BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Pigiadau a chwalu wal

Dyma fo’r ail bigiad gan fy ngwenyn annwyl. Llawer iawn gwell na’r cynta, ond dim ond drwy’r siwt oedd hyn, felly wnaeth y colyn ddim aros i mewn, ac mi wnes i gymryd tabledi antihisthamine cryf, felly dyn a wyr sut siap fyddai ar fy mraich i heb rheiny! Y diwrnod canlynol oedd hyn, gyda llaw. Oes, mae’n rhaid diodde weithiau er mwyn cael y pleser o drin gwenyn mêl.

Ta waeth, mi fydd y gyfres yn ôl yn gyfredol cyn bo hir, a dyma i chi lun o Sioned pan fuon ni’n ffilmio yng Nghanolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon:

Mae’r trefniannau wnaeth hi wrth ei phenelin a’i hysgwydd – del iawn – a ges i heuchera sbâr ganddi, sy’n gwneud yn dda iawn yn un o’r tyllau fu gynt â lwmpyn mawr o redyn ynddo. Dwi’n dal i godi o leia 2/3 o’r rheiny bob dydd ac mae’n dechrau altro yma. Dydi nghefn i ddim yn wych ar ôl tynnu a brwydro’r holl efo’r gwreiddiau o uffern, ond o leia dwi’m yn gorfod talu i fynd i gampfa efo’r holl chwysu ma.

A dyma Russell a Sioned efo peth o gynnyrch y patsh:

Russ yn edrych mor wahanol efo gwallt byr tydi? A naddo, chawson ni’m mynd a’r angenfilod yna adre efo ni go iawn!

Yno i wneud eitem am fwydo adar gwyllt ro’n i, a dyma fi efo Geraint Williams, swyddog efo’r RSPB, sydd, yn anffodus, wedi cau ei lygaid. Ond bosib mai ymabaratoi i ganu oedd o, neu ddim yn hoffi fy mhersawr i – nid mod i’n gwisgo peth yn aml. Beth bynnag, gawson ni sgwrs am y ffaith bod bwydo adar wedi mynd yn fusnes anferthol, a sut i ddal ati i fwydo heb fynd i’r coch. Mi soniodd bod uwd yn beth da ( a rhad) – a dyna dwi wedi bod yn ei roi ar y gwair ar ôl rhedeg allan o hadau blodyn yr haul – a diawcs, maen nhw wrth eu boddau efo fo. Uwd amdani felly – yn ogystal â’r cnau mwnci ac ati.

O ia, wyddoch chi fod rhai pobl yn rhoi ‘ready salted’ i adar? Wir i chi. Na – cnau heb eu trin  gwbl  plis!

A dyma ‘dip’ arall ges i gan Geraint. Dydi’r sticeri pila pala rois i ar fy ffenestri ddim yn eu rhwystro rhag hedfan i mewn i’r gwydr weithiau. ‘Rhain rwyt ti eu hangen’ medda fo:

Mae ganddyn nhw ofn y rhain yndoes, felly mi awn nhw o’u ffordd i hedfan i’r cyfeiriad arall. Ro’n i wedi ofni y bydden nhw’n eu cadw draw o’r ty yn llwyr, ond na, hyd yma, maen nhw’n dal i ddod yn agos ond nid yn peltio mewn i’r gwydr. Diolch, Geraint!

Ac os ydach chi’n teithio heibio fy nhy i weithiau, mi fyddwch chi wedi amau bod rhywun wedi gyrru i mewn i’r wal:

Ond na, taro bargen efo fy mrawd wnes i. Roedd o angen cerrig da ac ro’n i angen lledu’r fynedfa – oedd yn hawdd gan fod rhan ohoni’n amlwg wedi ei ychwanegu ryw dro. Mae’r darn welwch chi yn fanna â cherrig syth, smart, fydd yn ddel iawn pan ddaw Ger yn ôl i orffen y job … mae o wedi dod i dorri’r coed a thwtio rhywfaint:Edrych gymaint gwell rwan tydi? Dwi’n cael llawer iawn mwy o olau, mae’n haws troi i mewn ac allan, ac mae ymwelwyr o gyfeiriad y Bala yn llawer llai tebygol o hedfan heibio heb fy ngweld i. Ydi, mae hi’n siapio yma! Cael gwared o’r rhododendrons yna hefyd ydi’r gobaith ryw dro. Gawn ni weld.

