BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Nain ac amrywiol flodau eraill
Gorffennaf 11, 2013, 1:26 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

image

imageimageimage

imageimage

Fy nain ydi hon, Annie Meirion Evans, fu farw fore Sul. Ei gor- or wyres, Cadi Fflur sy’n ei breichiau, ond mae honno’n 5 neu 6 rwan, a chanddi frawd bach, Caio. Ac mae na un arall yn cyrraedd wythnos nesa.Delwedd
Ond chaiff Nain mo’i weld o neu hi rwan, bechod. Mae na ddywediad mae’n debyg, am draed mawr yn symud ar gyfer traed bach. Rhywbeth fel yna, rhowch wybod os ydach chi’n gallu rhoi’r dywediad yn gywir i mi. Rhywbeth am rywun hen yn ein gadael, a bywyd bach newydd yn cyrraedd.
Beth bynnag, roedd Nain yn hoffi iawn o flodau, yn enwedig rhai pinc. Ond roedd hi’n credu’n gryf bod rhai gwyn yn anlwcus yn y ty. Hen goel bod rhywun yn mynd i farw, am wn i.
Mi fysa hi wrth ei bodd efo’r blodau sydd wedi agor yn fy ngardd i yn sgil y tywydd braf yma. Dyma i chi gwpwl o luniau os wnaiff y bali WordPress ma fihafio …image
Ac mae’r lluniau hynny newydd fynd i dop y bali blog rwan yndo. Iechyd, mae isio amynedd.
Efallai mai’r ipad ydi o. Ddim yn gallu gweithio’n iawn pan mae hi’n boeth.
Ta waeth, wele lun o fadarch brynes i, a fanna dwi wedi penderfynu ei roi o. Peidiwch a chymryd sylw o’r beipen werdd, di mond yna oherwydd y diffyg glaw dros dro.
image

A rwan dwi’n gweld bod ambell llun wedi penderfynu ymddangos ddwywaith… aaaaa!
Dwi byth wedi llwytho lluniau gardd Debbie ac Eifion chwaith. Maen nhw mewn rhyw gamera arall yn rhywle. A fory, rydan ni’nmynd yn ol i ffilmio yno! Wps… Gewch chi’r before & after yr un pryd…



Syniad am anrheg i arddwyr
Chwefror 1, 2012, 7:47 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , ,

Chwefror yn barod?! Mae 2012 yn rasio heibio myn coblyn. Mi fues i’n tacluso a thocio dros y penwythnos, jest cyn iddi rewi. Siapio chydig ar goediach a gwrychoedd, fel eu bod nhw’n tyfu’n well pan ddaw’r gwanwyn. Mae’r bin brown yn orlawn, y bin compost yn llawn at yr ymylon a llwyth o stwffiach yn pydru mewn pentwr yn y gornel bellaf ( rhyw fath o domen gompost sy’n sicr yn gweithio gan fod gen i chwyn ffantastic yn tyfu yno).

A sôn am chwyn, tydi’r llun uchod yn grêt? Anrheg bach Cymraeg, difyr ar gyfer y dynion yn eich bywyd sy’n garddio – neu o leia’n rhoi cynnig arni. Fan hyn maen nhw ar gael:

http://www.adrahome.com/index.php?main_page=product_info&products_id=575&language=cy

Cyfle i chi gefnogi cwmni Cymraeg. Ydw i’n cael hysbysebu ar hwn dwch? Dwi’m yn gweld pam lai a dwi’n meddwl ei bod hi’n ddyletswydd arnai i roi sylw i gynnyrch Cymraeg o Gymru. Dach chi’n cytuno? Cofiwch chi, dydi’r llechi bach yma’n dda i ddim i mi gan nad oes gen i unrhyw ddyn yn fy nheulu sy’n garddio. Roedd Taid Frongoch, tad fy mam, yn tyfu llysiau yn arbennig o lwyddiannus, ond mae o wedi’n gadael ers blynyddoedd rwan, fel y taid arall, Taid Gronant, ond doedd o’m yn trafferthu efo llysiau o gwbl mae’n debyg. Nain oedd yr un oedd yn hoffi blodau ond er ei bod hi’n rhyfeddol am 96 ac yn dal i fyw ar ei phen ei hun ( dyma hi efo Del), dydi hi’m yn gallu garddio ryw lawer rwan. Fi sy’n gneud hynny iddi, fwya. Jest plannu pethau mewn potiau a chadw trefn ar y rhosod a’r chwyn. Mae hi wrth ei bodd efo lliw o gwmpas y lle,  a gawson ni flwyddyn dda yn 2011, chwarae teg.

Mae Mam yn garddio’r mymryn lleia ( ond fi sy’n tocio’r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd. Ond mae’n un da am godi waliau, chwarae teg. Y ddawn yn dod yn handi acw weithie!

Rhywbeth arall sydd ar werth ar wefan ‘Adra’ ydi hwn:

Mae gen i bot neu ddau fel yna fy hun a dwi wrth fy modd efo nhw. A rhag ofn nad ydw i i fod i hysbysebu un cwmni yn ormodol, maen nhw ar gael hefyd ( neu mi roedden nhw llynedd …)  yn y farchnad ar sgwâr Dolgellau sy’n cael ei chynnal ar fore Sul unwaith bob mis. Braidd yn drwm i’w postio hefyd, ddeudwn i. Ond mae o i fyny i chi! Roedd na rai yn ‘Spectrum’ Machynlleth ar un adeg hefyd.

