Filed under: Heb Gategori | Tagiau: ci rhech, giblets, mins peis, Nadoligaidd, Noni, radio Cymru, saws bara, twrci
Fydda i ddim yn gyrru cardiau drwy’r post, dim ond yn gyrru ebost efo llun Nadoligadd.
Ond fel y gwelwch chi, doedd Del ddim yn rhy hapus i helpu eleni. Wel, ro’n i wedi trio ei chael hi i bôsio mewn het ar gyfer ci – ond un ar gyfer cwn rhech oedd o dwi’n meddwl – braidd yn fach iddi. Felly dyma roi yr un yma arni, ond nagoedd, doedd hi ddim yn hapus. Ta ta llun artistig efo coeden Dolig yn sgleinio yn y cefndir. O wel.
Dwi newydd wneud mwy o fins peis gan fod y rhai wnes i bythefnos yn ôl wedi diflannu rhywsut, a dwi newydd fod yn stwnsio pupur a halen a saets a chydig o garlleg i mewn i fenyn – fydd yn cael ei stwffio o dan groen y twrci toc. O, ac mae’r llaeth efo’r nionyn & cloves wrthi’n mwydo ar gyfer y saws bara, ac mae’r giblets yn mudferwi ar gyfer stoc y grefi. Ond wnaiff y twrci ddim ffitio yn y tun rhostio sydd gen i – ond diawch, mi roedd o llynedd, dwi’n siwr. Twrci o’r un maint dwi’n meddwl – 15 lb. Mi aiff i mewn ar binsh, dim ond i mi ofalu fod y saim o’r pen ôl yn llifo o dan y ffoil ac nid ar hyd llawr fy mhopdy i. Gas gen i lanhau popdy!
Beth bynnag, ydi, mae popeth yn barod at fory, mae Nain wedi dod adre o’r sbyty ac mi fydd hi a Noni ( fy modryb o LA) yn dod aton ni i ginio. Mwynhewch eich Dolig chithe a pheidiwch a gadael i’r glaw ‘ma ddifetha pethe!
O, a chofiwch wrando ar Radio Cymru tra’n paratoi yn y gegin bore fory … mi gewch chi brofiadau cerddorol rhyfeddol.
Bethan XX