Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cadi, coed ffrwythau, rhododendrons, sudden oak death, to eco
Dyna’r ardd pnawn ‘ma – chydig o haul yn gneud gwahaniaeth tydi? Mymryn o liw o’r diwedd. Mae’r grug yn edrych yn dda, ac mae’r daffs y pen arall a’r eirlysiau yn hyfryd. Dechre meddwl am ffilmio rwan. Bu Rhian, y cynhyrchydd acw ddydd Mawrth i weld sut siap oedd ar bethe ac i drafod be fyddwn ni’n ei ffilmio eleni.
Wel, to newydd i’r bali sied eco, gobeithio! Ond mae’r rhododendrons mawr yr ochr arall i’r ty yn mynd ar fy nerfau ers blynyddoedd. Y ponticum – y rhai drwg ydyn nhw, felly mae angen cael gwared ohonyn nhw. Ac mi sylwodd Rhian ar hyn:
Rwan, mae’n bosib nad ydi hyn yn ddim byd, ond roedd o’n edrych yn debyg i’r ‘Sudden oak death’ roedd hi wedi bod yn ei archwilio ar y we … hm. Felly rydan ni am yrru’r lluniau at bobl sy’n dallt eu stwff – rhag ofn. Os mai dyna ydi o, mi fydd angen rhoi gwybod i DEFRA! Gylp. Felly nai adael i chi wybod. Ond maen nhw’n mynd beth bynnag.
Rydan ni’n gyrru’r llun hwn at Carol hefyd, i weld os fydd ganddi syniadau be fedrai neud efo’r gornel anghofiedig hon:
Fanno wnes i blannu’r tair coeden ffrwythau ges i drwy bapur Sul. Bu farw’r goeden apricots/bricyll yn syth ac mae honno wedi cael ffling. Mae na goeden geirios yn dal yn fyw ( jest abowt) yn y pen pella ond dim ffrwythau arni eto, er gwaetha addewid yr hysbys papur newydd. Roedd hwnnw’n deud y byddai gen i ffrwythau o fewn blwyddyn. Dyma’r drydedd rwan a – dim yw dim. Mae na goeden eirin wrth flaen y llun sydd â gwell graen arni – ond dim eirin. Ac o’r golwg wrth y wal, mae gen i goeden afalau ges i gan fy mrawd, roddodd domen o afalau i mi!
Ond pan symudais i yma gynta, roedd gen i wrych reit ddel wrth flaen y ty. Mi gynigiodd Geraint ( fy mrawd) ei thocio hi – a dyna’i diwedd hi. Bu farw.Ond mae na gangen ohoni wedi atgyfodi – dyna’r dail bach gwyrdd welwch chi ar flaen y llun. Felly dwi wedi bod yn hel y stwff marw:
Tomen ohono fo, ond mae o’n wych ar gyfer cynnau tân yn y woodburner. A ddechrau’r wythnos, mi wnes i blannu chydig o daffs i roi lliw i’r lle nes daw’r goeden at ei hun yn well.
Anodd eu gweld – ond maen nhw yna – mewn tri lwmp efo blodau ar y lwmp ar y dde. Dwi am roi eirlysiau yno hefyd unwaith y bydd hi’n amser trawsblannu’r rheiny. Mi fydd hi’n ddel yma gwanwyn nesa, siawns!
Sôn am ddel …
Dyma Caio bach a Cadi efo Del. Y ddau wedi mopio efo hi – ond nid eu mam … Del yn colli ei chôt aeaf braidd – wps. A dwi wrth fy modd efo’r llun yma … roedd Caio wedi bod yn rhannu ei ryscs efo hi, felly wrth gwrs, roedd hi’n disgwyl mwy – ond doedd o’m yn rhannu tro ma!
Mi fu hi’n disgwyl fanna am oes, bechod. Dwi fod i fynd a hi i gael y snip rwan, erbyn cofio, ond dwi methu wynebu’r syniad o’i rhoi hi mewn lampshed am dair wythnos. Gneud fydd raid, mwn. Unrhyw un ag unrhyw air o gyngor?!