BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gardd Bryngwern ar agor Gorff 7fed
Mehefin 4, 2013, 10:53 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Ydach chi’n cofio ni’n mynd i ardd Bryngwern, jest y tu ôl i mi ( led cae neu ddau) dair blynedd yn ôl? Fel hyn oedd o’n edrych bryd hynny:
DSC_0074DSC_0066DSC_0103Mae’n ran o gynllun yr NGS, ond pan oedd o ar agor yn swyddogol yn gynharach eleni, mi fu’n tresio bwrw, bechod. Ond na phoener! Fel rhan o syniadau Rhydymain i godi pres at Eisteddfod Meirion 2014, mi fydd ar agor eto rhwng 2 a 5 y pnawn ar bnawn Sul, Gorffennaf y 7fed. Mynediad yn £3 i oedolion ond mae plant yn cael dod mewn am ddim – dim ond y bydd ‘na gemau fydd yn 50c y tro … a rasys rhedeg ac ati yn y cae cyfagos.

Te a sgons arbennig Hilary, y perchennog ar gael hefyd ( dyma hi fan hyn, efo ci bach sydd ddim efo ni bellach yn anffodus, mae ei fedd yn yr ardd, ond mae hi wedi cael ci bach arall, Ozzy sydd bron yr un sbit).
DSC_0070Ac mi fydd stondin gacennau hefyd, cacennau wedi eu gwneud gan gogyddesau dawnus y fro. A fi. ha.

Os dach chi am ddod, mi fydd ‘na arwyddion ar y ffordd rhwng Bala a Dolgellau ( A494). Mae’n agos at Rhydymain, ond os dach chi’n pasio Bontnewydd o gyfeiriad y Bala ( a Rhydymain o gyfeiriad Dolgellau), dach chi wedi mynd yn rhy bell.

Ac mae’r ardd yn edrych yn anhygoel eleni, ac erbyn Gorffennaf mi fydd y clematis ac ati i gyd allan. Dewch yn llu!



Beryl Tanybryn, Bontddu
Mai 2, 2012, 10:47 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , ,

Ges i ddiwrnod hyfryd yng ngardd ‘Anti’ ( dim perthynas) Beryl ddoe. Mi fydd ei gardd ar agor i’r cyhoedd drwy gynllun yr NGS ddydd Sul:

Ac er fod y rhan fwya o’r magnolias wedi darfod, mae’r azaleas yn sicr yn werth eu gweld – a chymaint o bethau eraill hefyd. Mwy o luniau i chi: A llechi o Fryncrug a Chorris – ardal ei theulu: A llwythi o bethau bach od a difyr mae’n eu cael yn anrhegion gan wyrion a ffrindiau: A phethau mae’n eu prynu ei hun:

Mae hi a’i ffrindiau yn cyfadde eu bod yn gwario ffortiwn mewn canolfannau garddio!

A sbiwch, difyr, wyddwn i rioed o’r blaen bod gan y ‘Bleeding heart’ ddau enw arall. Dyma i chi’r blodyn siap calon wedi agor chydig i neud ‘trowsus Dutchman’:

A dyma’r ‘Ddynes mewn bath’: Tydi o’n wych?! Ond dwi’n ei weld o’n debyg i ‘alien’ o’r gofod hefyd, fy hun.

Ges i ddarn o blanhigyn ro’n i’n ei ffansio ganddi – ac wedi ei blannu wrth y ffrwd neithiwr. Dyma lun ohono fo: ond dwi’m yn cofio’r enw – rwbath yn dechre efo ‘r’ – swnio’n debyg i rouge-rywbeth? Rhywun yn gallu fy helpu?

Ond mae Beryl ( cyn athrawes gynradd Dolgellau) yn gallu troi ei llaw at fwy na blodau. Welwch chi mo’r rhain ar y rhaglen, ond falle y cewch chi weld peth o’i gwaith llaw os ewch chi draw ddydd Sul ( hi sy’n y gardigan las gyda llaw): Mae na oriau o waith yn mynd mewn i’r pethau ma – gwaith cywrain, bobol bach. Roedd Gwennan, ein cyfarwyddwraig, sydd wedi mopio efo’r Nadolig o hyd, jest a drysu isio eu prynu! Yn enwedig y St Nicholas/Sion Corn na …

Dim rhyfedd bod Beryl yn ennill o hyd yn yr adran gwaith llaw yn Sioe Rhydymain. Mae’n haeddu clod am fod yn hostess heb ei hail hefyd – gawson ni ginio a phwdin a chacenni lu ganddi! Dydi hynna’m yn digwydd i ni’n aml … pobl Abergynolwyn de – hen bobl iawn. Diolch Beryl! Pob lwc ddydd Sul a gobeithio y daw pobl yn eu cannoedd.

