddai o wedi gallu cyfieithu’r nofel?!) ac mi benderfynodd bod ‘na themau yn fy nofel i fyddai’n gweithio ar gyfer siaradwyr Sorbeg uchaf hefyd … dach chi’n gweld! Mae ‘na fwy na jest rhyw yn fy nofelau i, ffenciw! Ac ia, yn Ffrwd y Gwyllt mae o – alwodd o acw i roi copi i mi, cyn i ni fynd i hel madarch i ginio. Fel mae rhywun …

A dyna fy mlog olaf am sbel – dwi’n mynd ar fy ngwyliau (o’r diwedd) ddydd Gwener. Dwi’n mynd i feicio o Bangkok i Saigon. Gewch chi’r hanes pan ddoi’n ôl.

Twdlw am y tro – mae gen i waith pacio i’w wneud. X

*Newydd gael ebost yn holi sut yn union dwi’n bwydo’r adar efo uwd:

Dim ond taflu’r ‘rolled oats’ sych ar y lawnt/llwybr yn syth o’r bocs.
Neu ar y bwrdd adar – lle bynnag.
Dim llanast – mae fy adar i’n ei sglaffio i gyd o fewn dim!
Ond mae’n debyg eu bod yn hoffi sbarion uwd wedi ei goginio hefyd.



Llwyddiant mewn sioe(au)!
Awst 30, 2012, 3:32 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Dyna i chi be ydi gwên ynde! Gwên o orfoledd a phleser a sioc pur. Do, mi ges i lwyddiant yn Sioe Talybont, ger Aberystwyth ac mi gewch chi weld y cwbl ar y rhaglen fis Medi ryw ben – tua’r canol dwi’n meddwl. A finnau rioed wedi cystadlu efo fy mêl o’r blaen, doedd gen i’m syniad be i’w ddisgwyl. 4ydd falle, os o’n i’n lwcus, gan fod Carys wedi canmol y lliw – ond doedd hi’m wedi ei flasu chwaith. Ond dychmygwch y sioc pan aethon ni mewn i’r dent ar ddiwedd y beirniadu – a gweld cerdyn coch wrth fy mêl i!

Lovely clear sample, ylwch, a good flavour. Ond ro’n i fod yn ofalus efo ‘specks of honey on the lids’ – a finna’n meddwl mod i wedi eu sgwrio’n lân! Dyna pam fod pawb arall yn cario’r jariau mewn bocsys pwrpasol. Do’n i’m fod i’w rhoi yn fy rycsac, debyg …  ac roedd yr adran mêl golau yn un fawr – 13 o gystadleuwyr cofiwch! A sbiwch pwy ddoth yn ail …

Ia, Carys, fy mentor! A sbiwch gwahaniaeth lliw – mae f’un i’n hurt o ysgafn tydi? A dim clem pam, dim syniad pa flodau sy’n gyfrifol am y lliw yna. Asgell falle? Os oes gynnoch chi eglurhad – rhowch wybod plîs! Chafodd Tom Edwards sydd o Rydymain yn wreiddiol ddim byd efo’i fêl golau o, ond mi nath o’n dda efo’r gweddill – a tase Carys heb anghofio ei chwyr, mae’n eitha posib mai rhwng y ddau yna fyddai’r gystadleuaeth am y mwya o bwyntiau. Dyma ni’n tri mewn rhes cyn y beirniadu:

a dyma fwy o luniau o Dalybont:

Ddeuddydd yn ddiweddarach, roedd gen i sioe yn nes at adre ( Rhydymain), a jar o fêl yn yr adran goginio …

Do, wir i chi, ges i gynta eto. Doedd na’m llawer yn trio – dim ond Tom Edwards – oedd wedi rhoi 3 jar i mi ar y dydd Sadwrn i ddod efo fi i Rydymain- a nes i lanhau y topiau iddo fo a bob dim! Ond mae arna i ofn bod arogl a blas fy mêl i yn rhagori ar y pethe tywyll o ardal Corris …! Dyna ddeudodd y beirniad beth bynnag. Ac mae pobl sy’n dallt eu mêl yn deud bod hwn yn fêl sbeshal! Bechod bod gen i’m digon i’w werthu de. Ond mi driai gofio tynnu peth tua’r un adeg flwyddyn nesa yn y gobaith y bydd yr un blodau/be bynnag wedi bod allan.

