BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Blogio
Ionawr 2, 2011, 12:01 pm
Filed under: Heb Gategori

Newydd gael neges gan WordPress.com, y cwmni sy’n rhedeg y safle blogio yma.

Isio gadael i mi wybod pa mor lwyddiannus fu my mlogio yn ystod 2010 oedden nhw.

‘You’re doing awesome!’ oedd y sylw. 3,100 o ‘views’ – be ydi ‘view’ yn yr ystyr yma yn Gymraeg dwch? 3,100 o gliciau?

Dydi hynna ddim yn ddrwg o feddwl mai cul iawn ydi apêl y blog yma mewn gwirionedd – sef pethau’n ymwneud â garddio, neu bethau’n ymwneud â’r ardd mewn rhyw ffordd neu fod tu allan. Mae hynny’n gallu bod yn eitha rhwystredig weithiau, felly dwi’n sgwennu am bethau chydig yn wahanol o dro i dro. Ydach chi’n meddwl y dylwn i sgwennu am fwy o bynciau amrywiol?

Dwi wedi fy synnu bod gymaint o glicio wedi bod a bod yn onest. Wedi’r cwbl, chydig iawn o arddwyr sy’n ffidlan efo’r we hyd y gwela i. Ydw i’n anghywir? Gadewch i mi wybod. A dydi ymateb i’r golofn ddim yn hawdd nacdi, gan fod angen google account neu flog eich hun er mwyn gallu gwneud sylw.

O ble daeth y clics? Wel, yn ôl y wefan, y rhai mwya prysur oedd bywynyrardd.net, blogiadur.com, blog-golwg360.com, obama-scandal-exposed.co.cc, a facebook.com. Dwi’m cweit yn dallt y cysylltiad efo Obama a’r sgandal…
Daeth rhai o hyd i’r blog drwy chwilio am y canlynol:  blog bethan gwanas, bethan gwanas blog, bethan gwanas, siani flewog, a dewi goulden. Unai mae Dewi yn googlo ei hun gryn dipyn neu mae o’n foi poblogaidd iawn!

Y diwrnod prysura eleni yn ôl y neges oedd Ebrill 14, a’r post mwy poblogaidd oedd ‘Paneli Haul’. Ond yn ôl fy ystadegau ar y dudalen, Hydref 22 2009 oedd y prysuraf erioed. 53 clic. Pam? Bydd raid i chi chwilio i weld yn bydd!

O ia, ges i gais i sgwennu’n ddwy-ieithog hefyd a nes i ddechrau gneud hynny – wel, ychwanegu darn Saesneg yn deud yn fras be oedd cynnwys y blog. Ond ges i lond bol -roedd o’n cymryd amser i’w neud. Ddylwn i ddal ati? Neu ei wneud yn haws i ddysgwyr neu bobl sydd ddim wedi arfer darllen Cymraeg? Should I make this blog easier for Welsh learners to understand? Let me know.

Yn y cyfamser, Blwyddyn Newydd Dda i chi! Mae 2011 yn argoeli i fod yn brysur i mi eto.  Dwi wedi cytuno i wneud cyfres  arall o ‘Byw yn yr Ardd’ ac mi fyddwn ni’n dechre ffilmio eto ymhen rhyw ddeufis dwi’n meddwl. Bydd Russell a Sioned yn dal efo ni hefyd. Ac mi fydd cyfres arall o ‘Byw yn ôl y Llyfr’ efo Tudur Owen ond mewn cyfnod gwahanol. Gewch chi fwy o wybodaeth am hynny nes mlaen yn y flwyddyn hefyd.

Hwyl!


12 o Sylwadau so far
Gadael sylw

Sai’n credu dylwch chi sgrifennu’n fwy syml fel petai mae’n weddol syml nawr a fela chi’n ysgrifennu yn y lle cynta, yn eich llyfre ac ati mewn ddull syml a rhwydd i’w ddeall :).

Ar ran dwyieithrwydd mae hynny’n gyfan gwbwl lan i chi ond rwy’n credu bod ‘na ddigon o flogiau Saesneg ar gael i leddfu’r angen am flogio ynglŷn â garddio. Dwi’m yn siŵr amdanoch chi ond dwi’n ei chael hi’n anodd weithiau i sgrifennu’n naturiol yn saesneg a berryg i mi ddechre swno fel robot!.