A sôn am Sioe Rhydymain ( Awst 27) – dwi newydd lwyddo i berswadio Sioned BYYA i feirniadu’r blodau! Ieeee! Dim ond isio rhywun i wneud y llysiau rwan – a nacdw, dwi ddim yn mynd i ofyn i Russell – dydi o’m yn gyrru a dwi’m yn pasa mynd i’w nôl o!



Y gwenyn – a’r mêl!
Awst 12, 2011, 10:17 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , ,

Drapia’r glaw yma. Roedden ni fod i ffilmio mewn dwy ardd NGS ddydd Iau ond bu’n rhaid gohirio. Ond ro’n i wedi mynd i weld y ddwy – Tyn Twll, Llanfachreth a gardd ‘Anti’ Beryl ( dydi hi’m yn fodryb i mi, ond mae hi’n nabod Cadi FFlur yn dda) yn Bontddu a dan ni’n siwr o ffilmio yno eto – maen nhw’n werth eu gweld, dwi’n addo. A sôn am NGS, mae Bryngwern ( lle fuon ni’n ffilmio llynedd) ar agor dydd Sul yma, ond mae’r perchennog, Hilary Nurse yn flin fel tincar am fod y glaw wedi chwalu bob dim! Hefyd, mae pob dim yn gynharach nag arfer tydi, felly mae ei hoff flodau wedi darfod yn barod. Ond mi fydd yn werth mynd yno run fath – ar ffordd Dolgellau-Bala – ac maen nhw’n addo tywydd gwell at ddydd Sul.

Bechod am ddydd Sadwrn – sef fory. Addo cawodydd maen nhw a dyna pryd mae Sioe Fach y Patsh. Croesi bysedd mai dim ond cymylau gawn ni. Ac mae gen i ryw hen beswch annifyr wedi codi – a’r hen boen ‘na yn yr ysgwyddau sy’n arwydd bod annwyd/ffliw ar y ffordd. Dim ond gweddio y bydd y garglo halen yn gweithio ac y bydd gen i lais ac egni fory …

Ond, er gwaetha’r tywydd, llwyddwyd i wneud diwrnod da o ffilmio ddydd Mercher, fan hyn, yn Ffrwd y Gwyllt. Gewch chi weld sut siap sydd ar fy nhy gwydr ( dal i gadw’r un ciwcymbar fawr at Sioe Rhydymain), y gornel gysgodol lle driodd Carol a finne roi mwy o liw ynddi, hanes y camerau adar – a’r gwenyn. Y diwrnod cyn i’r criw gyrraedd, roedd Carys Tractors wedi galw efo siwtiau ar eu cyfer. A dyma fanteisio ar fynd i weld fy ngwenyn gan ei bod hi’n braf.

Ym … pan dynnon ni’r caead, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ddim cweit fel y dylai fod:

Dach chi’n gweld y crwybr ( honeycomb) drwy’r tyllau? Dydyn nhw ddim i fod fanna. Wedi tynnu hwnna, sbiwch llanast:‘Bad beekeeping’ yn barod! Ro’n i wedi bod yn rhy araf yn gneud a gosod fframiau ychwanegol i lenwi’r bocs, felly roedd fy ngwenyn prysur wedi dechrau llenwi’r bwlch eu hunain … wps. Bu’n rhaid tynnu’r cwbl oddi  yna a’i roi mewn bwced … ac mi wnes i fframiau newydd yn o handi!

Dyma sut roedd y bocs i fod i edrych:

A sbiwch ffram dda sydd gen i’n y canol – llwyth o fêl ar honna! Nôl â ni i’r ty wedyn, a rhoi’r crwybr mewn sosban oddi mewn sosban arall yn llawn dwr poeth: Gan fanteisio ar flasu peth ohono fo cyn ei doddi yn gynta …

ew, melys. Ond dydi’r mêl yma ddim wedi cael cyfle i aeddfedu felly neith o’m cadw’n hir iawn. Mae o’n ffresh, ydi, efo blas ysgafn, ffresh, ond ffermentio neith o yn ôl Carys.