Ges i gynta efo rhosyn hefyd – ond fi oedd yr unig un yn y categori lleol! Lwcus deud gwir, achos sbiwch pwy oedd beirniad y blodau: Ia, Sioned ni – a fiw i neb ei chyhuddo o ffafriaeth! Roedd hi reit nerfus am feirniadu blodau yn hytrach na’u gosod, ond mi nath hi chwip o job, chwarae teg, a mwynhau ei hun!

Er gwaetha’r glaw, cafwyd sioe fach dda a’r coginio’n ardderchog fel arfer: A ges i drydydd efo fy nharten – unrhyw ffrwyth! Da ydi sioeau bach fel hyn de? Lot o waith trefnu a phwyllgora ond mae’r mwynhad maen nhw’n ei roi werth o – dwi’n meddwl!

Wps, wedi anghofio cynnwys hwn – llun o gactws anhygoel Llewelyn Evans, flodeuodd am ddiwrnod – jest mewn pryd i’r sioe! Mi gafodd y Wobr Arbennig am hynna – gwych de?



Mêl a bali rhedyn
Awst 22, 2012, 9:06 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Wel, dwi bron yn barod ar gyfer Sioe Talybont ddydd Sadwrn.  Mi fyddwn ni’n ffilmio yno – Carys Tractors a fi, yn cystadlu yn erbyn ein gilydd yn yr adran fêl! Mi ddoth hi draw ddydd Iau dwytha i fy helpu i dynnu’r mêl. Dim ond o’r cwch wreiddiol – dim digon i’w sbario gan y lleill, ac roedd yr haid ddiarth yn rhy bifish beth bynnag, a dim ond 6 ffram gymrais i, naci, 7 efo’r ffrâm dwi am gystadlu efo hi fel ffrâm mewn câs, er nad ydi hi wedi ei ‘chapio’ yn iawn.

Capio ydi cwyr dros y tyllau llawn mêl. Dydi’r ochr yma ddim yn ddrwg, ond rhywsut, aeth ‘na fys drwy’r cwyr ar yr ochr arall – wps. Ond mae Carys yn deud bod pawb yn yr un cwch eleni ( ha – jôc …cwch …?) a fydd gan neb fframiau gwych iawn. Y cystadlu sy’n bwysig ynde …

A dyma’r aeddfedwr yn llawn ( wel, efo cwpwl o fodfeddi) o fêl: Arogl hyfryd pan dach chi’n tynnu’r caead na. Rydan ni wedi ffilmio’r broses o gael y mêl i mwn i fanna felly gewch chi weld hynny ar S4C cyn bo hir.

A dyma’r mêl wedi ei dywallt i jariau ddoe. Na, dio’m llawer nacdi? Y tair jar fawr ar gyfer cystadlu ( un yn sbâr rhag ofn i mi gael damwain ar y ffordd i Dalybont), yr un ganolig i mi – ro’n i eisoes wedi mynd ag un at yr Hughesiaid sydd pia’r tir lle dwi’n cadw’r cychod, a dwi’n rhoi’r rhai bach yn anrhegion i deulu a ffrindiau. Nagoes, sgen i’m labeli eto – dim pwynt trafferthu efo cyn lleied o fêl nagoes! Mae o’n fêl golau iawn, iawn a blas bendigedig arno fo. Oes gen i obaith yn Nhalybont? Dim clem. Dibynnu os nath y mwslin ei waith yn iawn yn ei hidlo am wn i. Dwi wedi llenwi’r rhai mawr i’r top fel bod lle i mi grafu unrhyw gync oddi ar y top cyn dydd Sadwrn. Ac os na chai hwyl arni, mae ‘na gystadleuaeth jar o fêl yn Sioe Rhydymain ddydd Llun hefyd – ac un ar gyfer dechreuwyr yn Sioe Ganllwyd ar Fedi’r 15fed!

