BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


To newydd i’r sied eco
Mehefin 19, 2012, 5:50 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Mi fydd gwylwyr y gyfres wedi gweld y to newydd bellach. Ond mae ‘na fwy i’r stori na’r hyn welsoch chi!

I ddechrau, sbiwch ar y llun yma ( cliciwch arno i’w wneud yn fwy): Dyma’r sied cyn i Gwyn a’r hogia ddod i gael trefn. Mi sylwch fod ‘na focs adar yn crogi ar y dde. Ond oedd o’m yno pan ddechreuon ni ffilmio … dim ond cysgod lle bu. Dach chi’n gweld, roedd ‘na ditws tomos gleision wedi nythu ynddo fo – ac roedd na gywion ynddo fo. Ond byddai’n rhaid ei symud os am neud y to.

Rwan, do’n i’m isio gneud hynny, ond doedd na’m dewis – rhaid oedd cael to newydd! Mi wnes i ffonio cyfaill sy’n dallt adar ac mi ddeudodd o y gallen ni ei symud os oedd raid – ond fesul chydig, a ddim yn rhy bell. Faint ydi rhy bell?! Chydig lathenni. O diar… nes i ei roi yn y goeden ar y dde i gychwyn ond doedden nhw’n fel tasen nhw’n ei weld nac yn clywed y cywion yn galw – gormod o swn dwr o’r rhaeadr fechan o bosib. Iawn, y sied ar y chwith ta. Dyma ei osod yno – a gweddio.

Ond roedd y titws druan yn dal i hedfan i lle bu’r bocs. Os gwyliwch chi’r rhaglen eto, mi welwch chi’r titw’n mynd nôl a mlaen mewn panics glân y tu ôl i mi tra dwi’n trio gneud darn i gamera. Roedd y cyfarwyddwr, y dyn camera a’r dyn sain yn gwneud dim ond gwylio’r adar a finne’n gneud fy ngorau glas i drio bod yn naturiol a pheidio dangos mod i mewn gwewyr!  Pam na wnaethon ni ffilmio hyn neu gyfeirio ato fo? Am ein bod ni’n teimlo’n gas ac euog ac yn cachu brics, dyna pam! Ond diolch byth, mi doth un rhiant o hyd i’r lleoliad newydd yn y diwedd, a sôn am floedd, sôn am ryddhad, bron nad o’n i isio rhoi clamp o sws i bawb! Mi fyddwch chi’n falch o glywed bod y cywion bellach wedi dysgu hedfan a gadael y nyth yn ddiogel. Ffiw. Ond wnai’m gwneud hynna eto ar frys.

Beth bynnag, dyma lun o’r hogie – Gwyn Dolhendre, Dochan, ei fab, ac Emrys fy nghefnder. Ia, yr un tal, golygus. Gallu deud ein bod ni’n perthyn tydach? 😉 Mae o’n fab i Rhiannon Frongoch, sef chwaer ieuengaf fy mam, ac mae hi’r un oed â fi. Roedd Mam a Nain yn feichiog yr un pryd – hawdd ei neud pan mae gynnoch chi ddeg o blant.

Beth bynnag, dyma i chi fwy o luniau o’r broses: Ac oedd raid iddyn nhw ddangos y bali porta-potty yn y sied ar y rhaglen? prynu hwnna ar gyfer y campafan wnes i, ond mae’n rhy fawr o beth coblyn, felly os dach chi’n nabod rhwyun sydd angen un, rhowch wybod. Fawr o awydd ei roi ar ebay …

A thra roedd yr hogia ( a finne, gyda llaw) yn gweithio’n galed a chwysu, ( coblyn o hogie da ydyn nhw, yn gwybod be ydi gwaith, yn gyflym ac yn daclus tu hwnt, a dwi’m jest yn deud hynna am mod i’n perthyn) ble roedd y criw ffilmio? Yn torheulo yn y cae.

Beth bynnag, dyma’r to ar y diwedd: A dyna ddangos bod chydig o’r sedum yn fyw o hyd. Mae’r system draenio wedi bod yn gweithio’n wych yn ystod y glaw mawr diweddar, felly mae gen i ffydd bod y sied yma i aros. Felly beryg y dylwn i ffendio’r amser i’w dacluso eto. Pan fyddai wedi gorffen y nofel ma i’r arddegau! Dwi ar y bennod olaf, diolch byth.

