BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Wiwer goch a chanhwyllau

DSCN0708 Ia, wiwer goch go iawn ydi honna, nid tegan, ac nid Del wedi ei stwffio i fyny coeden. A llun efo fy nghamera bach dim byd i ydi o; ro’n i’n cicio fy hun am beidio a mynd a’r camera mawr efo fi. Ond wedi bod yn beicio ro’n i, yn ardal Appleby yn Cumbria. A ges i ffit bod y lle’n berwi efo wiwerod coch! Wel, nid berwi, ond mae na lot ohonyn nhw. Pam? Am fod warden arbennig yn cael gwared â’r rhai llwyd. Diddorol de?

Ro’n i a fy ffrind, Ann ( roedd y lleill wedi mynd i siopa yn lle beicio) wedi gwirioni’n bot pan welson ni hi. Roedden ni fel merched bach 6 oed. A dwi’n meddwl mai tua 6 o’n i pan welais i un ddwytha – yn y Brithdir, jest i fyny’r ffordd. Miloedd o rai llwyd sydd yma ers hynny, damia nhw. Swn i’n rhoi’r byd ( wel, ddim go iawn, ond dach chi’n gwybod be dwi’n feddwl) i weld Cymru’n llawn o wiwerod coch eto. Maen nhw’n gorjys!

Ta waeth, ddrwg iawn gen i fod mor araf yn blogio ond dwi wedi bod yn brysur. O, ac mae’r hunangofiant yn rif 2 ar restr gwerthwyr gorau’r Cyngor Llyfrau! Denzil Pobl y Cwm wedi nghuro i. Grrrr. Ac mi ddaeth fy mrawd dros yr orff, ond mi gafodd Dad o wedyn! Bu raid iddo yntau fynd i’r sbyty am ryw ddeuddydd hefyd, ond mae o’n iawn rwan.

Ond mae fy nain sy’n 97 IMG_0121yn y sbyty rwan – Bronglais. Daeth ei chlun allan o’i le ddoe, ond mae’n ôl yn ei le erbyn heddiw, felly gobeithio ei gweld hi efo ni diwrnod Dolig!

O, a phen-blwydd hapus i fy nai, Daniel, sy’n 16 heddiw* (wps sori – naci, 15 ydi o…). Mae o’n edrych chydig h^yn rwan na mae o’n y llun yma, ond mae’n job cael llun call o’r diawl bach ( mawr).DSC_0098 Mynd i’w de parti o’n y munud – nid ei fod o isio te parti … ha!

Ond blog garddio ydi hwn i fod, a dyma luniau mwy perthnasol:DSCN0644Bertie Jones o Bow Street ydi hwn, dyn sydd wedi ennill gwobrau lu efo’i gynnyrch gwenyn yn y Sioe Frenhinol ( a sawl sioe arall).DSCN0648DSCN0647 Wel, ar gyfer ein rhaglen Nadolig ( nos Fercher nesa dwi’n meddwl, 8.25 pm) mi fues i draw ato fo iddo fo drio fy nysgu sut i wneud cannwyll. Ond ges i fraw bod angen cymaint o offer. Dyna i chi’r teclyn toddi’r cwyr i gychwyn:DSCN0645 Wedyn mae angen rhywbeth i’w hidlo ( dim llun) a gwahanol bethau i wneud ‘mowld’ – fel hwn:DSCN0649 Edrych yn od tydi? Ond y cwyr yn dechrau caledu eto ydi hwnna – ac mae’n caledu’n rhyfeddol o gyflym ar ddiwrnod oer. Bali niwsans pan dach chi’n trio ffilmio eitem a gorfod ail-neud pethe dragwyddol. Beth bynnag, dyma fowld fy nghannwyl i:DSCN0650 Ac wele’r canlyniad!DSCN0651Ond mi nath Dafydd y dyn camera ddifetha’r llun yna yndo, felly dyma i chi lun call ohona i a Bertie:DSCN0653 Roedd ei wraig o efo ni – a dwi’n meddwl mai hi ydi’r giamstar ar wneud canhwyllau, ond mae’n ofnadwy o swil a ches i’m hyd yn oed lun ohoni! Beth bynnag, gawson ni hwyl a croesi bysedd y bydd yr eitem yn un da.