Dwi wedi cael fy ail bigaid gyda llaw – nid wrth dynnu’r mêl, ond gan y bali haid bifish – yn syth ar ôl codi’r wahanlen. Aethon nhw’n wallgo, er mod i wedi mygu a gneud bob dim yn ofalus, dawel. Ges i bigiad drwy ddefnydd y wisg, cofiwch, yn fy mraich. Fy mai i am wisgo crys T, debyg – ond roedd hi’n boeth! Do’n i’m yn teimlo fel taswn i ar fin mynd i sioc anaphylactic ( gallu digwydd efo’r ail bigiad os oes gen i alergedd), felly rois i bopeth yn ôl yn ei le, a ges i lonydd gan y gwenyn milain erbyn cyrraedd y ty ( ar ôl cerdded reit drwy’r rhedyn uchel!). Dim byd mawr yn codi i gychwyn, cymryd tabled antihisthamine rhag ofn. Ond erbyn trannoeth, roedd y patshyn coch yn fawr ac yn cosi ac yn goblyn o boeth. Aeth o ddim i lawr am 4 neu  5 diwrnod chwaith, er gwaetha’r tabledi. Drapia, dydi nghorff i jest ddim yn licio gwenwyn gwenyn mêl. Gawn ni weld os fydd ymateb y 3ydd pigiad yn llai … dwi’n croesi mysedd.

Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn trio cael gwared o’r rhedyn sydd wedi dechrau mynd yn wallgo yn yr ardd: Ond mae’n goblyn o anodd tynnu’r cwbl lot a’r gwreiddiau. Dyma be ddigwyddodd i fforch eitha newydd, gwerth tua £46: Ond ges i hen un bren, solat am £12 yn mart Dolgellau. Mae honno’n wych!Roedden nhw’n gneud pethe i bara ers talwm. Es i a’r un £46 yn ôl i’r siop, yn gobeithio cael fy mhres yn ôl, ond na, un newydd yn ei lle hi ges i. O wel. Dwi’n ystyried talu rhywun ifanc, cryf i dynnu’r gweddill gyda llaw – mae nghefn i’n fy lladd i!

A digwydd bod, dyma i chi rywun cryf, sydd ddim llawer iau na fi ( Geraint fy mrawd) yn tacluso rhan arall o’r ardd … gewch chi weld y canlyniad yn y blog nesa! Ac i orffen, llun bach od ( dwi’n hoffi sgwarnogod):



Nadolig ac ati
Rhagfyr 20, 2011, 1:04 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

Dyma i chi lun gan Robin, fy nai. Wrth fy modd efo fo! Felly dyna ddechrau Nadoligaidd i’r cofnod – yr un olaf yn 2011, mae’n siwr. Fydda i ddim yn blogio mor aml tra mae’r rhaglen oddi ar yr awyr, dim ond yn achlysurol, os bydd rhywbeth difyr a pherthnasol yn codi, iawn?

Wedi cael ymateb da iawn i’r rhaglen Nadolig! A rhag ofn eich bod am wneud eich gwin poeth ( mulled wine) eich hun (ROEDD f’un i’n well nag un potel Steffan, wir yr …) dyma’r cynhwysion:

potel o win coch ( dim byd rhy ddrud)

sloch o frandi

sloch golew o sudd oren ( cranberry yn iawn hefyd)

sloch da o ddwr ( ddim yn siwr os nodwyd hyn ar y rhaglen)

bag neu becyn neu lond llaw o sbeisys ar gyfer gwin poeth ( ar gael mewn unrhyw siop groser fel arfer)

gallwch ychwanegu tangerine efo cwpwl o gloves ynddi os liciwch, jest cofiwch bod blas y cloves yn gallu bod yn ormod i rai.

siwgr ( ychwanegu fesul tipyn – jest blaswch y stwff bob hyn a hyn i weld os oes angen mwy). Dechreuwch efo llond llaw. Brown neu wyn yn iawn, dwi’n tueddu i ddefnyddio chydig o’r ddau.