O, a sôn am lyfrau – dyma i chi un da. A lluniau arbennig o bwll i’r ardd os gai ddeud – efo ci coch del iawn. Ci sydd newydd gael y ‘snip’ heddiw ac sy’n crio yn ei choler lampshed tra dwi’n sgwennu hwn. Y greadures. A chaiff hi’m rhedeg am bythefnos! Nefi wen. Be wnawn ni’n dwy? Pesgi, beryg …



Adar!
Mehefin 24, 2011, 11:13 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Wel, daeth Iorwerth o Gwmni Da draw neithiwr, ac wele lun o’r bocs adar:

Ia, du a gwyn ydi’r llun sori, ond mae gen i sain hefyd felly dwi’n gallu clywed yn ogystal â gwylio’r 4 cyw yn mynd yn wallgo bob tro mae’r rhiant yn dod a bwyd iddyn nhw. Dwi’n meddwl mai titws o ryw fath ydyn nhw – mae’r rhieni’n hedfan mor gyflym i mewn ac allan, mae’n anodd deud! Ond yn sicr, nid gwybedogiaid brith mohonyn nhw – dwi’m di gweld un o’r rheiny acw eleni eto. Byw mewn gobaith.

Ond mae gwylio hyd yn oed adar bach cyffredin mor agos yn brofiad hyfryd, ac fel y byddan nhw’n aeddfedu, mi fydd hyd yn oed yn fwy difyr!

Ond mae na aderyn prin arall wedi dod i ngardd i am y tro cynta erioed:

Nabod o? Ia, dwi’n gwybod ei fod o’n lun sal ond mae o’n aderyn hynod swil a does gen i’m camera digon da – wel, mae gen i un gwell ond dwi wedi colli’r charger!

Ond cnocell y coed ydi o wrth gwrs, ond nid yr un fawr – y gnocell fraith fwyaf, ond yr un prin, prin anodd ei weld: y gnocell fraith leiaf. Sut dwi’n gwybod? Am fod gen i lyfr adar Iolo Williams o mlaen, ac mae’r marciau yr un fath yn union â iar y brid hwnnw. Ac i brofi pa mor fach ydi o, dyma lun arall:

Cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy ac mi welwch fod na jibinc ar dop y bwa – sydd yr un maint â’r gnocell. Iawn? Coelio fi rwan? Da de! Dwi’n mynd i drio prynu charger newydd i’r camera mawr fel mod i’n cael gwell lluniau. Croesi bysedd hefyd y bydd y camera sydd wedi ei osod ar y bwa ei hun yn gweithio rwan. Doedd o ddim am ryw reswm ond gawn ni weld os oes gan Iorwerth y ‘magic touch’!

Mae’n wir bechod na lwyddes i i gael lluniau o’r gnocell fraith fwyaf yn bwydo ei phlant ( un ceiliog ac un iâr) ar ben y bwa ma – roedd o’n hyfryd i’w gwylio nhw: y fam yn hel llond pig o gnau mwnci ac yna’n bwydo’r slaff o gyw mawr tew, blewog ( un ar y tro – weles i rioed y ddau gyw efo’i gilydd) a’r ceiliog yn enwedig yn swnllyd tu hwnt.

Pan mae adar cyffredin yn bwydo, mi fedrai fynd yn agos iawn:

Maen nhw bron yn ddof bellach, ond dwi’n gorfod aros yn y ty i wylio’r cnocelliaid.  mae na un mawr wrthi’n bwydo rwan, tra dwi’n sgwennu hwn- a dyma i chi lun o un ohonyn nhw yn y bwydwr arall:

Efo jibinc yn ei wylio unwaith eto, ond dydi o’m yr un maint – jest chydig agosach wir yr!

Wel myn coblyn, fel o’n i’n sgwennu hwnna, mae’r ceiliog ifanc a’i riant newydd fod yn bwydo eto a dwi di cael lluniau – rhai sal, ond maen nhw’n profi fy ngeiriau! Arhoswch i mi eu llwytho nhw…

Dwi wedi cynhyrfu’n rhacs rwan! Ac yn sgrechian isio camera efo zoom lens… ac wrth gwrs, cyfraith Murphy, welith y camera sydd ar y bwa mo’r bwydo yma – gyferbyn â’r bwydwr mae o, nid y top! O wel … flwyddyn nesa …

O, ac i orffen, wele lun o’r cyw diweddara yn ein teulu ni: Caio Gwilym!