BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gardd Zen a Mynach Shaolin
Mai 19, 2012, 9:19 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Ia, mynach ydi hwnna, yn gwneud math o kung fu (Shaolin), a hynny yng ngardd fotaneg cenedlaethol Cymru, sydd i lawr yn y de, nid nepell oLanarthne. Do’n i rioed wedi bod hyno o’r blaen, a welais i’m llawr o’r lle chwaith!

1. Roedd hi’n tresio bwrw.

2. Roedden ni’n rhy brysur yn ffilmio’r eitem, sef  trio dallt sut fath o ardd ydi gardd Zen. Mae ‘na un yno, a dyma hi:

Gewch chi weld mwy ohoni pan fydd yr eitem ar y teledu ( dim clem pryd). Mi ddaeth yr ardd i Lanarthne nôl yn 2001 o sioe flodau Chelsea, ar ôl ennill gwobr yn, a dydi hi’m yn fawr iawn a bod yn onest. Dwi’m yn siwr pa mor fawr ydi rhai ‘zen’ go iawn, ond y syniad ydi eu bod nhw’n lefydd i synfyfyrio, lle i enaid gael llonydd; mae’n le i ddod yn un efo natur, ac i chi gael dod o hyd i chi eich hun yno. Felly does na’m ffys na ffrils, does na ddim dwr na chimes na swn adar yn canu na swn gwynt yn y coed – dydi’r goeden sy’n y llun ddim yn ‘zen’ iawn felly!

Mae’r pethau sydd i fod yno i gyd â symbolaeth, e.e. y graean wedi cribo = dwr neu gymylau, cerrig = mynyddoedd neu ynysyoedd.

Pol Wong, mynach Shaolin o Goedpoeth, Wrecsam sy’n arbenigwr mewn athroniaeth  zen ydi hwn, boi difyr tu hwnt, a fo oedd yn gorfod gneud ei kung fu yn y glaw, y creadur! Mae ei wisg o’n hyfryd tydi? Ac mae ei wylio yn mynd drwy’r symudiadau yn brofiad rhyfedd – hypnotig rhywsut. Mae kung fu Shaolin yn wahanol iawn i’r kung fu dwi wedi ei weld ar y ffilmiau, mae’n debyg i Tai Chi ond – yn wahanol! A Pol ydi’r mynach shaolin cyntaf go iawn y tu allan i China ( stori hir ond ddifyr). Ei dad o sy’n dod o China a’i fam o Wrecsam, ond roedd ei dad wedi dysgu’r hen ddull Shaolin yn ei bentref nôl yn China a’i ddysgu wedyn i’w fab. Wedyn mi fu Pol yn byw efo mynachod Shaolin yn China am sbel.Erbyn hyn, mae o’n athro kung fu yn Wrecsam – ac yn rhoi gwersi uniaith Gymraeg! Mae ei stori yn haeddu rhaglen gyfan iddo’i hun a deud y gwir. Efallai y caiff rhywun gomisiwn i fynd yn ôl i’r deml Shaolin efo fo cyn bo hir – cyn i’r Llwyodraeth newid y lle’n llwyr  – ac os wnawn nhw roi caniatad i ffilmio yno wrth gwrs. Ond mi fysa’n werth trio!

Ges i gyfle i weld ambell beth bach arall yn y gerddi, fel yr arddangosfa gan Judith Stroud o luniau yn ymwneud â Meddygon Myddfai:

Difyr tu hwnt – a jest y peth os ydi hi’n glawio! Hefyd, roedd na ddarnau o gelf hyfryd wrth ymyl y siop:

Sut i ddod â bywyd newydd i hen lestri wedi torri! Mae gen i lwythi acw erbyn meddwl …

Ac yn ddiweddarach, yn Abertawe, nes i ddotio at y gwely blodau yma: O na fedrwn i blannu efo’r fath weledigaeth o ran lliw …

Gyda llaw, dyma fy ngor-nith a fy ngor- nai Cadi a Caio efo’u mam a’u chwech nain – ydi hyn yn record?! Sgen rywun arall chwech nain yn dal yn fyw?!