BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Diwedd y gyfres
Tachwedd 19, 2013, 12:08 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , ,

A dyna ni, digwyddodd, darfu, megis seren wib. 6 rhaglen wedi eu darlledu, ac mae’n debyg ein bod wedi cael ffigyrau gwylio uchel, oedd yn mynd yn uwch wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen. Da de!image
Does gen i ddim syniad be fydd y bosys yn S4C yn ei benderfynu, os fydd na Dyfu Pobl arall mewn ardal wahanol ai peidio. Does dim yn saff yn yr oes sydd ohoni, efo’r holl gwtogi. Ond unwaith gawn ni wybod un ffordd neu’r llall, mi wnai adael i chi wybod ar y blog yma.
Yn y cyfamser, mi fydd na 6 rhaglen yn y flwyddyn newydd efo Sioned a’i thylwyth yn eu cartre newydd. Codi gardd allan o ddim fyddan nhw a dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld be fyddan nhw wedi’i neud.IMG_2090
A dyna lun o Sioned, rhag ofn eich bod chi wedi anghofio sut mae hi’n edrych!

Yn wahanol i lawer, mi fydda i wrth fy modd efo mis Tachwedd; mae’r lliwiau mor hyfryd. Dyma i chi chydig o luniau dynnes i ddoe:image

image

imageimageimage
Do, dwi wedi chwarae chydig efo’r llun ola na efo Del. Da ydi instagram! Effeithiol tydi? A Del yn edrych yn hynod lwynogaidd.
Mi fydd hanes tynnu’r lluniau yna yn yr Herald wsnos nesa, a hanes y bont – Bont newydd, i’w gweld ar ei gorau o’n maes carafannau ni yn Nolgamedd. Dewch draw efo’ch pabell/campafan/carafan flwyddyn nesa. Mae’r coed yn werth eu gweld yn yr haf hefyd! Ac mae gynnon ni chydig o flodau – dim byd anhygoel, ond ambell bot yma ac acw a digon o gennin pedr yn y gwanwyn. Dylen ni fod wedi plannu mwy erbyn meddwl.
Ches i ddim gwyliau eleni ( dydi 6 rhaglen ddim yn talu llawer! A dwi’m yn gwneud llawer drwy sgwennu llyfrau) ond mi ges i benwythnos anhygoel yn Fflandrys rhyw fis yn ol. Efallai nad ydi sbio ar feddau yn swnio’n hwyl, ond mi roedd o, yn brofiad bythgofiadwy.
image
Ges i weld beddau brodyr fy nhaid:imageimage
Roedd hi’n fraint cael mynd yno. A do, mi sgwennais gryn dipyn am yr hyn ddysgais i ac a deimlais i. A nes i dorri cutting o’r rhosyn wrth fedd Trebor, er mwyn cael ei dyfu yn fy ngardd i, ond mae arna i ofn i’r peth druan wywo yn y car ar y ffordd adre. Nes i anghofio ei roi mewn dwr.
Efallai ai yn ol ryw dro a thrio eto.
Hwyl am y tro.


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael sylw