Ac un llun bach arall i gloi – ges i anrheg Nadolig yn y post gan ryw K Parry, ond dim syniad o ble maen o neu hi’n dod. Tegan meddal yn union fel Del ylwch!DSCN0712 Ond dydi Del ddim yn meddwl llawer ohono fo. Ond os gwyddoch chi lle cai afael ar un arall o’r rhain, plis rhowch wybod, Coler Harrods sydd arno fo, ond dwi wedi bod ar wefan rheiny a does na’m golwg ohono fo. Limited edition? Isio isio!

Iawn, dyna ni am y tro – Dolig Llawen a mwynhewch y rhaglen wsnos nesa!



Madarch!

I ddechre, dyma lun o lansiad yr hunangofiant:Robin fy nai 8 oed sydd efo fi – seren y noson! Mi wnaeth o araith fach hyfryd wrth gyflwyno’r copi cynta o’r wasg i mi – ei ewyrth Rhys yn ei ddagrau!

Ond blog am arddio ydi hwn i fod, felly dyma luniau o’r Ardd Fadarch ( The Mushroom Garden) yn Nantmor, lle fuon ni’n ffilmio wythnos dwytha: Cynan Jones a’i deulu sy’n rhedeg yr ardd ( fo sy’n y llun efo fi). Hobi ar ran Cynan oedd o i gychwyn, ar ôl mynd ar gwrs adanabod madarch ym Mhlas Tanybwlch, ac mae o’n cyfadde iddo droi’n obsesiwn. Ond mae’n obsesiwn sydd wedi troi’n fusnes llwyddiannus, sy’n gyrru rhwng 60 a 100 kilo dros Brydain gyfan. Rhai wedi eu sychu: A rhai yn ffres o’r ddau ‘container’ mawr sy’n twyllo’r madarch i dyfu fel pethau gwirion. Madarch wystrys llwyd neu grey oyster ydi’r rheina, a rhai melyn neu aur ydi’r rhai … wel, melyn … edrych fel clustiau Shrek tydyn?Ond mae o’n tyfu rhai ‘chestnut’ neu gnau castan hefyd. Grrr … llun anghywir. Wystrys ydi’r rheina – mae’r lleill wedi mynd i dop y blog am ryw reswm! Ond y rhai crwn, siap madarch mwy cyffredin ydyn nhw. Blasus tu hwnt. A sut yn union mae o’n llwyddo i’w tyfu? Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen yn bydd! Cyn Dolig ryw ben – dwi’m yn gwybod pryd yn union.

Ond yn y cyfamser, os dach chi isio anrheg Nadolig cwbl wahanol ( a rhesymol), am £8, gewch chi flocyn tyfu madarch shiitake ganddo fo – efo taflen cyfarwyddiadau. A nagoes, does dim angen rhyw sied dywyll, dim ond sil ffenest a dwr. Dwi wedi cael un a dwi’n edrych ymlaen yn arw at fedru casglu a choginio a bwyta fy madarch fy hun! Efo bacwn ac wy yn y bore … mmm.

Mae o’n gwerthu rhywbeth rhyfeddol o’r enw Umami hefyd: Blas cwbl wahanol i unrhyw flas arall, metalig, bron. Gawson ni flasu peth, a doedd Gwennan ddim yn ‘keen’ ond roedd y gweddill ohonon ni wedi gwirioni. Edrych ymlaen at ei ychwanegu at gawl neu omlet neu rywbeth. Iym.

