Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Byw yn yr Ardd, Del, ffrwd y gwyllt, instagram, Jac a Tesni, Meg, mentro, Sioned, Wordpress
Mentro i flogio dwi’n ei feddwl. Mae angen amynedd Job i wneud hynny efo WordPress y dyddie yma. Dwi’n meddwl mai isio pres gen i i gael fersiwn gwell maen nhw. Ond gawn nhw fynd i ganu! Onibai fod Byw yn yr Ardd yn fodlon talu, wrth gwrs … mae’r ceinioge’n brin yn Ffrwd y Gwyllt a dyna fo.
Yn y cyfamser, rhegi a gwylltio wrth lwytho lluniau a thrio rhwystro’r hyn dwi’n ei sgwennu rhag diflannu fydd hi.
Yn gynta, dyma i chi rai lluniau dwi wedi eu cymryd efo’r ipad drwy’r app instagram. Hoffi rhain, rhai i mi ddeud.
Ond mae llwytho’r rheina’n cymryd drwy’r nos. Asiffeta, mae isio gras.Iawn, driwn ni lun gymerwyd bore ma ta, o Meg fy nith a Del fy nghi yn y cae nid nepell o’r ty pan aethon ni am 8 milltir ar y beic bore ma. Dwy ddel, ylwch …
Mi fu Jac a Tesni, plant Sioned fy nghnither yma chydig ddyddiau’n ôl, ac mae’r ffrwd fel magned i blant yr oed yna:
Ond mae chwarae’n siwr o droi’n chwerw yn y diwedd, pan ti’n chwarae efo dwr, ac mi gafodd Tesni druan socsan…
Gwell oedd eu gyrru i rannau eraill o’r ardd i sychu:
Ydi, mae fy ngardd i’n nefoedd i blant! Ac i minna, rhaid i mi ddeud.
O, a mae na griw arall o Ferched y Wawr yn dod draw wythnos nesa. Felly dwi wedi bod yn chwynnu, bobol bach. Mae’n edrych yn dda yma!
Ac er mod i wedi pasa llwytho mwy o stwff am y cynllun yn Nyffryn Nantlle heddiw, mae gen i ofn colli hwn i gyd, felly dyna ni am y tro. Ffiw!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: antihisthamine, bird alert window stickers, colyn, Frongoch, Geraint Williams RSPB, gwenyn mêl, gwreiddiau, mynedfa, patsh, pigiad, pleser, Russell, siapio, Sioned, uwd, wal
Dyma fo’r ail bigiad gan fy ngwenyn annwyl. Llawer iawn gwell na’r cynta, ond dim ond drwy’r siwt oedd hyn, felly wnaeth y colyn ddim aros i mewn, ac mi wnes i gymryd tabledi antihisthamine cryf, felly dyn a wyr sut siap fyddai ar fy mraich i heb rheiny! Y diwrnod canlynol oedd hyn, gyda llaw. Oes, mae’n rhaid diodde weithiau er mwyn cael y pleser o drin gwenyn mêl.
Ta waeth, mi fydd y gyfres yn ôl yn gyfredol cyn bo hir, a dyma i chi lun o Sioned pan fuon ni’n ffilmio yng Nghanolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon:
Mae’r trefniannau wnaeth hi wrth ei phenelin a’i hysgwydd – del iawn – a ges i heuchera sbâr ganddi, sy’n gwneud yn dda iawn yn un o’r tyllau fu gynt â lwmpyn mawr o redyn ynddo. Dwi’n dal i godi o leia 2/3 o’r rheiny bob dydd ac mae’n dechrau altro yma. Dydi nghefn i ddim yn wych ar ôl tynnu a brwydro’r holl efo’r gwreiddiau o uffern, ond o leia dwi’m yn gorfod talu i fynd i gampfa efo’r holl chwysu ma.
A dyma Russell a Sioned efo peth o gynnyrch y patsh:
Russ yn edrych mor wahanol efo gwallt byr tydi? A naddo, chawson ni’m mynd a’r angenfilod yna adre efo ni go iawn!