Er mod i wedi bod yn tacluso, mae arna i ofn bod y ty gwydr ‘chwythu i fyny’ yn dal yn grempog ar y gwair. Dwi’m wedi sbio ar y bali peth. Mi wnai drio ei chwythu i fyny eto pan gai’r amser a’r awydd, jest i weld faint o byncjars sydd ynddo fo. Ac ydw i’n mynd i drio eu trwsio? Ym … gawn ni weld.

O ia, ges i goblyn o hwyl yn sgwrsio efo Gaynor Davies ( nid Gaenor ydi hi naci? Naci, siwr mai Gaynor ydi hi) ar Radio Cymru bnawn Sul. Ro’n i’n cael dewis tair cân a malu awyr am hir rhyngddyn nhw – pleser pur. Os ydach chi isio gwybod sut fath o falu wnes i, mi fydd i’w glywed ar yr iplayer ar wefan radio Cymru am ryw bythefnos, dwi’n meddwl. Dwi’n mwynhau’r radio fel cyfrwng. Cymaint mwy o ryddid na sydd ar deledu – am ei fod o gymaint rhatach, felly llai o bwysau i fod yn fyr a chryno.

Yn darllen ‘When God was a rabbit’ rwan – hwnnw’n bleser pur hefyd.



Dechrau eto
Ionawr 9, 2011, 4:37 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

Heddiw oedd y tro cynta i mi weithio yn yr ardd. Dod hyd i fenyg oedd y dasg gynta (mae’n rhaid i mi gael trefn yn y sied na, mae o’n ôl yn fler ac orlawn fel y sied wreiddiol) ond wedi dod o hyd i bâr o rai ‘heavy duty’, mi fues i’n brysur yn tynnu a thorri y deiliach sydd wedi hen farw. Mae fy wheely bin brown bellach yn orlawn ac yn pwyso tunnell, mae fy min compost plastig yn gwegian ac mae’r pentwr o lanast ( sydd i fod yn domen gompost o ryw fath) yn gorlifo hefyd – a dim ond chwarter yr ardd wnes i.

Mi fues i hefyd yn trio hel algae allan o’r pwll. Ydi, er gwaetha’r ffaith iddo rewi’n gorn am o leia wythnos – falle pythefnos, dwi’m yn siwr – wnes i’m sbio – mae’r bali stwff gwyrdd afiach na’n dal yno. Dyma lun o Robin a fi’n sefyll ynghanol y pwll i brofi ei fod o wedi rhewi’n solat:

Ro’n i wedi gwirio ( checkio) ei fod o’n ddiogel yn gynta wrth gwrs. Mi fysa Robin wedi torri ei galon tasen ni wedi disgyn drwodd a gwlychu’r camera gafodd o gan Siôn Corn. Mae o wedi bod fel Japanî bach ( dydi hynna ddim yn hiliol nacdi?) o gwmpas y lle yn tynnu pawb a phopeth.

Ond ia, y blydi algae na – ydw, dwi’n rhegi – felna dwi’n teimlo! Mi wnes i drio rhoi’r parseli bychain o wellt barlys ( barley straw) ynddo fo llynedd a’r flwyddyn cynt ond yn ofer. Beryg mod i angen anferth o big bêl neu rywbeth. Hefyd, mae’r dwr wedi stopio lllifo drwy’r beipen o fy hen danc dwr. Es i i sbio be oedd, ac roedd y bali peth yn llawn llaid… fues i wrthi’n ei wagio ( un hanner) fel bod y beipen yn glir ond doedd na’m byd ond dod drwodd wedyn. Unrhyw syniadau? Mae’r beipen yn llawer rhy hir i wthio bechingalw – peips tenau sy’n slotio i’w gilydd i fyny’r bali peth. Methu cofio be ydi’r enw ond mae na rai yn y sied  – yn rhywle. Dwi’n meddwl.

Anrhegion Nadolig rois i fy Nain a Mam oedd pethau bwydo adar sy’n glynu i’r ffenest. Rhai sgwar o’r RSPB oedd rheiny, ond un posh, del sydd gen i:

Mae’r adar yn tyrru ato fo, ond mae’n boen trio cael yr hadau i mewn am fod y slot mor fach. Taswn i’n prynu un arall, mynd am yr un sgwar o’r RSPB fyddwn i – lot haws. Ond ddim mor steilish…

Mae Mam wrth ei bodd efo’i un hi ( llwythi o adar yn Nolgamedd ynghanol y coed) ond dydi adar Dolgellau ddim wedi darganfod un Nain eto. Dwi am drio hongian ‘fat ball’ oddi ar ei lein ddillad hi pan ai yno wythnos nesa i’w denu. Am fod Nain yn 95 a methu symud o’r ty yn aml, mae’n treulio oriau meithion yn ei chadair wrth y ffenest ac ro’n i’n meddwl y byddai hi wrth ei bodd yn gwylio ambell ditw tomos yn agos, agos. Ond mae titws Dolgellau yn dwp – hyd yma!

O, ac yn sgil ymateb i’r blog dwytha, dwi am drio tagio am y tro cynta – dim clem os dwi’n ei neud o’n iawn, ond yn rhoi cynnig arni…