BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Mwy o wenyn
Mehefin 11, 2012, 4:59 pm
Filed under: Heb ei Gategoreiddio | Tagiau: , , , , , , , , , ,

Wedi bod braidd yn brysur yn ddiweddar, rhwng sgwennu nofel ar gyfer yr arddegau, chwynnu ( rhywfaint), lladd malwod, gweithio yn ein maes carafannau ( oedd fel ffair dros y gwyliau ond sydd fel y bedd rwan), a beicio i Steddfod yr Urdd efo Merched y Wawr. Hanes hynny yn yr Herald ddydd Mercher, a dyma lun o’r ddwy fues i’n beicio efo nhw ar y dydd Sul: A’r criw i gyd wedi cyrraedd Glynllifon ar y dydd Llun:

Ond dwi wedi bod yn brysur efo’r gwenyn hefyd. Yn un peth, mae gwenyn diarth wedi bod yn ymosod ar fy nghwch i! Ga drapia nhw. Roedden nhw wrthi eto pnawn ma felly dwi wedi gneud y fynedfa’n llai i ngwenyn druan i fedru amddiffyn y lle’n haws. A myn coblyn, roedd fy mhortsh i’n llawn gwenyn am sbel pnawn ma – methu dallt pam nes i mi gamu tu allan a gweld eu bod nhw’n hofran o gwmpas twll yn nho y portsh. Dwi’m yn siwr ai fy ngwenyn i ai’r gwenyn diarth oedden nhw, ond maen nhw wedi rhoi’r gorau iddi rwan. Roedd ‘na ddwy wenynen arall wedi landio’n y portsh erbyn i mi ddod nôl o fynd am dro ar y beic, ond roedden nhw wedi blino’n rhacs, ac er i mi eu rhoi ar goeden mewn pot tu allan tua hanner awr yn ôl, maen nhw’n dal yno, heb symud.

Bydd raid cysylltu efo Carys Tractors i ofyn be sy’n mynd ymlaen. Mae gen i gwch arall yn barod iddyn nhw os mai isio heidio oedden nhw, ond dwi wedi bod yn checio celloedd brenhines yn rheolaidd, a does na’m golwg heidio arnyn nhw. O, arhoswch chi funud … mae na wythnos wedi pasio’n sydyn ar y naw does? Ddylwn i fynd atyn nhw rwan – heno – ond mi fyddan nhw’n flin oherwydd yr ymosodiad gan y gwenyn eraill a dwi’m isio creu hafoc! Dwi am aros tan fory. Ond ddoth Carys yma wsnos cyn dwytha, ac mae fy nghwch i’n gneud yn iawn – ond ddim llawer o fêl hyd yma, a’r penderfyniad oedd y dylid gadael iddi gryfhau yn hytrach na’i sblitio. A brenhines gweddol ifanc ydi hi o hyd felly ddylen nhw ddim bod yn rhy awyddus i heidio.

Ac mi ddylwn i ddallt y busnes heidio ma rwan, achos o’r diwedd, ges i fynd ar ddiwrnod agored Gwenynwyr Meirionnydd, a heidio ( swarm control) oedd y pwnc.

Dyma ni, yn heidio i lawr am gychod Paul & Pauline Aslin yn Arthog, wrth ymyl Dolgellau ar  bnawn Sadwrn Mai 19. A dyma ni wrth y cychod. Criw mawr ohonon ni does?! Do, ges i fraw hefyd. A’r rhan fwya yn wenynwyr newydd fel fi – dyna pam eu bod nhw yno – i ddysgu. Nifer fawr yn Gymry Cymraeg hefyd, a dysgu Cymraeg mae Pauline, ond mae’n hogan glyfar, felly fydd hi’m chwinciad cyn dod yn rhugl. Ond fel mae’n digwydd, 5 o’u cychod nhw sydd i lawr y ffordd yn Nantycneidiw, a’r rheiny sy’n ymosod ar fy nghwch i, y diawlied! Dwi’n gallu deud nad rhai bach duon Cymreig ydyn nhw achos maen nhw’n fwy, ac yn fwy melyn:

Doedd Pauline ddim yn siwr pam eu bod nhw wedi penderfynu trio dwyn mêl fy nghwch i chwaith … hm. Ta waeth, difyr ydi gweld sut mae pobl eraill yn gofalu am eu gwenyn, ac mae Paul & Pauline mewn lle delfrydol – coed Sycamorwydden ymhobman, ac mae’n llawer cynhesach yno ( yn nes at y môr) nac i fyny fan hyn. Felly efallai mai isio bwyd hawdd ei gael mae eu blwmin lladron nhw!

Beth bynnag, yn Arthog, mi fuon nhw’n dangos a thrafod sut i reoli heidio efo neu heb ddod o hyd i’r frenhines. A sut i’w cael nhw’n ôl os ydyn nhw’n heidio. Dwi wedi prynu sgep yn barod ar gyfer yr achlysur – roedd John o Borthmadog, gwenynwr profiadol yn gwerthu llwyth o’i hen offer a waries i £100 yno – yn syth! Mi wnai gymryd lluniau o be brynais i rywbryd eto – ond nefi, dwi angen sied ar gyfer yr holl stwff ma.

Mae ‘na gyfarfod arall yn lle Sue a John yn Nhai Cynhaeaf y Sadwrn yma ( 16) a dwi am drio mynd. Marcio brenhinesau sydd dan sylw tro ma. Mae dysgu pethau yn ddifyr, ond cyfarfod pobl eraill sydd wedi gwirioni fel fi, yr un mor ddifyr!



Colofn Herald wsnos yma
Mawrth 24, 2011, 10:47 pm
Filed under: Heb ei Gategoreiddio | Tagiau: , , , ,

Dyma’r golofn oedd yn yr Herald heddiw. Byddaf, mi fyddai’n sgwennu am arddio yn fanno hefyd weithiau, felly i chwi bobl y de neu Gogs sy’n rhy dynn i brynu’r Daily Post ar ddydd Mercher ( pan mae’r Herald Gymraeg ynddo fo), dyma fo ( ond efo llun neu ddau) ( O, a dwi’n sylweddoli mod i wedi sillafu ceoanthus yn anghywir – ceanothus (?!) neu rywbeth felna ydi o i fod…):

Gan fod y cennin pedr allan o’r diwedd, a’r awr ar fin newid, dwi’n teimlo fod y gwanwyn wedi cyrraedd a’r haf ar ei ffordd. Ac er mod i’n mwynhau misoedd y gaeaf, mae teimlo’r haul ar eich wyneb wastad yn gneud i chi deimlo’n fwy iach, rhywsut yntydi? Felly dwi wedi bod yn garddio.

Mae’r ffaith ein bod ni wedi dechrau ffilmio eitemau ar gyfer ‘Byw yn yr Ardd’ yn gic ychwanegol yn y pen-ôl wrth gwrs. Dwi’m isio i bawb weld y llanast felly dwi wedi bod yn tacluso a thocio chydig. Ond mae’r pwyslais ar ‘chydig’. Mae ’na rai pethau mae gen i ofn eu cyffwrdd am nad ydyn nhw’n edrych yn iach iawn ac mae gen i ofn eu lladd nhw. Dyna i chi’r ceoanthus blannais i llynedd.

Coeden hyfryd efo blodau glas ydi hi – i fod. Ond ar ôl y gaeaf yma, dwi’m yn meddwl y gwelai flodyn arni byth. Mae hi’n sych a brown ac mae’n debyg mai cael ffling fydd ei hanes hi, ond dwi isio i rywun sy’n dallt y pethau ’ma ei gweld hi gynta. A does wybod, ar ôl iddi gael chydig mwy o haul, efallai y gwelai ddeilen arni. Ond go brin; dwi wedi crafu chydig ar y rhisgl i weld os oes ’na wyrddni yna – nagoes. Beryg mai ex-ceoanthus ydi hi bellach. Ond mi fydd ei thaflu yn brifo.

Ac mae’r rosmari blannais i yn yr un stad. Yn kaput. Ac mae sawl planhigyn arall yn cymryd ei amser i ddeilio felly dwi’n meddwl mai i’r bin brown yr aiff rheiny hefyd. Joban ddrud ydi’r garddio ’ma ynde? Doedd y ceoanthus ’na ddim yn rhad. Heb sôn am y goeden apricots ( dwi methu cymryd at y gair bricyll am ryw reswm; hen air hyll tydi?). Ond mae’n debyg mai breuddwyd ffwl oedd meddwl y gallwn i dyfu’r fath beth ym Meirionnydd. Mae’r goeden geirios yn blwmin styfnig hefyd – mae hi yma ers dwy flynedd rwan a dwi’m wedi gweld unrhyw beth tebyg i geiriosen arni. Ond mae angen amynedd i arddio. Beryg mai dyna pam nad ydi o’n apelio at bobl ifanc rhyw lawer.

Yn ôl astudiaeth gan gylchgrawn ‘Gardeners’ World’, doedd 40% o bobl rhwng 25 a 34 ddim yn gwybod sut i docio rhosod na thyfu planhigion o hadau. Y? Be sy’n haws na rhoi hadyn bach mewn pot o bridd a rhoi chydig o ddwr iddo fo? Nefi wen.

Doedden nhw chwaith ddim yn gallu nabod planhigion. Iawn, ocê, dwi’m yn wych am gofio enwau planhigion, ond dwi’n gwybod be ydyn nhw. Dwi jest yn gwneud fy enwau fy hun iddyn nhw os ydi’r enw go iawn yn mynd yn drech na fi. Fel y blodau brwshys toilet a’r goeden clust-dlysau. Wel, dydi ngho i ddim cystal ag oedd o am ryw reswm.

Ia, iawn, oherwydd henaint mwn. Ond mae’n debyg bod garddio yn cadw pobl dros 50 yn iau, yn ôl rhyw astudiaeth arall. Ond dwi’m wedi cyrraedd fan’no eto, felly dwi’n gobeithio gweld gwelliant pan ddaw’r pen-blwydd hwnnw. Yn y cyfamser, dwi’n mwynhau darllen bod garddio’n gwneud pobl yn fwy optimistaidd yn ogystal â bod yn fwy heini na phobl sydd ddim yn garddio. Heini – iawn, mae’r ardd yma wedi gwneud i mi chwysu mwy na wnaeth unrhyw gampfa erioed. Mae cribinio mwswg o’r lawnt yn un o’r ‘work-outs’ caleta i mi ei brofi erioed, heb sôn am hwffio’r peiriant torri gwair i fyny ac i lawr y grisiau. Optimistaidd? Wel, mae hynny’n anghenrheidiol yn yr ardd, debyg iawn. Os nad oes gynnoch chi ffydd a gobaith bob tro dach chi’n plannu rhywbeth, be goblyn ydi’r pwynt? Ac os nad ydi o’n gweithio eleni, wel trio eto flwyddyn nesa mewn rhan arall o’r ardd ynde.

Roedd garddwyr yn sgorio’n uwch ar gyfer categori o’r enw ‘Life satisfaction’, ac yn fwy iach herwydd eu bod nhw’n bwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Dwi’n cymryd mai’r rheswm dros hynny ydi am eu bod nhw’n llwyddo i dyfu digon eu hunain. Hm … wel, ges i lwyth o afalau llynedd, mae’n wir, ond i gyd ar yr un pryd. Ac roedd rhywbeth arall yn bwyta fy swej i cyn i mi gael gafael ynddyn nhw, a dim ond am rhyw bythefnos barodd fy mefus. Ond mae gen i lond rhewgell o fafon cochion.

Ond eleni, mae gen i dy gwydr. Un hyll ofnadwy sy’n debyg i portaloo ac yn gorfod cael ei chwythu i fyny bob wythnos (wir yr), ac mae angen rhoi tunnell o gerrig ynddo fo i’w rwystro rhag hedfan am Lyn Tegid pan fydd y gwynt yn codi ( nid fy syniad i oedd o!), ond os lwyddai i dyfu cnwd da o domatos am y tro cynta yn fy myw, mi fyddai’n hapus a llawen a llawer iawn iau na fy oed. Ond dwi ddim yn optimistaidd …