BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Wiwer goch a chanhwyllau

DSCN0708 Ia, wiwer goch go iawn ydi honna, nid tegan, ac nid Del wedi ei stwffio i fyny coeden. A llun efo fy nghamera bach dim byd i ydi o; ro’n i’n cicio fy hun am beidio a mynd a’r camera mawr efo fi. Ond wedi bod yn beicio ro’n i, yn ardal Appleby yn Cumbria. A ges i ffit bod y lle’n berwi efo wiwerod coch! Wel, nid berwi, ond mae na lot ohonyn nhw. Pam? Am fod warden arbennig yn cael gwared â’r rhai llwyd. Diddorol de?

Ro’n i a fy ffrind, Ann ( roedd y lleill wedi mynd i siopa yn lle beicio) wedi gwirioni’n bot pan welson ni hi. Roedden ni fel merched bach 6 oed. A dwi’n meddwl mai tua 6 o’n i pan welais i un ddwytha – yn y Brithdir, jest i fyny’r ffordd. Miloedd o rai llwyd sydd yma ers hynny, damia nhw. Swn i’n rhoi’r byd ( wel, ddim go iawn, ond dach chi’n gwybod be dwi’n feddwl) i weld Cymru’n llawn o wiwerod coch eto. Maen nhw’n gorjys!

Ta waeth, ddrwg iawn gen i fod mor araf yn blogio ond dwi wedi bod yn brysur. O, ac mae’r hunangofiant yn rif 2 ar restr gwerthwyr gorau’r Cyngor Llyfrau! Denzil Pobl y Cwm wedi nghuro i. Grrrr. Ac mi ddaeth fy mrawd dros yr orff, ond mi gafodd Dad o wedyn! Bu raid iddo yntau fynd i’r sbyty am ryw ddeuddydd hefyd, ond mae o’n iawn rwan.

Ond mae fy nain sy’n 97 IMG_0121yn y sbyty rwan – Bronglais. Daeth ei chlun allan o’i le ddoe, ond mae’n ôl yn ei le erbyn heddiw, felly gobeithio ei gweld hi efo ni diwrnod Dolig!

O, a phen-blwydd hapus i fy nai, Daniel, sy’n 16 heddiw* (wps sori – naci, 15 ydi o…). Mae o’n edrych chydig h^yn rwan na mae o’n y llun yma, ond mae’n job cael llun call o’r diawl bach ( mawr).DSC_0098 Mynd i’w de parti o’n y munud – nid ei fod o isio te parti … ha!

Ond blog garddio ydi hwn i fod, a dyma luniau mwy perthnasol:DSCN0644Bertie Jones o Bow Street ydi hwn, dyn sydd wedi ennill gwobrau lu efo’i gynnyrch gwenyn yn y Sioe Frenhinol ( a sawl sioe arall).DSCN0648DSCN0647 Wel, ar gyfer ein rhaglen Nadolig ( nos Fercher nesa dwi’n meddwl, 8.25 pm) mi fues i draw ato fo iddo fo drio fy nysgu sut i wneud cannwyll. Ond ges i fraw bod angen cymaint o offer. Dyna i chi’r teclyn toddi’r cwyr i gychwyn:DSCN0645 Wedyn mae angen rhywbeth i’w hidlo ( dim llun) a gwahanol bethau i wneud ‘mowld’ – fel hwn:DSCN0649 Edrych yn od tydi? Ond y cwyr yn dechrau caledu eto ydi hwnna – ac mae’n caledu’n rhyfeddol o gyflym ar ddiwrnod oer. Bali niwsans pan dach chi’n trio ffilmio eitem a gorfod ail-neud pethe dragwyddol. Beth bynnag, dyma fowld fy nghannwyl i:DSCN0650 Ac wele’r canlyniad!DSCN0651Ond mi nath Dafydd y dyn camera ddifetha’r llun yna yndo, felly dyma i chi lun call ohona i a Bertie:DSCN0653 Roedd ei wraig o efo ni – a dwi’n meddwl mai hi ydi’r giamstar ar wneud canhwyllau, ond mae’n ofnadwy o swil a ches i’m hyd yn oed lun ohoni! Beth bynnag, gawson ni hwyl a croesi bysedd y bydd yr eitem yn un da.

Ac un llun bach arall i gloi – ges i anrheg Nadolig yn y post gan ryw K Parry, ond dim syniad o ble maen o neu hi’n dod. Tegan meddal yn union fel Del ylwch!DSCN0712 Ond dydi Del ddim yn meddwl llawer ohono fo. Ond os gwyddoch chi lle cai afael ar un arall o’r rhain, plis rhowch wybod, Coler Harrods sydd arno fo, ond dwi wedi bod ar wefan rheiny a does na’m golwg ohono fo. Limited edition? Isio isio!

Iawn, dyna ni am y tro – Dolig Llawen a mwynhewch y rhaglen wsnos nesa!