Advertisements


Mêl a bali rhedyn
Awst 22, 2012, 9:06 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Wel, dwi bron yn barod ar gyfer Sioe Talybont ddydd Sadwrn.  Mi fyddwn ni’n ffilmio yno – Carys Tractors a fi, yn cystadlu yn erbyn ein gilydd yn yr adran fêl! Mi ddoth hi draw ddydd Iau dwytha i fy helpu i dynnu’r mêl. Dim ond o’r cwch wreiddiol – dim digon i’w sbario gan y lleill, ac roedd yr haid ddiarth yn rhy bifish beth bynnag, a dim ond 6 ffram gymrais i, naci, 7 efo’r ffrâm dwi am gystadlu efo hi fel ffrâm mewn câs, er nad ydi hi wedi ei ‘chapio’ yn iawn.

Capio ydi cwyr dros y tyllau llawn mêl. Dydi’r ochr yma ddim yn ddrwg, ond rhywsut, aeth ‘na fys drwy’r cwyr ar yr ochr arall – wps. Ond mae Carys yn deud bod pawb yn yr un cwch eleni ( ha – jôc …cwch …?) a fydd gan neb fframiau gwych iawn. Y cystadlu sy’n bwysig ynde …

A dyma’r aeddfedwr yn llawn ( wel, efo cwpwl o fodfeddi) o fêl: Arogl hyfryd pan dach chi’n tynnu’r caead na. Rydan ni wedi ffilmio’r broses o gael y mêl i mwn i fanna felly gewch chi weld hynny ar S4C cyn bo hir.

A dyma’r mêl wedi ei dywallt i jariau ddoe. Na, dio’m llawer nacdi? Y tair jar fawr ar gyfer cystadlu ( un yn sbâr rhag ofn i mi gael damwain ar y ffordd i Dalybont), yr un ganolig i mi – ro’n i eisoes wedi mynd ag un at yr Hughesiaid sydd pia’r tir lle dwi’n cadw’r cychod, a dwi’n rhoi’r rhai bach yn anrhegion i deulu a ffrindiau. Nagoes, sgen i’m labeli eto – dim pwynt trafferthu efo cyn lleied o fêl nagoes! Mae o’n fêl golau iawn, iawn a blas bendigedig arno fo. Oes gen i obaith yn Nhalybont? Dim clem. Dibynnu os nath y mwslin ei waith yn iawn yn ei hidlo am wn i. Dwi wedi llenwi’r rhai mawr i’r top fel bod lle i mi grafu unrhyw gync oddi ar y top cyn dydd Sadwrn. Ac os na chai hwyl arni, mae ‘na gystadleuaeth jar o fêl yn Sioe Rhydymain ddydd Llun hefyd – ac un ar gyfer dechreuwyr yn Sioe Ganllwyd ar Fedi’r 15fed!

Dwi wedi cael fy ail bigaid gyda llaw – nid wrth dynnu’r mêl, ond gan y bali haid bifish – yn syth ar ôl codi’r wahanlen. Aethon nhw’n wallgo, er mod i wedi mygu a gneud bob dim yn ofalus, dawel. Ges i bigiad drwy ddefnydd y wisg, cofiwch, yn fy mraich. Fy mai i am wisgo crys T, debyg – ond roedd hi’n boeth! Do’n i’m yn teimlo fel taswn i ar fin mynd i sioc anaphylactic ( gallu digwydd efo’r ail bigiad os oes gen i alergedd), felly rois i bopeth yn ôl yn ei le, a ges i lonydd gan y gwenyn milain erbyn cyrraedd y ty ( ar ôl cerdded reit drwy’r rhedyn uchel!). Dim byd mawr yn codi i gychwyn, cymryd tabled antihisthamine rhag ofn. Ond erbyn trannoeth, roedd y patshyn coch yn fawr ac yn cosi ac yn goblyn o boeth. Aeth o ddim i lawr am 4 neu  5 diwrnod chwaith, er gwaetha’r tabledi. Drapia, dydi nghorff i jest ddim yn licio gwenwyn gwenyn mêl. Gawn ni weld os fydd ymateb y 3ydd pigiad yn llai … dwi’n croesi mysedd.

Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn trio cael gwared o’r rhedyn sydd wedi dechrau mynd yn wallgo yn yr ardd: Ond mae’n goblyn o anodd tynnu’r cwbl lot a’r gwreiddiau. Dyma be ddigwyddodd i fforch eitha newydd, gwerth tua £46: Ond ges i hen un bren, solat am £12 yn mart Dolgellau. Mae honno’n wych!Roedden nhw’n gneud pethe i bara ers talwm. Es i a’r un £46 yn ôl i’r siop, yn gobeithio cael fy mhres yn ôl, ond na, un newydd yn ei lle hi ges i. O wel. Dwi’n ystyried talu rhywun ifanc, cryf i dynnu’r gweddill gyda llaw – mae nghefn i’n fy lladd i!

A digwydd bod, dyma i chi rywun cryf, sydd ddim llawer iau na fi ( Geraint fy mrawd) yn tacluso rhan arall o’r ardd … gewch chi weld y canlyniad yn y blog nesa! Ac i orffen, llun bach od ( dwi’n hoffi sgwarnogod):



Coginio efo blodau

Cyn mynd at y blodau, wele’r effaith gafodd pigiad y wenynen fach yna ar fy ffer i erbyn nos. Erbyn 5 y bore roedd o’n fwy ac yn goch ac wedi chwyddo hyd at hanner ffordd i fyny nghoes i! Ond mae’n debyg bod y ffer yn le drwg i gael pigiad – ac roedd y ‘colyn’ wedi bod yno’n hir iawn yn pwmpio’r gwenwyn i mewn i mi – a nes i ei dynnu efo bys a bawd – dyh! Y peth anghywir i’w wneud – fflicio fo allan efo’ch gewin neu rywbeth tebyg sydd ei angen. Ges i Piriton yn lle Piriteze ac mi wellodd yn arw yn o handi. Ond dwi fod yn ofalus y tro nesa gai mhigo … ond gan nad oes gen i alergedd at ddim byd arall na chlefyd y gwair na dim byd arall, go brin mod i’n un o’r bobl anlwcus sy’n mynd mewn i sioc yr ail dro. Ond rhowch o fel hyn – dwi’n gwisgo’r gêr i gyd bob tro dwi’n mynd ar gyfyl y cychod rwan! O’n i wedi mynd braidd yn ‘cocky’ toeddwn. Parch at bwer y gwenyn, dyna ydi o!

Iawn, coginio efo blodau:

Dwi wedi gwirioni efo llyfrau, a dwi’n gwirioni pan fydda i’n cyfarfod pobl sy’n gwirioni’r un fath, felly dyna pam ddechreuodd criw bychan ohonon ni gyfarfod bob rhyw ddeufis i drafod y llyfrau roedden ni wedi eu darllen. Un llyfr Cymraeg ac un Saesneg fel arfer, a chyfarfod yn nhai ein gilydd – a dod a rhyw bethau bach i’w cnoi a’u hyfed yr un pryd. Bwyd a llyfrau – be gewch chi chi well?

Felly roedden ni’n GORFOD trafod nofel am fwyd doedden?  ‘Blasu’ gan Manon Steffan Ros oedd y nofel honno, a wir i chi, mae hi’n chwip o nofel. Dydan ni fel criw ddim wastad yn cytuno, ond roedd y farn yn unfrydol y tro yma. Clincar!

Ym Mallwyd roedden ni’n cyfarfod y tro yma, sydd ddim yn bell o gartref Manon ym Mhennal, ger Machynlleth. Felly mi wnes i gysylltu efo hi’n gofyn fyddai ganddi awydd dod draw i gael sgwrs efo ni. Oedd, tad. Mi wnaethon ni hefyd benderfynu y byddai pob un ohonon ni ( hyd yn oed yr un sydd ddim yn wych am goginio – medde hi) yn gwneud un o’r risetiau sydd ar ddechrau pob pennod.