O, a dyma’r llyfr madarch mae Cynan yn ei argymell – os ydach chi awydd dysgu sut i gasglu madarch gwyllt yn ddiogel.

Ges i ddiwrnod hyfryd efo Cynan a June yn yr Ardd Fadarch – er ei bod hi’n oer yno! Ac mi wnai adael i chi wybod sut mae fy mlocyn madarch yn dod yn ei flaen.

Llun o Cynan a June i orffen: A sylwch ar y wasgod ‘fadarch’ ddel gan Cynan! Obsesiwn?! Nes i anghofio gofyn os oedd o’n breuddwydio am fadarch.



Tachwedd
Tachwedd 1, 2012, 11:22 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Dwi newydd gofio mod i wedi anghofio nôl fy mheiriant torri gwair o’r garej lawr y ffordd! Bywyd wedi bod mor wirion bost, dwi’n anghofio pethau felna – a ffonio’r plymar ac ati ac ati. Ro’n i wedi meddwl torri’r lawnt am y tro ola eleni yn ystod y plwc braf, sych na – ond mi chwythodd rhywbeth … grrr. A finne newydd dalu dros £100 i’w drwsio!

Ta waeth, cyfnod pysur oherwydd hyn yn un peth:Gwahoddiad (Hanas Gwanas)

Ddim yn siwr os ydi hwnna wedi gweithio. PDF ydi o beth bynnag, gwahoddiad i lansiad fy hunangofiant – Hanas Gwanas. Sydd ddim yn sôn llawer am arddio, ond mae o yno. Braidd yn nerfus. Nofel newydd wastad yn fy ngwneud yn nerfus ond mae hwn ganmil gwaith gwaeth. Yyyyyy.

Ac mae fy annwyl frawd, Geraint – dyma fo ( un o luniau’r hunangofiant) yn yr ysbyty, am fod ei fraich wedi mynd yn ddrwg a chwyddo’n uffernol oherwydd orf. Fydd o ddim adre tan ddydd Sadwrn o leia, y creadur. A be ydi orf? Wel dyma luniau ges i oddi ar y we:

Edrych yn boenus tydi? Mae o. Feirws sy’n cael ei gario gan ddefaid a geifr ydi o, ac mae ffermwyr yn gallu ei gael os ydyn nhw’n trin defaid a hwythau efo briw neu glwyf agored – ar eu dwylo gan amlaf. Mae’r drwg yn mynd i mewn i’r cnawd, ac weithiau’n gallu mynd yn ddrwg iawn – fel y lluniau yma. Does gen i ddim llun o’r orf ar law Geraint achos pan welais i o, roedd ei law wedi ei orchuddio gan blastars a bandejus. Roedd o wedi bod ar dabledi gwrthfeiotig ers tridiau ond roedd ei fraich yn dal wedi chwyddo, a thop ei fraich wedi mynd yn goch a chaled. Mi gafodd ei yrru i sbyty Wrecsam yn nes mlaen y noson honno ( nos Lun) ac yno mae o byth. Maen nhw wedi rhoi llawdriniaeth iddo fo i dynnu’r drwg, a rhoi gwahanol fathau o wrthfeiotig ( doedd o’m yn gweithio am hir) ac mae’n gwella rwan, diolch byth. Ac o leia mae o wedi cael cyfle i ddarllen y llyfr! Dim cwynion ganddo fo hyd yma – ddim am y llyfr o leia.

Felly mae angen bod yn ofalus yng nghefn gwlad ac efo anifeiliaid! Dyn a wyr pryd fydd o’n gallu gweithio eto – ac mae o’n dipyn o weithiwr. Dyma fo’n tacluso fy ngwrych i a gwneud y fynedfa’n lletach ddiwedd yr haf. Roedd o’n mynd i ddod a ‘digar’ draw i orffen tacluso’r fynedfa ond dal i ddisgwyl fydda i am sbel rwan … brysia wella Ger! Nid oherwydd y fynedfa wrth reswm, ond mae dy blant a dy wraig di’n gweld dy isio di! Ac mae diesel i Wrecsam yn ddrud… ac mae Dad yn mynd braidd yn hen i wneud bob dim ei hun … 🙂

Dwi’n siwr bod ‘na gantamil o jôcs am ‘orf’ ond ddeuda i run – ddim nes iddo fo ddod adre.



