BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Llysiau Nadolig
Rhagfyr 7, 2009, 12:30 pm
Filed under: 1

Mae arna i ofn mod i wedi gorfod gyrru’r camera i gael ei drwsio felly dwi methu cymryd lluniau o’r hyn dwi wedi bod yn ei wneud yn yr ardd yn ddiweddar. Plannu tiwlips yn un peth, a dwi’n pasa plannu nionod toc – pan fydd y bali glaw ma wedi stopio rhywfaint. Iechyd, dwi’n colli haul a gwres Nigeria rwan. Er gwaetha’r mosgitos!

Ta waeth, eitem arall welwch chi ar y rhaglen Dolig (Rhagfyr 21) ydi rhandir Eirian a Richard Jones yn Rhandir Rhydypenau y Rhath. Mi fues i yno yn yr haf, cofio? Ac mi ddywedon nhw eu bod nhw am drio tyfu pob llysieuyn fyddai ar y bwrdd cinio Nadolig eu hunain. Aeth Russell a finna’n ôl yno fis Tachwedd i weld sut siâp oedd arnyn nhw.

Wel, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld faint o obaith sydd ganddyn nhw, ond … doedd popeth ddim wedi bod yn hynci dori o bell ffordd! Mi fu Russ yn eu cynghori ar sut i ddelio efo’r gwahanol broblemau tro nesa, ond chlywes i fawr o’r sgwrs honno achos mi fu’n rhaid i mi fod yn ‘Anti Bethan’ a mynd â’r plant – Owain, Elen a Rhodri – am dro iddyn nhw gael llonydd a thawelwch! Dyma lun o Owain ac Elen yn yr haf: Maen nhw’n gymeriadau a deud y lleia! Ond ges i hwyl garw yn hel dail efo nhw – tip Russell ar gyfer cadw eich llysiau yn hapus dros y gaea – rhoi trwch o ddail neu redyn drostyn nhw.

Dwi’n siwr y bydd cinio Dolig y Jonesiaid yn fendigedig yn y diwedd – hyd yn oed os fydd y sbrowts fymryn yn fychan. Ond maen nhw’n well na fy rhai i – mae’r pethau hynny’n feicrosgopig. Ond dwi’m wedi rhoi llawer o sylw iddyn nhw, rhaid cyfadde. Maen nhw’n cael ‘feed’ o hylif y ty pryfed genwair/mwydy yn gyson gen i ond mae’n siwr bod yr holl law ma wedi gwanhau ei effaith o.

O wel. Rhyw 3 wythnos i fynd …


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael sylw