Y bisgedi Lafant a Dant y Llew dynnodd fy sylw i, felly fues i’n brysur yn hel blodau lafant o’r ardd –ond drapia – pan dach chi isio gweld Dant y Llew, does ’na’m golwg ohonyn nhw! Roedd fy chwynnu yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl – dim ond dau flodyn oedd gen i! Bu’n rhaid i mi fynd ar y beic ar hyd y ffyrdd cefn i chwilio, a ges i ddau arall. Byddai’n rhaid i hynny wneud y tro. Wedyn roedd angen dwr rhosod – a doedd gen i’m amser i fynd i chwilio am beth yn dre, felly es i ar y we i weld os oedd modd ei wneud fy hun – oedd! Felly dyma hel petalau rhai o fy hen rosod hen ffasiwn ( y rhai sydd ag arogl cryf arnyn nhw), eu rhoi mewn cwpan a thywallt dwr berwedig drostyn nhw. Erbyn i’r dwr oeri, roedd gen i ddwr oedd yn arogli’n fendigedig. Mi ges i hwyl garw’n gneud y bisgedi yma, a’r pleser rhyfedda o ddefnyddio blodau o fy ngardd fy hun i’w gwneud nhw.Tydi’r lliwiau’n hyfryd? A rhaid i mi ddeud, roedden nhw’n flasus hefyd – mae’r blas lafant yn berffaith efo paned o de – Earl Grey yn enwedig. Ydi, mae’r riset yn y llun yma – ond swn i’n prynu’r llyfr taswn i’n chi. Mae’r hufen ia yn arallfydol!

A dyma luniau o’r criw ( a Manon) yn mwynhau’r sglaffio a’r sgwrsio. A rhai o’r pethau eraill fuon ni’n eu bwyta a’u trafod a’u mwynhau! Pwdin barlys Leisa ydi hwnna – nid at ddant pawb ond nes i fwynhau yn arw – dyna be ges i i frecwast y bore wedyn! a chacen sinsir nefolaidd Delyth.

Roedd Manon wrth ei bodd bod y noson wedi troi i mewn i rywbeth a fyddai’n ffitio’n berffaith i mewn i’r nofel ei hun: “merched, a bwyd, yn chwerthin dros jôcs gwirion a difrifoli dros bethau dwys.”

Lwcus ei bod ni wedi cael chydig o waith cerdded cyn dechrau bwyta, neu mi fydden ni gyd wedi byrstio. Dach chi’n gweld, gan ein bod ni yng Nghwm Dugoed, roedd o’n gyfle da i weld llefydd pwysig yn hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy. Gawson ni’n harwain o gwmpas gan Huw Jones, Henllys: drwy gors a thros ffens i gychwyn ( dyma’r ffens)

at fryn siap pwdin Dolig o’r enw Collfryn, lle crogwyd 80 o Wylliaid Cochion Mawddwy oddi ar ganghennau’r coed derw. Mae’n le rhyfedd a hudol a does dim angen dychymyg arbennig i fedru gweld a chlywed yr hyn ddigwyddodd yno noswyl Nadolig 1554. Ymlaen a ni wedyn i weld Llidiart y Barwn, lle cafodd y Barwn Owen ei ladd ddeng mis yn ddiweddarach. Doedd hwn ddim mor hudol a bod yn onest: postyn oedd yn sicr ddim yno yn 1555, a giât haearn wedi rhydu. Ac roedd y gwybed yn ei gwneud hi’n anodd i ganolbwyntio ar Huw yn rhoi’r hanes am y saethau’n pledu’r Barwn a brodyr John Goch yn golchi eu dwylo yn ei waed o. Ond difyr tu hwnt er hynny!

Taith i gyd-fynd â ‘Mab y Cychwr’, Haf Llewelyn fydd nesa, chwip o nofel ddifyr arall, ac rydan ni am drafod ‘Fifty Shades of Grey’ hefyd, i weld be ydi’r holl ffys. Ond twt, mae ’na lyfrau ‘rhywiol’ ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd … ‘Amdani!’ – bargen am £5.95 a ‘Gwrach y Gwyllt’ wrth gwrs … ond dydi’r rheiny ddim yn ryw I GYD rhaid cyfadde. Ond mae na ffasiwn beth â gormod o bwdin!



Fy Mhigiad Cyntaf!
Gorffennaf 4, 2012, 10:13 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Doedd y gwenynwyr eraill methu credu nad o’n i wedi cael pigiad o gwbl gan wenyn – erioed, er mod i’n cadw gwenyn ers dros flwyddyn rwan. ( Cacwn/gwenyn meirch/wasps, do, ddigon!) Ac roedden nhw’n deud y dylwn i fynd ati i gael fy mhigo, rhag ofn fod gen i alergedd. Ddim diawl o beryg! Ond dyna fo, mae o newydd ddigwydd – ar fy ffer i, bore ma! Fy mai i oedd o, heb drafferthu gwisgo welintyns, heb sôn am y siwt llawn, ac wrth gydio yn un o’r jariau bwydo siwgr, mi lithrodd o fy llaw a glanio efo clec ar y ‘queen excluder’ neu’r ‘wahanlen’. Wel, mi wylltiodd hynny’r gwenyn debyg iawn, a finna yna’n trio siarad efo nhw ‘Popeth yn iawn, dim ond fi sy ma – sori am hynna …’ ond aeth un wenynen yn syth am fy sannau yndo – a bang!

