BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y gwenyn
Mai 25, 2011, 9:11 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

A dyma ni, fy nghwch gwenyn newydd sbon danlli. Gewch chi weld y trafferth gawson ni’n ei rhoi at ei gilydd yn y rhaglen ar ôl wythnos Steddfod yr Urdd…

Carys sydd ar y dde a fi ydi’r blob mewn lilac. Wel … haws ei gadw’n lân na gwyn tydi?

Dyfan Davies ein dyn sain gymrodd y lluniau yma i gyd, felly diolch i ti am eu gyrru atai Dyfs.

Ond dydi paratoi i gadw gwenyn ddim yn hawdd. Jest cyn dechre ffilmio, mi gofiodd Carys ei bod wedi anghofio dod â’i – ym – dwi’m yn siwr be oedd hi’n eu galw nhw – ond pethe efo lliain neu gynfas yn sownd i ddarnau o bren sy’n cael eu rhoi dros y cwch agored fel hyn – y pethau pinc ‘ma:

Ond roedd yn rhaid eu cael ac ro’n i angen rhai i mi fy hun beth bynnag, felly mi es i chwilio am hen gynfas (binc, streipiog) ac mi gafodd ei rhwygo’n ddarnau gan Carys. Chwilio wedyn am ddarnau o bren a phenderfynu y gwnai darnau o bamboo y tro yn iawn. Mi wnaethon ni drio eu swtffwlio ond stwffwl bach pathetic iawn sydd gen i felly bu’n rhaid troi at edau a nodwydd. A dyma fi a Dafydd y gwr camera yn brysur yn gwnio. Mae’n rhaid multi-taskio yn y job yma ‘chi! Roedd y pwytho fymryn yn fler a brysiog ond roedden nhw’n gweithio’n champion yn y diwedd, fel y gwelwch chi uchod.

Roedd hi’n ddiwrnod braf heb ormod o wynt felly mi fihafiodd y gwenyn yn berffaith a chafodd neb ei bigo. Ond roedd Carys wedi deud y dylwn i fynd i sbio arnyn nhw ymhen wythnos i weld os oes gynnyn nhw ddigon o fwyd – sef rhyw ‘sugar solution’ mewn bwced. Ond mae hi’n chwythu mwya ofnadwy tydi a phan ffonies i Carys heno, mi ddeudodd mai gadael lonydd iddyn nhw fyddai orau. Dydi gwenyn ddim yn hoff iawn o’r gwynt – tueddu i’w gwylltio.

Felly dwi’n cadw draw nes bydd y tywydd yn callio! Ond es i fyny at y cwch heno jest i weld – heb ei gyffwrdd – i wneud yn siwr bod y gwenyn yn dal yna, ac oedd, roedd na un neu ddwy yn hedfan i mewn ac allan. Ffiw.

Felly am y tro, dyma i chi luniau amrywiol o’r criw yn eu gwisgoedd ac ati – Heledd y cyfarwyddwr ydi’r un fach. Y cyfarwyddwyr eraill yn ormod o fabis mae’n debyg …!


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael sylw