BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Mwy o wenyn na’r disgwyl
Mehefin 15, 2012, 12:53 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , ,

Dim lluniau – rhy wlyb a sgen i’m mynedd, ac mi wnai eu hychwanegu eto – ond bellach, mae gen i dair cwch o wenyn!

Y cwch cyntaf, sy’n hapus braf. Gwenyn duon Cymreig

Yr haid – sydd rwan yn y cwch newydd ro’n i wedi ei pharatoi ers prynu’r stwff yn Llanelwedd. Cymysgedd ydi’r rhain dan ni’n meddwl – y drones yn wahanol – mwy o felyn ynddyn nhw.

Cwch llawr caled – brynais i gan John Porthmadog am £35, sydd â niwc brynais i gan Carys. Roedd hyn wedi ei drefnu cyn i’r haid hedfan dros fy mhen i! Gwenyn duon Cymreig.

Wedi rhoi digon o ddiod siwgr i’r 2 gwch newydd i’w helpu i setlo, ac hefyd am fod neges wedi dod drwy’r gymdeithas gwenynwyr bod llawer o wenyn yn llwgu i farwolaeth ar hyn o bryd am nad oes digon o fwyd iddyn nhw. Dyna pam fod rhain wedi heidio mae’n siwr, i chwilio am rywle efo mwy o fwyd. Wel, mi edrycha i ar eu holau nhw.

Iawn, gwell picio i dre – dwi wedi rhedeg allan o siwgr.



Caerynwch
Mehefin 1, 2011, 9:54 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Wedi bod yn sbio ar y gwenyn efo Carys pnawn ma! Maen nhw’n edrych yn ddigon hapus, ond roedd y bwced o ‘fwyd’ ( siwgr wedi’i doddi) yn wag felly bu’n rhaid i mi doddi llond sosban iddyn nhw. Y tywydd gwlyb, gwyntog sydd wedi bod yn eu cadw rhag nôl eu bwyd eu hunain, ond ar ôl heddiw a’r haul maen nhw’n ei addo weddill yr wythnos, dwi’n cymryd y byddan nhw allan yn nôl paill fel pethau gwirion.

Ta waeth, isio sôn am eitem arall fydd yn cael ei dangos cyn bo hir ydw i: gerddi Caerynwch, plasdy mawr nid nepell o fan hyn: lle mawr, smart de? Os sbiwch chi i’r chwith wrth yrru o Ddolgellau am Cross Foxes, toc ar ôl y tro am Brithdir, mi allwch chi weld y ty i lawr yn y dyffryn. Anodd yn yr haf drwy’r holl goed, ond digon clir yn y gaeaf. Nhw oedd y meistri tir lleol, ond ers i’r hen Commander Richards farw, mae’r meibion wedi gorfod gwerthu bron bob un o’r ffermydd ( yn cynnwys y Gwanas). Ac fel hanes sawl hen blasdy tebyg, maen nhw’n gorfod meddwl am ffyrdd i dalu am gynnal a chadw’r ty a’r gerddi. Dyna pam eu bod nhw wedi dechrau agor y lle i’r cyhoedd ar adegau arbennig. Gewch chi weld un diwrnod agored ar BYYA toc.

Mae ‘na azaleas a rhododendrons sy’n werth eu gweld.

 

Y rhan fwya wedi eu plannu gan nain Andrew, y perchennog presennol. Botanegydd oedd Mary Richards, fyddai’n dod a hadau efo hi o dros y byd i gyd.

Ond dwi’m yn meddwl mai hi blannodd y Douglas Fir anferthol syrthiodd mewn storm rai blynyddoedd yn ôl, ac sydd bellach wedi ei lifio a’i gerfio yn le chwarae plant – os ydyn nhw’n ofalus!

Ges i gwmni Meg a Robin, plant fy mrawd, a dyma nhw’n chwarae ar y goeden efo’u ffrindiau o Ysgol y Brithdir. Fel y gwelwch chi, mae gan Meg ( mewn du a llwyd) falans da iawn. Fel ‘na ro’n i ers talwm … Ond mae Robin, fel cymaint o fechgyn ei oed, dipyn trymach ar ei draed, ac yn fuan ar ôl y llun yma gymrais i ohono’n camu’n hyderus, mi gafodd godwm, y creadur! Nid ar gamera fel mae’n digwydd, ond mi naethon ni stopio ffilmio nes i’r dagrau beidio. Dim ond sgriffiad bach neu ddau gafodd o, diolch byth – ond coeden ar gyfer plant weddol fawr a heini ydi hon, nid plant bach, bach iawn!

Cafwyd diwrnod hyfryd beth bynnag, a nes i brynu cwpwl o’r planhigion oedd ar werth yno. Prisau reit gall hefyd. Galwch yno y tro nesa y bydd yr arwyddion yn nodi bod y lle ar agor eto.

O, a jest i brofi mod innau’n dal i fedru dringo, diolch yn fawr, dyma lun ohona i ar Boiler Slab ar y Gwyr, yn ddiweddar. Penwythnos drefnwyd gan Glwb Mynydda Cymru – a chwip o benwythnos oedd o hefyd!