Rwan, i chi sy rioed wedi cael pigiad gan wenyn, ydi, mae’n brifo, ond ddim yn uffernol. Dwi di cymryd tabled antihisthamine yn syth – rhag ofn, ac wedi rhoi stwff o’r rnw ‘Stingo’ arno fo ( ges i o yn Seland Newydd ar ôl cael pigiad gan rywbeth milain iawn dan y dwr yn Bali). Mae’n dal i’w deimlo, yn ‘throbbio’ fymryn am sbel, wedyn yn llosgi chydig, dibynnu be dwi’n neud. Ond dwi’m yn meddwl bod gen i alergedd, does ‘na fawr o chwydd a dwi’m yn meddwl mod i’n mynd i fynd mewn i sioc!  A dyma’r pigyn ei hun:

Roedd o’n dal yn fy nghroen i pan dynnais i’r hosan, yn dal i bwmpio’r gwenwyn i mewn. Fel’na mae gwenyn yn gneud dach chi’n gweld – gwaelod ei phen ôl hi ydi hwnna, bechod. Wrth bigo, maen nhw fel peilotiaid kamikaze, yn gwybod eu bod yn mynd i farw, am fod rhan o’u cyrff yn cael ei adael ar ôl. Dwi’n teimlo’n euog, braidd, ond o leia nes i ei sathru er mwyn ei rhoi allan o’i phoen yn syth … wel, ocê ta, ei sathru am mod i’n flin wnes i!

Ond o leia dwi’n gwybod nad ydi un pigiad yn rhy ddrwg … cam pwysig yn fy ngyrfa fel gwenynwraig!



Dyn y Mêl- Wil Griffiths

Roedden ni’n lwcus o ran y tywydd – roedd hi’n braf ar Fehefin 25! Ond dwi’m yn cofio i mi weld haul gwerth ei alw’n haul ers hynny.

A phrin oedd o cyn hynny hefyd ynde, a gan fod Wil wedi deud wrthai bod ei wenyn o’n hen bethe cas, ro’n i fymryn yn nerfus, rhaid cyfadde – er mod i’n eitha siwr mai tynnu coes oedd o. Dyma fo a fi yn paratoi i fynd i weld ei wenyn yng Nghommins Coch, nid nepell o Aberystwyth:A nefi, dydi’r siwt anferthol yn’n gneud dim i mi nacdi? Ta waeth. Roedd y criw yn fwy nerfus na fi, wel, Em y dyn sain o leia, ond mae o’n edrych reit hapus fan hyn: A dyma i chi Gwennan y cyfarwyddwr – sy’n edrych fel tase ganddi ddwylo anferthol fan hyn- Ond yn edrych fel tase hi’n mynd i briodas yn fama: Pam na fedra i edrych felna mewn gwisg wenyna?!

Beth bynnag, am fod ei wraig ac un o’i feibion yn ymateb yn ddrwg i bigiadau gwenyn, mae gwenyn Wil rai caeau i ffwrdd, ar hen stad Plas y Fronfraith – enw tlws de? Ac mae’r fynedfa yno fel rhywbeth allan o’r ‘Secret Garden’:

Roedd gynno fo lawer iawn mwy o wenyn ers talwm, ond mae o’n mynd yn h^yn rwan, ac yn torri’n ôl.

A deud y gwir, ar ôl dros 50 mlynedd, mae o’n deud mai eleni fydd y flwyddyn olaf. Bechod. Ond mi fydd o’n dal i helpu gwenynwyr newydd. Mae o mor brofiadol, mi fyddai ei golli o’n anferth o golled. Dyma fo’n dangos sut i ddal ‘drone’ neu wenyn segur, er mwyn ymarfer dal brenhines heb ei gwasgu i farwolaeth:Heb fenyg, sylwch. Hm. Dwi’m digon profiadol na hyderus i wneud hynna eto, ond mi fydd raid ryw ben, debyg. A gyda llaw, tydi gwenyn segur ( y rhai mawr, gwrywaidd) ddim yn pigo! Na’r frenhines chwaith – ond mae’n rhaid mynd drwy’r gweithwyr – sydd YN pigo – i gael gafael arnyn nhw does.

Ac roedd Wil yn deud y gwir – mae ei wenyn o’n bifish. Un cwch o leia – nid yr un roedden ni’n ei ffilmio – ond hon:Roedd hi fymryn i ffwrdd o’r cychod eraill, ac wedi bod yn flin ers y diwrnod iddyn nhw gyrraedd – o rywle arall. Doedden ni’m fod i fynd ar gyfyl honna. Ond, mae gwenyn yn gallu arogli o bell, ac yn anhapus weithie pan fyddan nhw’n arogli bobl ddiarth – yn enwedig rhai efo rhyw offer electronaidd a ryw boom mawr blewog. Dyma i chi Em yn recordio swn y cwch – tua diwedd y pnawn! Roedd o wedi ymlacio digon erbyn hynny, ar ôl sylweddoli ei fod o reit saff yn ei siwt. Ond fyddai o byth wedi gneud hynna reit ar y dechrau!

Ond wyddoch chi be, mi gafodd Wil o leia tri pigiad! Roedden ni’n gorfod tynnu ein penwisg oherwydd ‘continuity’ – yr aflwydd hwnnw – a bang – aeth un yn syth i’w dalcen o! Fel bwled yn union – ac un o’r cwch bifish, synnwn i daten. Wedyn, ges i brofiad annifyr iawn – profiad na ches i ei debyg o’r blaen ac un nad ydw i fawr o isio’i brofi eto! Naddo, ches i mo fy mhigo, ond aeth gwenynen yn sownd yn fy ngwallt i. O, nefi. Dydi hynna ddim yn neis. Mae’r wenynen yn panicio ac yn gwylltio ac yn gneud y swn rhyfedda – sy’n frawychus mor agos i’ch clust chi! A finna jest yn dal fy mhen ar i lawr ac ofn cyffwrdd dim efo nwylo – yn gweiddi – ‘sgen rywun grib?!’ A Wil methu gweld lle roedd hi, ynghanol y mwng mawr yma! Dim ond am eiliadau barodd y peth mae’n siwr, ond roedd o’n teimlo fel oes! Ac mi hedfanodd i ffwrdd yn y diwedd, diolch byth. Do’n i’m yn ffansio pigiad ar fy mhenglog.

Beth bynnag, unwaith gawson ni’n penwisgoedd nôl mlaen, aeth popeth fel wats, a finna wedi fy nghyfareddu. Wyddech chi mai dant y llew ydi’r blodau gorau un iddyn nhw yn y gwanwyn? Dim mwy o chwynnu rheiny i mi felly! Mi gewch chi weld yr eitem ymhen rhyw fis, am wn i, a dysgu be ddysgais i. Ond ‘swn i wedi gallu aros yno am oriau.

Dyma i chi 3 jar o’i fêl o: y ddwy olau yn mynd rownd sioeau ers blynyddoedd, a’r un dywyll? Casglwyd honna ryw haf pan fu’r ffermwyr yn ychwanegu molasses i’w gwair seilej – felly mae na flas triog du arni!

A dyma’r gacen wnaeth Mrs Griffiths i ni: cacen goffi – sef be ddeudis i ar raglen Geraint Lloyd mod i’n eu casau. Ond allwn i’m pechu – a dwi wedi dysgu bod na gacen goffi – a chacen goffi. Roedd hon yn hyfryd! A dyma’r criw efo platiau gweigion. Diwrnod bendigedig! A mwy o luniau o wenyn Wil – yn ffanio er mwyn oeri’r cwch a hithau mor gynnes tu allan ( dwi’m wedi dallt y camera bach yna’n iawn eto): A sut mae ngwenyn i? Yn costio ffortiwn i mi mewn siwgwr! Gorfod eu bwydo’n gyson am fod y tywydd yma mor erchyll. Ac mae na dipyn o gelloedd brenhines yn y gwch wreiddiol a bydd raid penderfynu be i’w wneud am y peth. Dwi wedi bod yn malu ambell un – sydd ddim wastad yn syniad da – ond sgen i’m cwch sbâr i roi brenhines newydd ynddi – a dwi’m isio mwy! Tair cwch yn hen ddigon – yn enwedig gan nad ydw i’n debygol o gael mêl eleni … bw hw.