BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


To newydd i’r sied eco
Mehefin 19, 2012, 5:50 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Mi fydd gwylwyr y gyfres wedi gweld y to newydd bellach. Ond mae ‘na fwy i’r stori na’r hyn welsoch chi!

I ddechrau, sbiwch ar y llun yma ( cliciwch arno i’w wneud yn fwy): Dyma’r sied cyn i Gwyn a’r hogia ddod i gael trefn. Mi sylwch fod ‘na focs adar yn crogi ar y dde. Ond oedd o’m yno pan ddechreuon ni ffilmio … dim ond cysgod lle bu. Dach chi’n gweld, roedd ‘na ditws tomos gleision wedi nythu ynddo fo – ac roedd na gywion ynddo fo. Ond byddai’n rhaid ei symud os am neud y to.

Rwan, do’n i’m isio gneud hynny, ond doedd na’m dewis – rhaid oedd cael to newydd! Mi wnes i ffonio cyfaill sy’n dallt adar ac mi ddeudodd o y gallen ni ei symud os oedd raid – ond fesul chydig, a ddim yn rhy bell. Faint ydi rhy bell?! Chydig lathenni. O diar… nes i ei roi yn y goeden ar y dde i gychwyn ond doedden nhw’n fel tasen nhw’n ei weld nac yn clywed y cywion yn galw – gormod o swn dwr o’r rhaeadr fechan o bosib. Iawn, y sied ar y chwith ta. Dyma ei osod yno – a gweddio.

Ond roedd y titws druan yn dal i hedfan i lle bu’r bocs. Os gwyliwch chi’r rhaglen eto, mi welwch chi’r titw’n mynd nôl a mlaen mewn panics glân y tu ôl i mi tra dwi’n trio gneud darn i gamera. Roedd y cyfarwyddwr, y dyn camera a’r dyn sain yn gwneud dim ond gwylio’r adar a finne’n gneud fy ngorau glas i drio bod yn naturiol a pheidio dangos mod i mewn gwewyr!  Pam na wnaethon ni ffilmio hyn neu gyfeirio ato fo? Am ein bod ni’n teimlo’n gas ac euog ac yn cachu brics, dyna pam! Ond diolch byth, mi doth un rhiant o hyd i’r lleoliad newydd yn y diwedd, a sôn am floedd, sôn am ryddhad, bron nad o’n i isio rhoi clamp o sws i bawb! Mi fyddwch chi’n falch o glywed bod y cywion bellach wedi dysgu hedfan a gadael y nyth yn ddiogel. Ffiw. Ond wnai’m gwneud hynna eto ar frys.

Beth bynnag, dyma lun o’r hogie – Gwyn Dolhendre, Dochan, ei fab, ac Emrys fy nghefnder. Ia, yr un tal, golygus. Gallu deud ein bod ni’n perthyn tydach? 😉 Mae o’n fab i Rhiannon Frongoch, sef chwaer ieuengaf fy mam, ac mae hi’r un oed â fi. Roedd Mam a Nain yn feichiog yr un pryd – hawdd ei neud pan mae gynnoch chi ddeg o blant.

Beth bynnag, dyma i chi fwy o luniau o’r broses: Ac oedd raid iddyn nhw ddangos y bali porta-potty yn y sied ar y rhaglen? prynu hwnna ar gyfer y campafan wnes i, ond mae’n rhy fawr o beth coblyn, felly os dach chi’n nabod rhwyun sydd angen un, rhowch wybod. Fawr o awydd ei roi ar ebay …

A thra roedd yr hogia ( a finne, gyda llaw) yn gweithio’n galed a chwysu, ( coblyn o hogie da ydyn nhw, yn gwybod be ydi gwaith, yn gyflym ac yn daclus tu hwnt, a dwi’m jest yn deud hynna am mod i’n perthyn) ble roedd y criw ffilmio? Yn torheulo yn y cae.

