Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Auckland, cacen foron, Cathedral Cove, Crysau Duon, Richie Mc Caw, Seland Newydd, Wintergardens
Ffiw. Dwi mor falch bod y Crysau Duon wedi ennill y cwpan. Oedd, roedd hi’n gêm fler, a do, mi chwaraeodd Ffrainc yn dda, ond y Crysau Duon oedd i fod i ennill a dyna fo! Roedd y pwysau oedd arnyn nhw yn anhygoel, yn gwneud i’r pwysau oedd ar Gymru edrych fel pluen, ac fel ddeudodd Grant Fox, roedd y wlad angen iddyn nhw ennill er mwyn ‘their sanity’. Mi fyddai colli mewn ffeinal eto – ac i Ffrainc – eto! – wedi bod yn rhy greulon o lawer. Roedd fy nghalon i’n mynd fel peth gwirion, dyn yn unig a wyr sut oedd un Graham Henry, heb sôn am Mr Perffaith ei hun – Richie Mc Caw.
Y chwaraewr rygbi delfrydol, sy’n ofni dim na neb a wastad yn rhoi 100%. Ac sy’n digwydd bod yn ddel …
Wel, do’n i ddim yno bore ma wrth gwrs, ond ro’n i yno rhyw wythnos yn ôl, ac wele Eden Park, lle digwyddodd y ddrama:
Fi gymrodd y llun yna, o gopa Mt Eden (roedd Lawrence Dallaglio yno yr un pryd), jest cyn mynd i weld blodau yn y Wintergardens, yn arbennig ar gyfer y blog yma! Dau dy gwydr anferth efo pwll llawn lilis rhyngddyn nhw ydi’r Wintegardens, a ges i awren fach hyfryd iawn yn sbio ac arogli efo fy ffrind Kiwi, Marian Evans.
Dyma i chi rai o’r blodau hyfryd sydd yno ar hyn o bryd:
Ddrwg iawn gen i, wnes i’m cymryd cofnod o’r enwau, ond ges i sypreis neis iawn o weld cennin pedr yno! Maen nhw yng nghefn y llun uchod. Dim syniad mwnci be oedd rhain chwaith, ond maen nhw’n edrych reit ddifyr ac ecsotig i mi.
Hollyhocks ydi’r rhain dwch? Dwi’m yn siwr, achos does gen i ddim yn fy ngardd i. Ond mae gen i lilis dwr digon tebyg i’r rhain:
Ond mae na well graen ar rhain, rhaid cyfadde. Yn anffdus, bu farw fy nghamera yn fuan wedyn, pan ro’n i ar draeth Cathedral Cove – fan hyn:
Hyfryd tydi? Wedi bod yn canwio ro’n i,
ond roedd y camera mewn bag sych a chafodd o mo’i wlychu. Dim ond wedyn, ar y traeth aeth o’n kaput. Felly bu’n rhaid defnyddio fy iphone i gymryd lluniau o hynny mlaen, a dyma i chi rywbeth ges i dafliad carreg o stadiwm Eden Park – cacen foron.
Y gacen fwya hyfryd i mi ei blasu erioed. Na, fydda i ddim fel arfer yn cymryd lluniau o gacenni, ond roedd hon yn haeddu cwpan y byd am y gacen orau yn y byd! Nefoedd ar blât …