Gadael i’r cyfan gynhesu mewn sosban – peidiwch a gadael iddo ferwi. Mwynhewch!

Mae pobl yn holi am y gwenyn hefyd, wel, dwi newydd fod yn sbio arnyn nhw bore ‘ma ac maen nhw’n dawel iawn – y rhan fwya yn cysgu, ddeudwn i. Ro’n i wedi rhoi llond bwced o hylif llawn siwgr iddyn nhw sbel yn ôl ac mae o’n dal yn eitha llawn felly dydyn nhw’n amlwg ddim yn defnyddio llawer o egni rwan. Mi wnes i stwffio chydig o sbwng i’r hollt cefn ar waelod y cwch hefyd, i’w helpu i gadw’r cwch yn gynnes pan fydd hi’n oeri go iawn.

Mi wnes i archebu thermomedr ar gyfer cychod gwenyn ddoe, hefyd, a phan ddaw o mi wnai gymryd llun a gadael i chi wybod os ydi o’n werth ei gael. Doedd o’m yn ddrud iawn beth bynnag.

Ges i adroddiad blynyddol gwenynwyr Cymru hefyd, oedd yn fy annog i gofnodi fy manylion ar ‘beebase’, felly dwi newydd wneud. 101 o wenynwyr newydd oedd arno yn 2007, a 404 yn 2011 – 405 rwan! Difyr oedd gweld nad oes sôn am afiechydon yng Ngwynedd eleni, felly mae hynna’n ryddhad. Dwi’m wedi gneud dim i drin Varroa eto. Ond mae’n siwr y daw Carys heibio rhyw ben i ddangos i mi be sydd angen ei wneud.

Ches i’m digon o fêl eleni i fedru rhoi jariau fel anrhegion Nadolig; ro’n i eisoes wedi rhoi peth i fy rhieni a gweddill y teulu. Ond efallai y bydd o’n bosib flwyddyn nesa – gawn ni weld. Dwi isio cwch ychwanegol, mae hynny’n bendant – rhag ofn i rhain benderfynu heidio yn un peth! Ond maen nhw’n amlwg yn hapus eu byd yma hyd yma, a dwi’m wedi cael pigiad yn ystod fy mlwyddyn gynta o’u cadw, o leia. Ond ges i sgwrs ddifyr ym mharti Nadolig Cwmni Da nos Wener, efo rhywun oedd wedi casau cadw gwenyn efo’i dad. Bob tro roedden nhw’n tynnu gwenyn, mi fyddai bywyd yn uffern i bawb ( a’r ci a’r gath) am ddyddiau wedyn, gan fod y gwenyn wedi gwylltio’n rhacs ac yn ymosod ar unrhyw beth oedd o fewn cyrraedd. Doedd fy ngwenyn i ddim felly, rhaid cyfadde, ond pwy a wyr sut fydd hi tro nesa …

Y mwya dwi’n siarad efo gwenynwyr, mwya’n byd dwi’n meddwl bod yma ddeunydd rhaglen deledu neu lyfr, neu rywbeth. Roedd na raglen radio difyr yn ddiweddar yndoedd? Efo gwenynwyr Cymraeg Ceredigion. Dim ond ei hanner glywais i, ond mi wnes i fwynhau’n arw.

Iawn, dyna ni am eleni ta. Nadolig Llawen i chi i gyd a welai chi yn 2012!

o.n: Sbiwch be sydd ar do Ffrwd y Gwyllt rwan! Ia, gwrach. Fan hyn wnes i sgwennu ‘Gwrach y Gwyllt’ a dwi wedi bod isio un o’r rhain ers sbel … wrth fy modd!



Mel a ballu
Tachwedd 1, 2011, 1:50 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Dyma lle fydda i’n beicio efo Del bob dydd. Pam trafferthu chwilio am olygfeydd tlws dros y môr dwch? Yn enwedig yn yr hydref. Ew, mae’n braf bod adre, ac yn braf gallu byw ym Meirionnydd.

