BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Cornel gysgodol a hebes
Mawrth 30, 2011, 4:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Reit, dwi’n nacyrd. Newydd fod yn trio achub tair coeden sydd wedi cael eu crogi gan wyddfid yn dawel bach heb i mi sylwi. A rwan mae gen i fynydd o wyddfid a darnau o goed wedi pydru ar fy lawnt ac mae nwylo fi’n brifo, heb sôn am fy nghefn. Nai gymryd llun ryw ben.

Dwi wedi bod yn wirioneddol brysur yn yr ardd yn ddiweddar. Yn un peth, ges i gwmni Carol Gerecke eto, a’i chyngor ynglyn â be i neud efo 1) hebe sy’n rhy fawr, 2) hebe sy’n diodde. Yr ateb – llifio’r hebe anferthol a rhoi stwff lladd chwyn ar y bonyn oedd ar ôl.

Dyma’r canlyniad ar ôl bod wrthi efo llif a loppers.

Doeddech chi methu gweld dim o hynna cynt. Roedd y rhosyn ar y dde yn cael ei gwasgu o’r ffordd a’r planhigion oddi tani yn gonars. Dwi wedi bod yn palu ac ychwanegu compost a newydd blannu dau beth bach digon del yno ( methu cofio’r enw rwan – llun ryw dro eto).

Ac wele lun isod o’r canghennau gafodd eu torri i ddangos i chi pa mor fawr oedd hi. Anghenfil o hebe. A’r llall? Ei thocio bron i’r bôn ( roedd ‘na ddeilen fach neu ddwy yn fanno) a chroesi bysedd. Mi wnes i hefyd wneud toriadau o’r hebe iach a’u rhoi mewn pot fel hyn. Croesi bysedd y gwnaiff rhai o’r rheina wreiddio rhag ofn mod i wedi lladd yr hebe oedd y sal…

Hefyd, mae gen i gornel gysgodol iawn yn y cefn, sydd ddim yn cael llawer o haul – na gwynt, ac sydd â phridd wirioneddol dda. 

Dyma’r gornel wedi i mi dorri tipyn o’r iddew oedd wedi mynd yn rhemp dros y wal. Rhy gynnar i chi weld y dagrau solomon sy’n tyfu wrth droed y cerrig a’r hosta hyfryd sy’n tyfu ar y chwith bob blwyddyn.

Mi nath Carol roi cyngor ar be arall fysa’n addas i’w tyfu yno, a dyma nhw:

A llun isod o Gareth yn ffilmio wedi i ni blannu – ac mae o’n sathru fy nagrau solomon i yn fanna! Dyna un peth am gael criw camera yn eich gardd – maen nhw’n sathru bob man tydyn!

Gewch chi weld yr eitem yn o fuan, ac mi wnai gymryd lluniau wrth i’r lle altro. Ond dwi wedi mopio efo fy hellebores pinc a phiws. Roedd gen i rai gwyn yn barod ond heb fod yn torri’r hen ddail yn ddigon cynnar i’r blodau gael mwy o faeth. Mi fyddan nhw’n well flwyddyn nesa, dwi’n addo! Edrych ymlaen yn arw i weld y bysedd cwn amryliw hefyd. Mi wnan yn lle lupins achos roedd y malwod yn gneud minsmît allan o’r rheiny.

O, a dyma Carol yn mwynhau paned haeddiannol ar ôl y gwaith na i gyd!


2 o Sylwadau so far
Gadael sylw

Ddyle’r toriadau Hebe (neu Veronica gynt?) gwneud yn iawn, ond byddwch yn lwcus hefo’r llwyn ei hun- Am wn i mae angen tocio bach bob blwyddyn a ni fydd yn hapus wedi ei thocio i’r bon.
Wnaethoch chwi sylwi ar y newid ar ol dim ond pum munud o law ddoe? Edrych fel gwanwyn a hogla fel gwanwyn hefyd!

Sylw gan gz

Gawson ni fore cyfan o law heddiw – gwych! Popeth yn edrych gymaint gwell yn syth – heblaw am y gwrychoedd gafodd eu crogi gan wyddfid (neu rywbeth tebyg i wyddfid sy’n debycach i triffid…)
Ia, doedd Carol ddim yn siwr a fyddai’r hebe’n dod at ei hun ond dim gwaeth na rhoi cynnig arni. Os fydd hi’n marw, wel troi at y toriadau amdani.

Sylw gan bethangwanas




Gadael sylw