Ond dalier ati achos wi’n mwynhau darllen y blog ‘ma a blwyddyn newydd ddai dîm byw yn y ardd 🙂

Sylw gan Adam Jones

“View” yw ymweliad o dudalen. Wrth gwrs mae’r un ymwelwr yn gallu ymweld dwywaith neu tair gwaith neu mwy.

Neu mae hi neu fe’n gallu ymweld tudalennau gwahanol, dw i’n meddwl basai WordPress cyfrif bob tudalen fel “view” gwahanol.

Diolch am rannu!

Sylw gan Carl Morris

> dylwn i ddal ati? Neu ei wneud yn haws i ddysgwyr neu bobl sydd ddim wedi arfer darllen Cymraeg?

Dw i ddim yn gweld bod angen: mae Google Translate yn wneud job go dda o gyfieithu yn fras erbyn hyn.

Sylw gan Nic Dafis

Gwych Beth – ti’n arwain y ffordd i holl flogwyr cymraeg y byd! Jiw Jiw ti’n ysbradoligaethus?!?!?! (sillafu cywir?!?)

Joia di dy flogio! Leni xxxx

Sylw gan leni-roamingreporter

Yn bendant sgwenna fwy, ag am ba bynnag bwnc tisho! Dwi ddim yn arddiwr, ond yn galw heibio yn reit rheolaidd jyst i ddarllen. Mae’n flog difyr a da gen ti, felly diolch am rannu, a mwy o flogio plis!

Sylw gan Lois

Diolch am eich sylwadau, difyr iawn. Ond anodd credu bod cyfrifiadur yn gallu cyfieithu fy Nghymraeg i’n gywir… pan gai amser, mi wnai roi cynnig arno fy hun jest i weld.
A iawn, dwi am ehangu i gynnwys mwy na’r ardd – yn enwedig mewn cyfnodau pan dwi prin yn sbio ar yr ardd!

Sylw gan bethangwanas

Mae linc i gyfieithiad Google o’r blogiad yma yn fy sylw uchod (co fe ‘to) – dyw e ddim yn berffaith o bell ffordd, ond mae’n ddigon da i gael y jist.

Sylw gan Nic Dafis

Daliwch ati!

Mae’n gymorth i Google os byddwch yn ychwanegu digon o “tags” yng ngwaelod pob blog.

Ond basech yn synnu faint o flogiau werth dilyn rywi wedi eu ddarganfod wrth clicio “next blog” ar y bar uwch ben !!

Sylw gan gz

Sylwais nad oedd raid i mi teipio “gair” i adael ymateb- mae hyn yn rhwystro lawer o “spam”
Hwyl ar yr arddio- pan ddaw’r tywydd iawn!

Sylw gan gz

Mae’r cyfieithu Google ma’n anhygoel!
Iawn, mae ”
After all, very few gardeners who fiddled with the internet until I see i.”
a
“And there’ll be another series of ‘Live the Book’ with Owen Tudor” yn ddigri, ond wyt, ti’n cael y gist.
Ond gz, dwi’m yn dallt ‘tags’. Be’n union dwi fod i neud? Tagio be? Pwy? Sut?

Sylw gan bethangwanas

Dwi ddim yn gwybod sut mae WordPress yn edrych pa rydych yn ysgrifennu, dwi ar blogger.
Ond mae’n byr debyg,rwyt yn ysgrifennu mewn bocs ac mae o’n gofn am”labels for this post”.
Rhain yw y Tags bydd Injan Chwilio yn codi.

Sylw gan gz

Newydd ddechrau dilyn dy flog dwi, ac yn sicr mae’n hynod o ddifyr. Mae gen i flog garddio fy hun ond garddio ar gyfer y bwrdd arddangos. Pan wnes i gychwyn roeddwn wedi bwriadu ei wneud yn ddwyieithog ond roedd un o fy nilynwyr yn albanwr ac roedd yn canmol google translate. Mae o hyd yn oed yn gadael sylwadau wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg!

Sylw gan Owain Roberts




Gadael sylw