Yn enwedig pan mae gan rywun ardd sy’n denu a bwydo’r rhain: Do, dwi wedi bod yn prynu mwy o bling i’r ardd. Dwi wedi gwirioni efo ngwenyn! A dwi wedi cael mêl go iawn o’r diwedd. Braidd yn hwyr yn y tymor, ond ro’n i wedi bod i ffwrdd do’n, ac mae Carys Tractors yn hogan brysur. Ond un pnawn Sul, daeth hi draw i ddangos i mi be oedd angen ei neud. ges i fenthyg hwn gan y gymdeithas: Ia, twbyn mawr gwyn sy’n cymryd pedair ffram ar y tro ( dim ond pedair allwn i fforddio eu dwyn o’r cwch fel mae’n digwydd – roedd y gwenyn druan wedi gorfod sglaffio’n arw dros y mis Awst gwlyb, oer gawson ni). Dyma Carys yn fy nangos sut i’w rhoi i mewn ( ar ôl torri’r ochrau llawn cwyr i mewn i sosban efo cyllell fara). Troi’r handlen wedyn, ac roedd y mel yn tasgu allan o’r tyllau ac yn llifo i lawr ochr y twbyn. Wedi gadael i’r cyfan setlo dros nos, y cam nesa oedd agor y tap i adael iddo lifo i mewn i’r hidlwr dwi wedi ei brynu gan Carys am £40.

Mmm … mêl! Roedd yr arogl yn hyfryd! Wedi gadael iddo hidlo a setlo am ryw ddeuddydd, dri, mi fues i’n ei dywallt i mewn i jariau. Dwi’m wedi trafferthu i wneud labeli eto – dwi’m yn pasa gwerthu dim, anrhegion i ffrindiau a theulu ydi’r mêl yma – ac un yn anrheg i’r boi sy pia’r gwyllt! Ond ges i ddeg jar yn y diwedd, ond mi falodd un yn deilchion … grrr. A dyma be oedd ar ôl wedi rhoi un jar i Nain, un i fy rhieni, un i’r Gwanas ac un bychan bach i Chris ac Olga Malone, ddigwyddodd alw i ngweld i. Mae pawb yn canmol y blas yn arw – Himalayan Blossom yn gryf ynddo fo. Sef y stwff sy’n tyfu’n rhemp ar hyd glannau ein hafonydd, ond dydi o’m yn ddrwg i gyd felly nacdi? Ddim os ydi o’n cadw y gwenyn i fwydo’n hirach yn y tymor.Ond mi fydd raid i mi gadw golwg ar rhain rwan a’u bwydo’n gyson rhag iddyn nhw lwgu dros y gaeaf. Maen nhw wedi cael un llond bwced o hylif llawn siwgr yn barod.

Dwi am gael cwch arall ar gyfer flwyddyn nesa. A falle siwt sbâr i ffrindiau a theulu gael dod i fy helpu. Dyma fy mam a fy nith Ceri, yn y siwtiau ges i eu benthyg gan Carys am gyfnod. Roedden nhw’n hapus braf yn trin y gwenyn!



Y gwenyn – a’r mêl!
Awst 12, 2011, 10:17 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Drapia’r glaw yma. Roedden ni fod i ffilmio mewn dwy ardd NGS ddydd Iau ond bu’n rhaid gohirio. Ond ro’n i wedi mynd i weld y ddwy – Tyn Twll, Llanfachreth a gardd ‘Anti’ Beryl ( dydi hi’m yn fodryb i mi, ond mae hi’n nabod Cadi FFlur yn dda) yn Bontddu a dan ni’n siwr o ffilmio yno eto – maen nhw’n werth eu gweld, dwi’n addo. A sôn am NGS, mae Bryngwern ( lle fuon ni’n ffilmio llynedd) ar agor dydd Sul yma, ond mae’r perchennog, Hilary Nurse yn flin fel tincar am fod y glaw wedi chwalu bob dim! Hefyd, mae pob dim yn gynharach nag arfer tydi, felly mae ei hoff flodau wedi darfod yn barod. Ond mi fydd yn werth mynd yno run fath – ar ffordd Dolgellau-Bala – ac maen nhw’n addo tywydd gwell at ddydd Sul.