Yno i wneud eitem am fwydo adar gwyllt ro’n i, a dyma fi efo Geraint Williams, swyddog efo’r RSPB, sydd, yn anffodus, wedi cau ei lygaid. Ond bosib mai ymabaratoi i ganu oedd o, neu ddim yn hoffi fy mhersawr i – nid mod i’n gwisgo peth yn aml. Beth bynnag, gawson ni sgwrs am y ffaith bod bwydo adar wedi mynd yn fusnes anferthol, a sut i ddal ati i fwydo heb fynd i’r coch. Mi soniodd bod uwd yn beth da ( a rhad) – a dyna dwi wedi bod yn ei roi ar y gwair ar ôl rhedeg allan o hadau blodyn yr haul – a diawcs, maen nhw wrth eu boddau efo fo. Uwd amdani felly – yn ogystal â’r cnau mwnci ac ati.
O ia, wyddoch chi fod rhai pobl yn rhoi ‘ready salted’ i adar? Wir i chi. Na – cnau heb eu trin gwbl plis!
A dyma ‘dip’ arall ges i gan Geraint. Dydi’r sticeri pila pala rois i ar fy ffenestri ddim yn eu rhwystro rhag hedfan i mewn i’r gwydr weithiau. ‘Rhain rwyt ti eu hangen’ medda fo:
Mae ganddyn nhw ofn y rhain yndoes, felly mi awn nhw o’u ffordd i hedfan i’r cyfeiriad arall. Ro’n i wedi ofni y bydden nhw’n eu cadw draw o’r ty yn llwyr, ond na, hyd yma, maen nhw’n dal i ddod yn agos ond nid yn peltio mewn i’r gwydr. Diolch, Geraint!
Ac os ydach chi’n teithio heibio fy nhy i weithiau, mi fyddwch chi wedi amau bod rhywun wedi gyrru i mewn i’r wal:
Ond na, taro bargen efo fy mrawd wnes i. Roedd o angen cerrig da ac ro’n i angen lledu’r fynedfa – oedd yn hawdd gan fod rhan ohoni’n amlwg wedi ei ychwanegu ryw dro. Mae’r darn welwch chi yn fanna â cherrig syth, smart, fydd yn ddel iawn pan ddaw Ger yn ôl i orffen y job … mae o wedi dod i dorri’r coed a thwtio rhywfaint:
Edrych gymaint gwell rwan tydi? Dwi’n cael llawer iawn mwy o olau, mae’n haws troi i mewn ac allan, ac mae ymwelwyr o gyfeiriad y Bala yn llawer llai tebygol o hedfan heibio heb fy ngweld i. Ydi, mae hi’n siapio yma! Cael gwared o’r rhododendrons yna hefyd ydi’r gobaith ryw dro. Gawn ni weld.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cae o lafant, Colin, Emyr Cwmpenanner, Enlli, fuschia, gofalwr, Mair ac Alun, Porth Meudwy, Sioned, Ty newydd Aberdaron, warden, ynys
Rydan ni wedi trio ddwywaith o’r blaen i ffilmio ar Enlli, ond mae’r tywydd wedi cowlio pethau bob tro. Ond ddydd Mercher, o’r diwedd, gawson ni dywydd perffaith – Enlli amdani! Brecwast yn Nhy Newydd, Aberdaron am 5.45 ( yyyy) a dyma’r olygfa ym Mhorth Meudwy jest cyn gadael ar y cwch efo Colin:
Y môr fel darn o wydr, ylwch. Ro’n i wedi bod i Enlli o’r blaen, ond roedd rhai yn croesi am y tro cynta ac wedi cynhyrfu’n rhacs – fel Gwennan, un o’r cyfarwyddwyr …
Rwan, os na fuoch chi yno erioed, dyma’r map efo enwau pob man – ac enwau bendigedig ydyn nhw ynde?
