Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cacen Dolig, gwin poeth, hunangofiant Tudur Owen, mulled wine, Nabod, nadolig, Penceunant Isaf, Rhiannon Frongoch
Daeth y criw draw ddiwedd Tachwedd i ffilmio diweddglo’r rhaglen Nadolig, ac addurno fy ngardd i efo llwythi o bling!
Gyda llaw, ymddiheuriadau am safon y lluniau ond bu farw fy nghamera bach yn Seland Newydd os cofiwch chi (dim ond £90 ges i’n ôl gan y cwmni yswiriant …) a dwi methu dod o hyd i charjar y camera mawr … felly lluniau ffôn ydi’r rhain.
A dyma lun aneglur iawn ohona i’n helpu i addurno fy nghoeden geirios. Dwi’n gwisgo ffedog am mod i wedi bod yn gwneud gwin poeth ( mulled wine) efo Steffan o gaffi hyfryd Penceunant Isaf, Llanberis, a gewch chi weld sut hwyl gawson ni ar y rhaglen. Gawson ni hwyl beth bynnag!
Swatio tu mewn oedd y tri gwr doeth ( ha), Sioned, Carol a Russell, a nacdi, dio’m yn lun clir iawn, ond ro’n i jest isio profi eu bod nhw yno, ar fy soffa i. Yn mwynhau bara brith Steffan a fy ngwin poeth i. Rhaid oedd aros iddi dywyllu i ni gael effaith y bling yn iawn, a duwcs, mae’n edrych yn rhyfeddol tydi?
Ond mi lwyddodd y criw i losgi’r cnau castan yn ulw ar y ‘brazier’ … dwi wedi eu rhoi i’r pryfed genwair.
Ges i gadw’r addurniadau? Naddo siwr! Bydd eu hangen eto yn 2012, beryg … ond mi falwyd sawl pelen liwgar ( a hynod frau) wrth glirio … hyd yn oed Russell yn helpu efo’r brwsh llawr!
Dwi’m yn barod o gwbl at y Dolig, dim ond ambell anrheg wedi ei brynu, ond dwi wedi gwneud cacen Dolig ac yn ei mwydo efo rum/brandi yn wythnosol. Aeth hi fymryn yn dywyllach nag arfer, ond nath hi’m llosgi o bell ffordd, diolch byth. A na, fydda i ddim yn rhoi marzipan nac eisin drosti. Y blas sy’n bwysig i mi …
Os ydach chi isio syniad am anrheg Dolig i rywun, mae hunangofiant Tudur Owen yn y gyfres ‘Nabod’ ( rhai efo llai o eiriau ond llwyth o luniau) yn werth ei gael, wir yr. Chwip o hanesion difyr ynddo fo. A lluniau hilêriys!
A sbiwch llun bach del sydd â wnelo fo ddim oll â Tudur … nabod rhywun?
Ia, fi ydi’r un sy’n edrych ar ôl Rhiannon Frongoch, fy modryb sydd ddim ond 7 wythnos yn hyn na fi – ond dwi wastad wedi bod yn fwy … dwi’m wedi newid llawer naddo? Jest nad ydw i’n dangos fy nghoesau lawer y dyddie yma.
2 o Sylwadau so far
Gadael sylw
Be am y traddodiade Nadolig Cymreig? Dod â phlanhigion bytholwyrdd, fel y celynen, i mewn i’r tŷ a’i hongian o’r nenfwd a’i addurno.
Sylw gan huwwaters Rhagfyr 4, 2011 @ 8:24 pmDyna fydda i’n ei neud sti ( casau tinsel …), ond doedden nhw’m isio ffilmio tu mewn, tu allan oedd y darn efo pawb yn deud ta ta a Nadolig Llawen ayyb. Digon o wyrddni yn fanno fel mae hi!
Sylw gan bethangwanas Rhagfyr 5, 2011 @ 10:29 pm