Bechod am ddydd Sadwrn – sef fory. Addo cawodydd maen nhw a dyna pryd mae Sioe Fach y Patsh. Croesi bysedd mai dim ond cymylau gawn ni. Ac mae gen i ryw hen beswch annifyr wedi codi – a’r hen boen ‘na yn yr ysgwyddau sy’n arwydd bod annwyd/ffliw ar y ffordd. Dim ond gweddio y bydd y garglo halen yn gweithio ac y bydd gen i lais ac egni fory …

Ond, er gwaetha’r tywydd, llwyddwyd i wneud diwrnod da o ffilmio ddydd Mercher, fan hyn, yn Ffrwd y Gwyllt. Gewch chi weld sut siap sydd ar fy nhy gwydr ( dal i gadw’r un ciwcymbar fawr at Sioe Rhydymain), y gornel gysgodol lle driodd Carol a finne roi mwy o liw ynddi, hanes y camerau adar – a’r gwenyn. Y diwrnod cyn i’r criw gyrraedd, roedd Carys Tractors wedi galw efo siwtiau ar eu cyfer. A dyma fanteisio ar fynd i weld fy ngwenyn gan ei bod hi’n braf.

Ym … pan dynnon ni’r caead, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ddim cweit fel y dylai fod:

Dach chi’n gweld y crwybr ( honeycomb) drwy’r tyllau? Dydyn nhw ddim i fod fanna. Wedi tynnu hwnna, sbiwch llanast:‘Bad beekeeping’ yn barod! Ro’n i wedi bod yn rhy araf yn gneud a gosod fframiau ychwanegol i lenwi’r bocs, felly roedd fy ngwenyn prysur wedi dechrau llenwi’r bwlch eu hunain … wps. Bu’n rhaid tynnu’r cwbl oddi  yna a’i roi mewn bwced … ac mi wnes i fframiau newydd yn o handi!

Dyma sut roedd y bocs i fod i edrych:

A sbiwch ffram dda sydd gen i’n y canol – llwyth o fêl ar honna! Nôl â ni i’r ty wedyn, a rhoi’r crwybr mewn sosban oddi mewn sosban arall yn llawn dwr poeth: Gan fanteisio ar flasu peth ohono fo cyn ei doddi yn gynta …

ew, melys. Ond dydi’r mêl yma ddim wedi cael cyfle i aeddfedu felly neith o’m cadw’n hir iawn. Mae o’n ffresh, ydi, efo blas ysgafn, ffresh, ond ffermentio neith o yn ôl Carys.

Yn ara bach, dyma’r stwff yn toddi … Nes ei fod yn edrych fel cawl minestrone. Y paill ydi’r darnau bach coch ac oren, gyda llaw. Wedi gadael iddo oeri, roedd y wax wedi caledu ar y top, ac wedi hidlo’r mêl drwy fwslin, ges i 4 jar o fêl! Es i â un i Nain ac un i fy rhieni, ac mi gaiff fy chwaer y llall. Mae hi i fod i alw heddiw ryw ben – efo Cadi Fflur gobeithio. Mae Caio chydig yn rhy ifanc i werthfawrogi mêl dwi’n meddwl.

Dwi angen bocs ‘super’ arall rwan am fod fy nghwch yn datblygu mor gryf, mor sydyn – a bydd angen 11 ffrâm arall yn barod pan ddaw hi! A chwch cyfan arall yn o handi wedi hynny – mae’r gwenyn yn amlwg yn licio’u lle yma ac yn cael hen ddigon o fwyd yn fy ngardd i. Gewch chi eu gweld nhw eto toc – a finna efo nhw, yn edrych dipyn llai, gobeithio – es i ar ddeiet ar ôl gweld y siap oedd arna i …