Beth bynnag, dyma’r to ar y diwedd: A dyna ddangos bod chydig o’r sedum yn fyw o hyd. Mae’r system draenio wedi bod yn gweithio’n wych yn ystod y glaw mawr diweddar, felly mae gen i ffydd bod y sied yma i aros. Felly beryg y dylwn i ffendio’r amser i’w dacluso eto. Pan fyddai wedi gorffen y nofel ma i’r arddegau! Dwi ar y bennod olaf, diolch byth.

O, a sôn am lyfrau – dyma i chi un da. A lluniau arbennig o bwll i’r ardd os gai ddeud – efo ci coch del iawn. Ci sydd newydd gael y ‘snip’ heddiw ac sy’n crio yn ei choler lampshed tra dwi’n sgwennu hwn. Y greadures. A chaiff hi’m rhedeg am bythefnos! Nefi wen. Be wnawn ni’n dwy? Pesgi, beryg …



Nadolig yn gynnar
Rhagfyr 4, 2011, 7:51 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , ,

Daeth y criw draw ddiwedd Tachwedd i ffilmio diweddglo’r rhaglen Nadolig, ac addurno fy ngardd i efo llwythi o bling!

Gyda llaw, ymddiheuriadau am safon y lluniau ond bu farw fy nghamera bach yn Seland Newydd os cofiwch chi (dim ond £90 ges i’n ôl gan y cwmni yswiriant …) a dwi methu dod o hyd i charjar y camera mawr … felly lluniau ffôn ydi’r rhain.

A dyma lun aneglur iawn ohona i’n helpu i addurno fy nghoeden geirios. Dwi’n gwisgo ffedog am mod i wedi bod yn gwneud gwin poeth ( mulled wine) efo Steffan o gaffi hyfryd Penceunant Isaf, Llanberis, a gewch chi weld sut hwyl gawson ni ar y rhaglen. Gawson ni hwyl beth bynnag!

Swatio tu mewn oedd y tri gwr doeth ( ha), Sioned, Carol a Russell, a nacdi, dio’m yn lun clir iawn, ond ro’n i jest isio profi eu bod nhw yno, ar fy soffa i. Yn mwynhau bara brith Steffan a fy ngwin poeth i. Rhaid oedd aros iddi dywyllu i ni gael effaith y bling yn iawn, a duwcs, mae’n edrych yn rhyfeddol tydi?Ond mi lwyddodd y criw i losgi’r cnau castan yn ulw ar y ‘brazier’ … dwi wedi eu rhoi i’r pryfed genwair.

Ges i gadw’r addurniadau? Naddo siwr! Bydd eu hangen eto yn 2012, beryg … ond mi falwyd sawl pelen liwgar ( a hynod frau) wrth glirio … hyd yn oed Russell yn helpu efo’r brwsh llawr!

Dwi’m yn barod o gwbl at y Dolig, dim ond ambell anrheg wedi ei brynu, ond dwi wedi gwneud cacen Dolig ac yn ei mwydo efo rum/brandi yn wythnosol. Aeth hi fymryn yn dywyllach nag arfer, ond nath hi’m llosgi o bell ffordd, diolch byth. A na, fydda i ddim yn rhoi marzipan nac eisin drosti. Y blas sy’n bwysig i mi …

Os ydach chi isio syniad am anrheg Dolig i rywun, mae hunangofiant Tudur Owen yn y gyfres ‘Nabod’ ( rhai efo llai o eiriau ond llwyth o luniau) yn werth ei gael, wir yr. Chwip o hanesion difyr ynddo fo. A lluniau hilêriys!

A sbiwch llun bach del sydd â wnelo  fo ddim oll â Tudur … nabod rhywun?

Ia, fi ydi’r un sy’n edrych ar ôl Rhiannon Frongoch, fy modryb sydd ddim ond 7 wythnos yn hyn na fi – ond dwi wastad wedi bod yn fwy … dwi’m wedi newid llawer naddo? Jest nad ydw i’n dangos fy nghoesau lawer y dyddie yma.