Filed under: 1
Ydach chi’n cofio Russell a’i frawd yn fy helpu i wneud pwll i ddenu bywyd gwyllt llynedd? Union flwyddyn yn ôl fel mae’n digwydd … wel, roedd o’n edrych yn eitha i ddechre. Braidd yn fach, a do’n i’m yn siwr am y ffaith bod yr holl rwber yn y golwg, ond duwcs, roedd o’n iawn, ac mi ddoth y penbyliaid. Ond doedd o’m yn ddwfn iawn, ac unwaith iddi ddechre cynhesu, dyma be digwyddodd:
Ia, rhyw hen algae hyll, afiach oedd yn crogi pob dim. A thros y gaea ma, mi rewodd yn golsyn fel bod pob dim yn gelain – hyd y gwelwn i beth bynnag. Anghofies i dynnu llun ohono fo cyn i’r dynion mawr o Lanuwchllyn gyrraedd dydd Iau dwytha. Gwyn, ei fab Dochan a Dilwyn. Mi ddoth y tri yn gynnar iawn – wel, Dochan a Dilwyn chydig hwyrach am eu bod nhw mewn layby, methu dod o hyd i’r ty nes i mi eu pasio ar feic efo Del …
A chyn pen dim, roedden nhw wedi gwagu’r hen bwll a thyllu un mwy a thipyn dyfnach …
gwaith caled, a dyna pam fod Dilwyn yn sychu’r chwys oddi ar ei dalcen. Roedd hi’n eitha braf a sych drwy’r bore, ond roedd y glaw ar ei ffordd a phawb yn gwybod hynny ac yn mynd fel fflamia. Cinio hwyr iawn amdani! Ro’n inne’n trio helpu ond mi wnes i sylwi’n o handi mod i o’r ffordd felly mi es i gribinio mwswg yn lle – a sbiwch – mi weles i bod gynnon ni gynulleidfa – madfall.
Mae gen i deulu ohonyn nhw’n dod i’r golwg bob ha – ond rioed mor gynnar â hyn o’r blaen. Ta waeth, mi ddoth y glaw wrth gwrs, a chyn pen dim roedd y pridd yn llaid ond roedd y rwber i lawr mewn pryd diolch byth. Ro’n i wedi meddwl rhoi cerrig crynion o gwmpas y pwll, ond mi sylwodd Gwyn fod gen i lechi mewn pentwr wrth y fynedfa. Ia, iawn, defnyddia nhw ar bob cyfri meddwn yn llawen.
A dyma’r gwaith ar ei hanner – cot law Richard y gwr camera yn dangos fod y tywydd wedi troi.
Roedd hi wedi tywyllu erbyn i ni orffen a finne’n gorfod brysio am y de reit handi. Ond dyma lun ohonon ni’n sefyll ar lan fy mhwll newydd hyfryd! Gewch chi lun yng ngolau dydd ryw ben!
Gadael Sylw so far
Gadael sylw