Gwlad Thai, Cambodia a Vietnam
Hydref 18, 2012, 3:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , ,

A dyma fi adre. Wel, ers sbel a deud y gwir ond dwi wedi bod yn rhy brysur i flogio! Roedd gen i fynydd o bost/ebyst a gwaith i fynd drwyddo’n gynta. Yn cynnwys proflenni ( proofs) terfynol yr hunangofiant … o do, dwi wedi, ac ydi,mae o ar y ffordd. Crynwch yn eich sgidiau …

Ta waeth, wele lun o’r criw orffennodd y daith feics yn Saigon:Fel y gwelwch chi, roedden ni’n gymysgedd o ferched ifanc a chanol oed ( dim ond un yn hyn na fi…) a dynion oedd yn tynnu mlaen. Wel, roedd gynnyn nhw wallt gwyn o leia. Ond roedd na brifathro cynradd o Seland Newydd yn ein mysg ( fo sy’n cydio yn y beic yn y cefn) oedd yn 61, a’r beiciwr gorau a mwya ffit o bell ffordd. Typical Kiwi … Ei ferch o ydi’r un mewn pinc ac roedd honno’n blwmin ffit hefyd. Fel y ferch o Awstralia – ac Iwerddon. Do’n i ddim yn ffit ar y dechrau, ond wedi chwysu fel na chwysais erioed o’r blaen, a cholli pwysau o flaen llygaid pawb – ro’n i’n hedfan erbyn y diwedd! Fi sy’n y glas yn gneud rhyw stymantiau gwirion efo Sutinee, ein harweinyddes. Roedden ni’n dwy’n dod mlaen yn grêt am ein bod ni’n eitha plentynnaidd yn y bôn. Yn rhannu’r un synnwyr digrifwch, ddeudwn i ta.

A chwarae teg, er gwaetha’r gwres a’r blinder, mi fues i’n cymryd lluniau ar gyfer y blog yma:

Gardd yn y Mekong Delta ydi hwn, lle sydd dan ddwr bron i gyd. A dyma brofi bod modd cadw gardd fach ddel hyd yn oed mewn lle felna. A dyma ddangos be sy’n gallu digwydd os nad ydach chi’n cadw eich coed dan reolaeth: un o demlau Angkor yn Cambodia ydi hwn. Lle difyr, ond braidd yn llawn o dwristiaid at fy nant i.Mae’n hen – methu cofio pa mor hen, ond os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn temlau, googlwch o. Ges i dridiau o sbio ar demlau ac roedd o’n ormod o bwdin i mi. Ysu am fynd nôl ar y beic ro’n i.

A dyna’r beics.Roedd na goed bonsai o bob math ym mhob man, ac yn ngardd y Royal Palace yn … ym … o ia, Saigon oedd hyn. Naci, Phnom Penh. O diar, mae’r cwbl wedi mynd yn slwtsh yn fy mhen i braidd. Dwi wedi cael swp o ddos o annwyd, drapia ( hen jyrms mewn awyren, mwn) ac mae mhen i’n troi.Vietnam ( fy hoff wlad o’r tri dwi’n meddwl) oedd hyn. Y blodyn lotus. Ond sylwch ar y weiren bigog y tu ôl iddo. Mi es ati i gynnwys hwnnw am mai dyma lle cafwyd damwain fechan. Mi stopiodd Chi, yr arweinydd, yn sydyn i ni gael sbio ar y lotus. Ond er i’r tri cynta ( yn fy nghynnwys i) lwyddo i daro’r brêcs mewn pryd, nid felly y ddau oedd yn fy nilyn i. Ges i handlebars Sutinee yn fy mhen ôl ( clais bach du, crwn) ac mi hedfanodd hi ar lawr, gyda’r prifathro ar ei  phen hi – rhyw 16 stôn ohono fo. Roedden nhw’n iawn, ond nes i alw’r llun yma yn ‘Beware of the lotus flowers…’

