BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwlad Thai, Cambodia a Vietnam
Hydref 18, 2012, 3:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , ,

A dyma fi adre. Wel, ers sbel a deud y gwir ond dwi wedi bod yn rhy brysur i flogio! Roedd gen i fynydd o bost/ebyst a gwaith i fynd drwyddo’n gynta. Yn cynnwys proflenni ( proofs) terfynol yr hunangofiant … o do, dwi wedi, ac ydi,mae o ar y ffordd. Crynwch yn eich sgidiau …

Ta waeth, wele lun o’r criw orffennodd y daith feics yn Saigon:Fel y gwelwch chi, roedden ni’n gymysgedd o ferched ifanc a chanol oed ( dim ond un yn hyn na fi…) a dynion oedd yn tynnu mlaen. Wel, roedd gynnyn nhw wallt gwyn o leia. Ond roedd na brifathro cynradd o Seland Newydd yn ein mysg ( fo sy’n cydio yn y beic yn y cefn) oedd yn 61, a’r beiciwr gorau a mwya ffit o bell ffordd. Typical Kiwi … Ei ferch o ydi’r un mewn pinc ac roedd honno’n blwmin ffit hefyd. Fel y ferch o Awstralia – ac Iwerddon. Do’n i ddim yn ffit ar y dechrau, ond wedi chwysu fel na chwysais erioed o’r blaen, a cholli pwysau o flaen llygaid pawb – ro’n i’n hedfan erbyn y diwedd! Fi sy’n y glas yn gneud rhyw stymantiau gwirion efo Sutinee, ein harweinyddes. Roedden ni’n dwy’n dod mlaen yn grêt am ein bod ni’n eitha plentynnaidd yn y bôn. Yn rhannu’r un synnwyr digrifwch, ddeudwn i ta.

A chwarae teg, er gwaetha’r gwres a’r blinder, mi fues i’n cymryd lluniau ar gyfer y blog yma:

Gardd yn y Mekong Delta ydi hwn, lle sydd dan ddwr bron i gyd. A dyma brofi bod modd cadw gardd fach ddel hyd yn oed mewn lle felna. A dyma ddangos be sy’n gallu digwydd os nad ydach chi’n cadw eich coed dan reolaeth: un o demlau Angkor yn Cambodia ydi hwn. Lle difyr, ond braidd yn llawn o dwristiaid at fy nant i.Mae’n hen – methu cofio pa mor hen, ond os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn temlau, googlwch o. Ges i dridiau o sbio ar demlau ac roedd o’n ormod o bwdin i mi. Ysu am fynd nôl ar y beic ro’n i.

A dyna’r beics.Roedd na goed bonsai o bob math ym mhob man, ac yn ngardd y Royal Palace yn … ym … o ia, Saigon oedd hyn. Naci, Phnom Penh. O diar, mae’r cwbl wedi mynd yn slwtsh yn fy mhen i braidd. Dwi wedi cael swp o ddos o annwyd, drapia ( hen jyrms mewn awyren, mwn) ac mae mhen i’n troi.Vietnam ( fy hoff wlad o’r tri dwi’n meddwl) oedd hyn. Y blodyn lotus. Ond sylwch ar y weiren bigog y tu ôl iddo. Mi es ati i gynnwys hwnnw am mai dyma lle cafwyd damwain fechan. Mi stopiodd Chi, yr arweinydd, yn sydyn i ni gael sbio ar y lotus. Ond er i’r tri cynta ( yn fy nghynnwys i) lwyddo i daro’r brêcs mewn pryd, nid felly y ddau oedd yn fy nilyn i. Ges i handlebars Sutinee yn fy mhen ôl ( clais bach du, crwn) ac mi hedfanodd hi ar lawr, gyda’r prifathro ar ei  phen hi – rhyw 16 stôn ohono fo. Roedden nhw’n iawn, ond nes i alw’r llun yma yn ‘Beware of the lotus flowers…’

Mi fues i am oes yn trio cael llun o un o’r pili palod, a dyma’r unig un ges i! Bali pethau’n symud yn gyflym tydyn?Mi gymrais i lwyth o luniau o flodau hefyd ond gewch chi weld rheiny rhyw dro eto – maen nhw’n cuddio am ryw reswm. Ond mi gewch chi weld hwn:Mi fuon ni’n bwyta llwyth o bethau od yno: criciaid ( crickets), llyffantod, adar bychain bach, a phan ddywedodd rhywun mai ‘honeycomb’ oedd hwn , ro’n i’n edrych mlaen at flasu mêl Cambodia. Ha. Ond o sbio’n agosach, nid mêl mohono naci – ond larfa gwenyn wedi eu rhostio ( neu eu ffrio, be wn i). Be?! Wel do’n i’m yn mynd i gyffwrdd rheina nago’on? Sut allwn i wynebu fy ngwenyn fy hun adre taswn i’n meiddio gneud ffasiwn beth? Ond roedd y Wyddeles wedi bwyta llwyaid cyn sylweddoli be oedd o. Cynrhon ydyn nhw Sonia!

Ond wyddoch chi be? Mae bywyd yn eironig. Dim ond un o’r criw oedd yn gwrthod cyffwrdd y bwydydd gwahanol yma bob tro. Llysieuwraig. A dyfalwch pwy gafodd parasitic dysentry … rhyfedd o fyd. Roedd hi’n iawn ar ôl mynd i’r sbyty ac mae hi’n rêl boi rwan – rhag ofn eich bod yn poeni. Ond nath hi fawr o feicio, bechod.

iawn, dyna ni am y tro. Mae gen i lansiad i fynd iddo fo – yn sir Fôn. Hwyl!