BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Madarch!

I ddechre, dyma lun o lansiad yr hunangofiant:Robin fy nai 8 oed sydd efo fi – seren y noson! Mi wnaeth o araith fach hyfryd wrth gyflwyno’r copi cynta o’r wasg i mi – ei ewyrth Rhys yn ei ddagrau!

Ond blog am arddio ydi hwn i fod, felly dyma luniau o’r Ardd Fadarch ( The Mushroom Garden) yn Nantmor, lle fuon ni’n ffilmio wythnos dwytha: Cynan Jones a’i deulu sy’n rhedeg yr ardd ( fo sy’n y llun efo fi). Hobi ar ran Cynan oedd o i gychwyn, ar ôl mynd ar gwrs adanabod madarch ym Mhlas Tanybwlch, ac mae o’n cyfadde iddo droi’n obsesiwn. Ond mae’n obsesiwn sydd wedi troi’n fusnes llwyddiannus, sy’n gyrru rhwng 60 a 100 kilo dros Brydain gyfan. Rhai wedi eu sychu: A rhai yn ffres o’r ddau ‘container’ mawr sy’n twyllo’r madarch i dyfu fel pethau gwirion. Madarch wystrys llwyd neu grey oyster ydi’r rheina, a rhai melyn neu aur ydi’r rhai … wel, melyn … edrych fel clustiau Shrek tydyn?Ond mae o’n tyfu rhai ‘chestnut’ neu gnau castan hefyd. Grrr … llun anghywir. Wystrys ydi’r rheina – mae’r lleill wedi mynd i dop y blog am ryw reswm! Ond y rhai crwn, siap madarch mwy cyffredin ydyn nhw. Blasus tu hwnt. A sut yn union mae o’n llwyddo i’w tyfu? Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen yn bydd! Cyn Dolig ryw ben – dwi’m yn gwybod pryd yn union.

Ond yn y cyfamser, os dach chi isio anrheg Nadolig cwbl wahanol ( a rhesymol), am £8, gewch chi flocyn tyfu madarch shiitake ganddo fo – efo taflen cyfarwyddiadau. A nagoes, does dim angen rhyw sied dywyll, dim ond sil ffenest a dwr. Dwi wedi cael un a dwi’n edrych ymlaen yn arw at fedru casglu a choginio a bwyta fy madarch fy hun! Efo bacwn ac wy yn y bore … mmm.

Mae o’n gwerthu rhywbeth rhyfeddol o’r enw Umami hefyd: Blas cwbl wahanol i unrhyw flas arall, metalig, bron. Gawson ni flasu peth, a doedd Gwennan ddim yn ‘keen’ ond roedd y gweddill ohonon ni wedi gwirioni. Edrych ymlaen at ei ychwanegu at gawl neu omlet neu rywbeth. Iym.

O, a dyma’r llyfr madarch mae Cynan yn ei argymell – os ydach chi awydd dysgu sut i gasglu madarch gwyllt yn ddiogel.

Ges i ddiwrnod hyfryd efo Cynan a June yn yr Ardd Fadarch – er ei bod hi’n oer yno! Ac mi wnai adael i chi wybod sut mae fy mlocyn madarch yn dod yn ei flaen.

Llun o Cynan a June i orffen: A sylwch ar y wasgod ‘fadarch’ ddel gan Cynan! Obsesiwn?! Nes i anghofio gofyn os oedd o’n breuddwydio am fadarch.


2 Sylw so far
Gadael sylw

Oedd, mi oedd Robin yn wych ac roeddwn innau isho crio hefyd er fod o ddim yn perthyn i mi!

Mae madarch Cynan yn ‘impressive’ wir – doedd gin i ddim syniad fod o’n tyfu’r holl wahanol rai.

Sylw gan Anwen

Llongyfarchiadau ar y lansiad. Clywed bod hi’n noson dda iawn! Edrych ymlaen at ddarllen y llyfr rwan.

Sylw gan sgentilyfrimi




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: