BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Kensington a Caio
Mehefin 11, 2011, 11:00 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , ,

Blog sydyn cyn mynd i weld fy ngor-nai ( great nephew?!) newydd, Caio Gwilym. Llongyfarchiadau i Leah a Gareth, y rhieni, a gobeithio y gwnaiff o dyfu i fod â bysedd gwyrddion ac i chwarae rygbi i Gymru!

Dwi am ddefnyddio chydig o ‘r golofn Herald sgwennais i ( ail-gylchu – pam lai?) felly dyma hanes fy nhrip diweddar i Lundain:

Mi fues i yn Llundain yn ystod y gwres mawr ’na. Felly efallai mai dyna pam wnes i ddrysu. Ro’n i’n gwybod bod y gwesty yn Russell Square ac nad ydi fan’no’n bell o Euston. Mi fyswn i wedi gallu cerdded a llusgo nghês y tu ôl i mi, ond ro’n i ar frys (cwta hanner awr i bicio i’r gwesty ac yna mlaen i Baker Street i weld sioe efo Paul Griffiths) felly nes i holi os oedd ’na fws yn pasio Russell Square. Oedd tad, rhif 91. Mi nath y ddynes ddeud bod angen chwilio am eglwys erbyn cofio, ond mi welais i fws efo rhif 91 arno fo a neidio mlaen yndo.

Chwarter awr yn ddiweddarach, ro’n i’n gwaredu at y traffic a’r holl oedi wrth oleuadau ond ro’n i’n dal yn weddol hapus yn pasio llefydd fel King’s Cross. Doedd fan’no ddim yn bell o Russell Square, mae’n siwr mai gwneud rhyw gylch bach oedd y bws.

Sbel yn ddiweddarach, a finnau’n teimlo mod i mewn gêm Monopoly yn pasio llefydd fel carchar Pentonville, ro’n i’n gwybod bod rhywbeth mawr o’i le. Ond roedd y bws yn orlawn a doedd y dyn tywyll oedd yn fy wynebu unai ddim yn deall fy acen neu jest ddim yn deall be oedd y broblem. Oedd, roedd y bws yn mynd i basio Russell Square – ond dim ond ar ôl mynd i Crouch End. Be?!

Roedd ei hogyn bach yn teimlo drosta i ac yn estyn ei fanana i mi, un slwtshlyd oedd wedi bod yn ei geg o ers Euston. Plis paid a cholli hwnna dros fy nillad i … Yn y diwedd, mi ddalltodd y dyn mod i’n dechre panicio a dweud y dylwn i fynd oddi ar y bws, croesi’r ffordd a dal bws 91 y ffordd arall …

Wedi ffonio Paul, dyma redeg am y gwesty, gollwng fy mag, chwistrellu chydig o stwff lladd chwys a rhedeg yn ôl am y tiwb drwy’r torfeydd am Baker Street lle roedd Paul druan yn dal i ddisgwyl amdana i. Chwerthin nath o ond dwi’n siwr ei fod o isio ’nghrogi i.

Brysio am y theatr awyr agored yn Regent’s Park, a llwyddo i fynd i mewn er ein bod ni wedi colli’r dechrau. Fues i rioed mor falch o gael eistedd. Ond ro’n i wedi anghofio am boen y cymalau o fewn dim. Addasiad o nofel ‘Lord of The Flies’ William Golding oedd y ddrama, a’r cast i gyd yn hogia ifanc. A nefi, roedden nhw’n dda, o ran actio, cwffio, dringo, bob dim. Dwi’n cofio gweld y ffilm du a gwyn yn yr ysgol, ac mae’r sioc ges i bryd hynny yn dal yn fyw. Efallai na wnes i ddychryn cymaint tro ’ma (gwybod be oedd yn mynd i ddigwydd do’n) ond roedd o’n dal yn brofiad. Roedd y llwyfannu’n wych: gweddillion awyren ynghanol y coed, cêsus a’u cynnwys ar hyd y ‘traeth’ ac yn crogi o ganghennau. Ac erbyn yr ail hanner, roedd hi wedi nosi a’r fflamau a’r gweiddi gymaint mwy effeithiol o’r herwydd. Do’n i methu peidio a meddwl pam na fedrwn ni gael theatr awyr agored yng Nghymru hefyd, nes i mi gofio ei bod hi’n glawio dipyn llai yn Llundain. Ac ydi, mae’r sioe yn mynd yn ei blaen hyd yn oed yn y glaw.

Roedden ni’n dau’n ysu am ddiod ar ôl hynna, felly dyma fynd i’r dafarn gynta welson ni ac eistedd wrth yr unig fwrdd lle roedd ’na le i ni. Yn sydyn, dyma Paul yn sbio’n hurt ar y dyn wrth fy ochr i, a gofyn: ‘Ym … ddim tad Ifor ap Glyn ydach chi?’ Ia, cofiwch. O’r holl dafarndai yn Llundain …!A dyma’r prawf i chi. Digon tebyg i’w fab tydi?

Fel mae’n digwydd, Ifor ydi un o fosys Cwmni Da, y cwmni sy’n gyfrifol am ‘Byw yn yr Ardd’, ac wedi mynd i Lundain i ffilmio ro’n i. Felly drannoeth, ges i ddiwrnod difyr mewn amgueddfa erddi yn Lambeth ( mwy am hwnnw tro nesa), a’r diwrnod canlynol, diwrnod difyrrach fyth yn yr ardd ar ben to rhif 99, Kensington High Street.

Dyma’r ardd ‘do’ fwya yn Ewrop, gafodd ei chynllunio nôl yn y 1930au gan Gymro o Gaerdydd – Ralph Hancock! Richard Branson pia hi bellach, ond weles i mo’no fo. Ond mi welais i’r flamingos sy’n byw yn yr ardd: Ro’n i wedi meddwl mai rhai ffug oedden nhw a bod yn onest, ond wir yr, rhai go iawn ydyn nhw, a’u hadennydd wedi eu clipio fel na fedran nhw hedfan i ffwrdd. Ro’n i wedi gwirioni, fel sy’n amlwg yn y llun yma – fflamingo ydi’r blob pinc yn y cefndir.Ac mi brynais i’r top yna y diwrnod cynt yn Covent Garden – roedd y dillad oedd gen i yn llawer rhy gynnes yn y gwres llethol ‘na. Dyma i chi fwy o luniau, yn cynnwys yr ardd Sbaeneg ( efo fflag Virgin yn cyhwfan), y stafell ‘Moroccan’ a’r riwbob sy’n tyfu ar y balconi wrth y ty bwyta ( crand iawn) ar y top.Mae hi’n ardd rhyfeddol o fawr, efo bron i gant o wahanol fathau o goed, sy’n tyfu mewn dim ond 18 modfedd o bridd! Maen nhw’n llogi’r lle ar gyfer partion, ac roedd Branson ei hun yn mynd i gael un yno toc, i ddathlu’r ffaith ei fod yn berchen ar y lle ers 30 mlynedd. Parti 80au dwi’n meddwl, efo roller disco a bob dim.

Mi wnes i wir fwynhau ein diwrnod ar ben y to, ac roedd David, y garddwr, un o’r garddwyr clenia i mi ei gyfarfod erioed. Bonheddwr go iawn, efo un o’r swyddi garddio gorau yn y byd – fo sydd yng ngofal yr ardd arall sy pia  Branson ym Morocco hefyd!

A dyma lun i chi gael cymharu gardd do Kensington efo fy ngardd do i ( bw hw):

Iawn, mynd i weld Caio rwan …