Mi fues i am oes yn trio cael llun o un o’r pili palod, a dyma’r unig un ges i! Bali pethau’n symud yn gyflym tydyn?Mi gymrais i lwyth o luniau o flodau hefyd ond gewch chi weld rheiny rhyw dro eto – maen nhw’n cuddio am ryw reswm. Ond mi gewch chi weld hwn:Mi fuon ni’n bwyta llwyth o bethau od yno: criciaid ( crickets), llyffantod, adar bychain bach, a phan ddywedodd rhywun mai ‘honeycomb’ oedd hwn , ro’n i’n edrych mlaen at flasu mêl Cambodia. Ha. Ond o sbio’n agosach, nid mêl mohono naci – ond larfa gwenyn wedi eu rhostio ( neu eu ffrio, be wn i). Be?! Wel do’n i’m yn mynd i gyffwrdd rheina nago’on? Sut allwn i wynebu fy ngwenyn fy hun adre taswn i’n meiddio gneud ffasiwn beth? Ond roedd y Wyddeles wedi bwyta llwyaid cyn sylweddoli be oedd o. Cynrhon ydyn nhw Sonia!

Ond wyddoch chi be? Mae bywyd yn eironig. Dim ond un o’r criw oedd yn gwrthod cyffwrdd y bwydydd gwahanol yma bob tro. Llysieuwraig. A dyfalwch pwy gafodd parasitic dysentry … rhyfedd o fyd. Roedd hi’n iawn ar ôl mynd i’r sbyty ac mae hi’n rêl boi rwan – rhag ofn eich bod yn poeni. Ond nath hi fawr o feicio, bechod.

iawn, dyna ni am y tro. Mae gen i lansiad i fynd iddo fo – yn sir Fôn. Hwyl!



Ffrwd y Gwyllt, rhedyn a chyfres newydd
Gorffennaf 18, 2011, 12:49 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Dwi’m wedi bod yn ffilmio wsnos yma, felly dyma gyfle i ddangos chydig o luniau o Ffrwd y Gwyllt i chi. Cofio Carol a finne’n cael gwared o hen wrych hebe oedd wedi tyfu’n llawer rhy fawr? Wel, o flaen y bobyn, nes i blannu’r heuchera welwch chi ar flaen y llun, a gan fod hwn wedi ei dynnu rai wythnosau’n ôl, mae o dipyn mwy na hyn rwan. Mae o wrth ei fodd! Mae’r tiarella’n ffynnu hefyd, gan eu bod nhw’n cael dipyn  o haul bellach, ac mae’r planhigyn dail tebyg i glust eliffant yn y cefn ges i’n rhodd gan gymydog yn hapus braf yma hefyd, heb sôn am y rhosod.

Dyma i chi lun weddol hen bellach, pan oedd yr azaleas allan:

Edrych yn dda acw tydi? Ond mi welwch fod ‘na redyn yn tyfu’n dda yma hefyd, a dyna be dwi wedi bod yn gorfod ei neud yn ddiweddar … trio cael gwared o’r rhai sy’n taflu gormod o gysgod dros – neu’n tagu planhigion eraill. Nefi, mae’n waith chwyslyd eu rhwygo allan o’r pridd pan maen nhw wedi tyfu’n angenfilod mawrion. Dwi’n tyllu’n ddwfn efo’r fforch, yn neidio ar goesyn y fforch, yn troi a throi, yn cydio’n y pelen efo nwylo i’w droi bob sut er mwyn rhyddau’n gwreiddiau, a dwi wedi disgyn yn fflat ar fy mhen ôl fwy nag unwaith efo’r blwmin pethau. Dwi’n gwybod am bobl sy’n talu pres da am blannu’r  rhedyn yma yn eu gerddi, ond gwyliwch eich hunain – maen nhw’n ehangu a hadu eu hunain fel pethau gwirion!

