BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Dechrau ffilmio
Mai 5, 2013, 5:10 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , ,

Dwi wedi gwneud diwrnod o ffilmio o’r diwedd! Ddydd Gwener oedd hi, ym Mhenygroes, ac yn ardal Dyffryn Nantlle y bydd 6 rhaglen o’r gyfres nesa o Byw yn yr Ardd, sef y rhaglenni y bydda i a Russell yn eu gwneud. Mi wna i egluro pam mewn blog arall, ond yn y bôn, ceisio perswadio, annog a helpu pobl yr ardal i dyfu eu bwyd eu hunain fyddwn ni.

Mynd o gwmpas y dre yn cnocio drysau i weld pwy fyddai â diddordeb oedden ni. Yn anffodus, chydig iawn o bobl Penygroes oedd adre ar ddydd Gwener … ond mi ddaethon ni o hyd i rai, peidiwch a phoeni!

IMG_2570 Ac os oeddech chi’n pasio drwy Benygroes ddydd Gwener, mae’n bosib y byddwch chi wedi gweld Russ ar feic tair olwyn a finnau’n eistedd yn gweiddi/gwichian/gwingo ar y cefn. Mi rois i gynnig ar bedlo’r beic hefyd, ond iechyd, roedd angen ymarfer. Dydi o’m byd tebyg i feic dwy olwyn a do’n i jest methu gneud i’r blwmin peth droi i’r chwith. Ond mae Russ wedi bod yn ymarfer ac yn mynd rêl boi arno. Chwarae teg, dim ond 3 gêr sydd ar y peth!

Wele lun ohonon ni ar ganol ffilmio – o, ac oedd, roedd gen i fegaffôn/uchelseinydd/ be bynnag dach chi’n eu galw nhw. Gewch chi weld pam pan gaiff y gyfres ei darlledu fis Medi.

IMG_2573
Nefi, dwi newydd sylweddoli mod i wedi pesgi. Bydd raid torri’r carbs eto mwn. Ho hym.
A dyma i chi luniau o ngardd i heddiw:image

image

image

image

image
Yr Honesty wedi tyfu dros nos, rhyw gennin pedr hwyr nad oes gen i syniad pam eu bod nhw gymaint hwyrach na’r lleill, a’r un ola ma – dim clem be di’r enw ond mae’n tyfu o wreiddiau mawr tew, digon hyll, yn cael blodau sydd fel madarch i gychwyn, wedyn yn blodeuo’n fawr ac yn binc a phan ddaw’r dail, mae’r rheiny bron fel riwbob. Rois i gwpwl o ddarnau o’r gwreiddiau i ferched Rehoboth. Difyr fyddai cael gwybod ymhen blwyddyn neu ddwy sut siap sydd arnyn nhw. Mynd i fynd a peth i fy chwaer a fy nith heddiw. Mae gan y nith ddwylo gwyrdd. Ddim yn siwr am y chwaer eto – dyddie cynnar …