Na, dydi hi’m yn fawr, ond mae’n ddigon hawdd bod arni drwy’r dydd – neu am wythnos, bythefnos hyd yn oed heb ddiflasu o gwbl. Mae Mam yn mynd am wythnos bob mis Medi ers blynyddoedd ac yn dod adre yn frown, yn hapus ac wedi ymlacio’n llwyr. “Eli i’r enaid” medda hi. Mi fyswn inna’n licio treulio wythnos yno – ond gewch chi’m mynd â chi yno … ond mi wnes i dreulio penwythnos hir yno cyn cael Del, pan oedd Mair ac Alun yn wardeniaid. Pleser pur. A dyma lle roedden nhw’n byw:
Mae ‘na naw ty sydd ar gael i’w rhentu, ond y warden neu’r gofalwr sy fama, ac ers chwe mlynedd, Emyr o Gwmpenanner sydd yno, ac mi welwch chi dipyn ohono fo ar y rhaglen pan gaiff hi ei darlledu – diwedd y gyfres fis Medi ryw ben. Garddwr o fri, achos doedd yr ardd ddim cweit fel hyn pan oedd Mair ac Alun yno! Cwpwl o luniau i chi – a’r ty bach ydi’r drws yn y pen draw – tai bach compost – peidiwch a disgwyl fflysh!
Dwi’n fflamio achos ches i’m llun call o Sioned, ond dyma lun da iawn gymrodd hi ohona i a Russell:
Ac mi brynon ni’n dau fuschias Enlli o’r stondin yma gan Emyr. Dwi wedi ei phlannu yng ngwaelod yr ardd yn y gobaith y gwnaiff hi dyfu’n goeden fawr i gadw fy ngwenyn yn hapus!
Mae ‘na siop grefftau ac ati drws nesa, lle mae dynes hyfryd o’r enw Carol yn nyddu a phaentio a hepu’r criw sydd ar eu gwyliau yno i wneud pob math o bethau allan o glai Enlli. Fuon ni’m yn ffilmio fanno ond ges i fodd i fyw yno! Dyma luniau oddi yno, yn cynnwys y teclyn clai sy’n berwi tecell i neud paned … gwych!
Mi allwn i sgwennu colofn hurt o hir am Enlli ( a deud y gwir, mi wnai un i’r Herald – y gwenyn sydd gen i yn hwnnw wsnos nesa!) ond jest isio rhoi blas i chi ydw i rwan. Cafwyd diwrnod hyfryd. A dwi’n meddwl bod pawb wedi syrthio mewn cariad efo’r lle. Ac allwn i’m credu faint o bobl ro’n i’n eu nabod oedd yno, boed ar wyliau nes jest am y diwrnod – y Shakespears o Bentir, Bangor, y nytars o Dalybont, Aled Jones Williams a’i wraig Sue (?), Elen o Ddolgellau yn wreiddiol a hyd yn oed Casi Wyn, fu’n sgwrsio mor ddifyr efo Gaynor Davies ar Radio Cymru bnawn Sul dwytha.
Un llun o’r olygfa o Ty Capel i orffen … nefoedd.
Ychwanegiad! Newydd gael llun da o Sioned mewn cae o lafant i neud iawn am y ffaith nad oes gen i lun ohoni ar Enlli!
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: camelia, dringwr, heuchera, Russ, Sioned, ty gwydr
Wps – dwi ar ei hôl hi efo’r blog wythnosol. Dwi wedi bod yn brysur, sori.
Wel? Dach chi’n mwynhau gweld BYYA yn ôl ar y sgrin? Eitemau digon difyr does? Roedd hi’n amlwg mod i wedi cael llond bol yn trio rhoi’r ty gwydr i fyny doedd? A dwi ddim yn hapus efo fo – gorfod rhoi gwynt ynddo fo bob wythnos, ac yn y cyfnodau poeth, braf, mae o’n llosgi bob dim yn grimp! Dim ond un planhigyn courgette sy’n dal yn fyw a does na’m golwg rhy iach ar hwnnw chwaith ( mi gafodd y parsli oedd yn yr eitem ei chwalu’n rhacs pan fu’r bali peth yn fflapian yn y gwynt …). Ydw, dwi’n gallu rheoli’r tymheredd drwy agor y drws, ond os dwi i ffwrdd yn gweithio, fedrai ddim na fedra? Ac os dwi’n ei adael ar agor drwy’r amser, be am noson fel heno pan mae hi’n mynd i rewi, meddan nhw?