Yn ara bach, dyma’r stwff yn toddi … Nes ei fod yn edrych fel cawl minestrone. Y paill ydi’r darnau bach coch ac oren, gyda llaw. Wedi gadael iddo oeri, roedd y wax wedi caledu ar y top, ac wedi hidlo’r mêl drwy fwslin, ges i 4 jar o fêl! Es i â un i Nain ac un i fy rhieni, ac mi gaiff fy chwaer y llall. Mae hi i fod i alw heddiw ryw ben – efo Cadi Fflur gobeithio. Mae Caio chydig yn rhy ifanc i werthfawrogi mêl dwi’n meddwl.

Dwi angen bocs ‘super’ arall rwan am fod fy nghwch yn datblygu mor gryf, mor sydyn – a bydd angen 11 ffrâm arall yn barod pan ddaw hi! A chwch cyfan arall yn o handi wedi hynny – mae’r gwenyn yn amlwg yn licio’u lle yma ac yn cael hen ddigon o fwyd yn fy ngardd i. Gewch chi eu gweld nhw eto toc – a finna efo nhw, yn edrych dipyn llai, gobeithio – es i ar ddeiet ar ôl gweld y siap oedd arna i …



Bwlch y Geuffordd
Mehefin 5, 2011, 1:44 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Jim a Gay Acers ydi’r ddau yma, a nhw yw perchnogion un o’r gerddi hyfryta i mi ei gweld eto! Bwlch y Geuffordd ydi’r enw, mewn man anghysbell iawn yn ochrau Bronant, rhwng Aberystwyth a Thregaron. Mae’n rhan o gynllun yr NGS felly os gewch chi gyfle i fynd yno, cerwch da chi.

Y peth rhyfedda am y lle ydi eu bod wedi creu gardd eden o fewn cors. Wir yr, mae’r tir yn fanna yn erchyll. A be wnaethon nhw ond plannu llwyth o goed rownd yr ochrau yn gynta, i sychu rhywfaint ar y lle. Ond fel y gwelwch chi o faint y dail yma, mae hi’n dal yn o damp yno!

Ond dim ond angen gwneud twll sydd er mwyn creu pwll neu lyn o fewn dim – maen nhw jest yn llenwi’n naturiol. Felly mae na ddigonedd o byllau a nentydd yno, yn llawn planhigion o bob math.

Ond mae na fwy na pyllau yma. Yr ardd Siapaneiadd welwch chi uchod – wel, rhan ohoni, ond mae na ardd y Canoldir hefyd, a hyd yn oed gardd Affricanaidd, efo cwt mwd hyfryd!

Gymaint delach na fy siec -eco i tydi? Ond saer coed oedd Jim cyn ymddeol felly mae pob dim wedi ei wneud yn DDA. Sbiwch ar y fainc tu mewn i’r cwt, a poteli ydi’r pethau gwyrdd yn y ffenestri.

A dwi’n cynnwys llun agosach o’r ffenestri o’r tu allan i chi gael gweld. Syniad gwych, ac ailgylchu efo steil ynde.

Er mai ffisiotherapydd ydi Gay, mae hi’n amlwg yn artist hefyd gan mai hi sydd wedi gneud y rhan fwya o’r cerfluniau sydd ar hyd y lle.

Ond mae Jim yn artistig hefyd a fo nath hwn efo llewpart ar ei ben. Ond y piece de resistance ydi’r aderyn anhygoel wnaeth y ddau a’u merch allan o hen danciau dwr a mwy o boteli a marblis, er cof am ferch arall fu farw’n ifanc iawn. Dyma i chi luniau o wahanol onglau. Do, mi wnes i gymryd llwyth o luniau – methu peidio!

Ac i orffen, mwy o luniau o wahanol rannau o’r ardd. Do, mi gafodd Del ddod tro ma hefyd, am fod yr ardd wedi hen arfer efo cwn. Ond ffoniwch mlaen llaw i weld os ydyn nhw’n hapus i chi fynd a’ch ci chi yno hefyd.

01974 251559

Mwynhewch! Mi wnes i.