Sbiwch yn ofalus ar y llun yma ac mi welwch ‘fforch’ y goeden hebe wnaethon ni drio ei thocio er mwyn iddi dyfu’n well … ond does na’m un deilen ar ôl arni. Beryg ein bod ni wedi lladd honna, a marw wnaeth fy nhoriadau hefyd. O wel. Ond mae’r planhigion mawr ar waelod y llun yn mynd yn wallgo – mi welwch chi un o’r blodau melyn – tebyg i flodyn haul bychan. Ond dwi wedi anghofio enw’r blodau yma, a phryd wnes i eu plannu. Unrhyw un yn gallu fy helpu? Ond dwi’n cofio enw’r dringwr blannais i wrth droed y bwa – Clematis montana primrose star. Mae’n tyfu’n dda ond dwi’m yn debygol o weld blodau arni eleni gan mai yn y gwanwyn mae’r rheiny’n dod mae’n debyg. Dim ond gweddio y cawn ni aeaf cleniach tro ‘ma – dyma’r 3ydd cynnig ar gael rhywbeth i dyfu dros y bwa, bu farw’r lleill yn gelain llynedd a’r flwyddyn cynt.

Mae’r ty gwydr yn dal yn  gyfan a llawn planhigion tomato, ciwcymbar a chourgette ( ac un goeden chillis) ond dim ond rhyw 5 tomato bach sydd wedi tyfu hyd yma, a’r rheiny’n dal yn wyrdd. Ond mae gen i domen o flodau felly aros fydd raid. Mae na 2 giwcymbar yn tyfu’n dda, un bron yn barod i’w fwyta, ond blodau’n unig sydd ar y courgettes o hyd, drapia. Ac roedd na lygoden y maes yn y peth wythnos dwytha – yn sbio arnai mwya powld! Byta di fy nghiwcymbar i, ac mi ai i fenthyg cath, gwd boi… Dydi Del ddim yn un dda iawn am ddal llygod.

Mae’r rhan fwya o’r penbyliaid wedi troi’n llyffantod ond mae na ambell un yn dal heb goesau – ydi hyn yn nam neu ydyn nhw jest yn cymryd eu hamser dwch? A dwi’m wedi gweld fy ngwas y neidr du a melyn eto eleni. Mae’n cael ei eni yma bob blwyddyn a dwi’n siwr mod i’n ei weld erbyn Gorffennaf fel arfer …

Ta waeth, dyma i chi gwpwl o luniau’n dangos be arall dwi wedi bod yn ei neud yr haf yma: Ia, cyfres arall efo Tudur Owen – ‘Byw yn ôl y Papur newydd’ – y 1920au sydd dan sylw tro ma, a gawson ni hwyl, bobol bach! Mi fydd y 6 rhaglen yn cael eu darlledu o fis Medi ymlaen, felly cofiwch amdani. Yn y cyfamser, byddwch yn amyneddgar efo Byw yn yr Ardd – dwi’n siwr y byddwn ni’n ôl ar ôl Sioe Llanelwedd! Mae’n debyg bod Sioned a Russell yno rwan, ond dwi’m yn siwr os a i eto. Ches i’m gwahoddiad beth bynnag! Mae gen i ddigon i’w wneud fan hyn yn y cyfamser, a gawson ni lansiad hyfryd yn Llanerfyl nos Iau – hunangofiant Sian James – y llyfr perffaith i’w ddarllen yn eich carafan yn y glaw yn Llanelwedd … mae’n wych!