Ond dwi am roi fy nhomatos ynddo fo toc beth bynnag. Maen nhw’n tyfu rêl bois yn fy ‘wet room’ o dan y ffenest velux.
Tybed oes ‘na rai ohonoch chi wedi cael trafferth efo’ch camelias eleni? Oes, mae gen i un sy’n cael diod o haearn bob hyn a hyn – yn ôl cyfarwyddiadau Carol Gerecke, ond mae gen i ddwy arall – un na welais i’r un blodyn arni tro ma, ac un arall, sydd fel arfer yn wych, ond sy’n edrych yn symol iawn bellach. Mae’r blodau wedi hen wywo ers i mi gymryd y llun yma, ond y canghennau sy’n fy mhoeni i – dydyn nhw’m yn arfer sigo felna, ac mae na un at y gwaelod sy’n edrych fel tase fo ar fin marw go iawn. Dwi’n ei dyfrio, dwi wedi bod yn rhoi ‘feed’ iddi – ond mae’n dal i edrych yn sal. Unrhyw un ag unrhyw gyngor i mi?
Hefyd, dros y gaea, heb i mi ddallt, roedd ‘na ryw ddringwr wedi tyfu’n bellach na’r hen fonyn wedi pydru ym mhen draw’r ardd ac wedi crogi coeden fach arall ( dim clem be ydi hi – blodau pinc) a dau wrych nes eu bod yn gelain, fwy na heb. Dwi wedi bod yn rhwygo a thynnu a thocio ( a bytheirio, waeth i mi gyfadde) a dyma beth o’r llanast:
Does gan y ddau wrych ddim gobaith dod yn ôl – nid yn daclus o leia, ond mae’r goeden blodau pinc yn edrych yn obeithiol. Dwi angen tynnu’r lleill allan yn y bôn ryw ben a phlannu rhywbeth arall yn eu lle nhw. Ond be?!
A phryd gai amser? Dwi wedi bod yn ffilmio yn Waunfawr ddoe – gewch chi hanes Duncan Brown a’r gwyfynnod tro nesa, yn trio rhoi cwch gwenyn at ei gilydd heddiw ( mae ‘na draethawd yn fanna…) a dwi’n mynd i Lanbedr, Harlech fory. Wedyn mae’n benwythnos gwyl y banc tydi, a’r maes carafannau’n llawn a thoiledau angen eu glanhau, a dwi’n gobeithio mynd am dro ar y beics efo ffrind arall o gaerdydd a’i chi mawr bywiog hi bnawn Sadwrn. A dwi angen sgwennu beirniadaeth ar gyfer Steddfod Wrecsam … a dyfrio’r ardd. A llnau’r ty – sy’n edrych fel tase ‘na gorwynt wedi bod drwyddo fo. A golygu straeon ac ysgrifau ar gyfer cyfrol ‘Taid-Tad-cu’ … does ‘na’m llonydd i’w gael!
Ond mi ges i amser i blannu heuchera a rhywbeth ges i gan Meryl i fyny’r ffordd ( gwraig Buck, y boi oedd yn gneud sloe gin efo fi llynedd) – dwi’m yn siwr be ydi o, nid anhebyg i deulu’r heuchera, ond dail tipyn mwy. Maen nhw’n edrych yn eitha hapus lle bu’r hebe mawr ‘na.
Wythos dwytha gymrais i’r llun yma – mae’r patshyn wedi tyfu’r hurt ers hynny – gewch chi weld llun ryw ben eto.
O, a llun bach del o Sioned, Russ a fi yng Nghaerdydd i orffen. Mae Sioned yn priodi toc – ond dwi’m yn cofio pryd. Wythnos nesa efallai? Neu’r wythnos wedyn. Efallai y gwnaiff rhywun ddeud yn gall wrthai – mae ngho i fel gogor … henaint dicini …