BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Haf o’r diwedd
Medi 4, 2010, 11:25 am
Filed under: Heb Gategori

Wel, mae’n braf gweld yr haul eto tydi? Mae’n braf gallu torri’r lawnt yn un peth. Do’n i byth adre pan roedd o’n ddigon sych i’w dorri felly roedd hi fel jyngl acw.

Lwc mul oedd hi ei bod hi’n braf pan fuon ni’n ffilmio’r sioe fach ar y patsh hefyd. Sbiwch ar y cymylau oedd yn gwibio tuag aton ni jest cyn amser cinio!

Mi fu’n tresio bwrw dros amser cinio a Russ druan yn poeni am yr holl gerbydau ar ei wair newydd – ond aeth popeth yn iawn diolch byth. Un fan hufen ia yn sownd am chydig ond fawr mwy na hynny.

Rydan ni wedi cael ymateb da i’r rhaglen, felly diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth. Pan mae rhai yn honni bod neb yn gwylio S4C, mae’n braf cael gwybod bod pobl yn ein gwylio wedi’r cwbl!

Dyna’r unig lun gymerais i mae arna i ofn – ro’n i braidd yn rhy brysur wedyn.

Ro’n i’n brysur yn Sioe Rhydymain ar ddydd Llun Gwyl y Banc hefyd, ond ges i lun neu ddau – a sbiwch ar hon! Os wnewch chi sbio’n ofalus ( neu glicio ar y llun ei hun – eith o’n fwy wedyn) gewch chi weld mai ‘Bethan Gwanas’ sydd ar ei het.

Ond Hannah Meirion ydi hi – gafodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gwisg ffansi! A Del ydi’r ci…! Chafodd honno run wobr tro ma, doedd hi’m yn bihafio’n rhy dda, ond erbyn deall, mae hi newydd ddechrau cwna ac wastad yn ymddwyn yn od bryd hynny. A nacdw, dwi ddim yn bwriadu chwilio am gi iddi y tro yma. Flwyddyn nesa falle, gawn ni weld.

Mi wnes i roi cynnig ar arddangosiad blodau mewn esgid – a dyma’r ddwy i chi:

Ond ches i’m byd. Roedd y blodau wedi gwywo erbyn i’r beirniaid eu gweld – er gwaetha’r dwr yn yr oasis! A dim ond 3ydd efo fy jeli mintys tro ma! A dim byd am y dorth Weetabix ond doedd hi’m wedi coginio’n iawn yn y canol. O wel.

A wnes i’m gadael i Del gymryd rhan yn y ras gwn tro ma wedi iddi dorri’r rheolau a dal y gynffon llwynog tro dwytha.

Ond roedd hi’n Sioe llwyddiannus iawn fel arfer a diolch i bawb am ddod – a diolch yn arbennig i Rhys a Gwion o Traws am ein helpu i glirio’r byrddau wedyn! Mae’n fy mlino i mai’r un criw sy’n gorfod gwneud pob dim felly es i ar ôl y dynion yn crefu am help a nhw oedd y cyntaf i gamu i’r adwy. A llongyfarchiadau i Rhys am ennill ras y tadau hefyd ac i mrawd Geraint am ddod yn ail. Dwi’n siwr y byddai Alun Caecoch (Elidyr) wedi gallu eu curo ond roedd o newydd ei rhedeg efo’r hogia ifanc funudau ynghynt, ac mae o dros ei 50 rwan, chwarae teg.

Mi gewch chi hanes a lluniau parti ‘awyr agored’ teulu Frongoch tro nesa – pan fuon ni’n bwyta tatws glas Russell…


1 Sylw so far
Gadael sylw

Dweud wrth Russell bod y tatws glas yn flasus iawn, Meg xxxxxx

Sylw gan meg




Gadael sylw