Filed under: Heb Gategori | Tagiau: European eagle owl, gardd mewn berfa, Gwir Flas, RHS, Sioe flodau Caerdydd, tebot pinc, tylluan, tylwyth teg
Ia, gardd ydi hon a blodau, wel, planhigion, ydi’r rheina. Trên yn mynd o ardd reit wyllt, naturiol a gwledig i un ddinesig, daclus ar ochr arall y wal. Un o naw gardd ‘arddangos’ yng Nghaerdydd dros y penwythnos. Do, mi fuon ni’n ffilmio yno eto eleni, ac mi gewch chi weld y rhaglen nos Fercher am 8.25.
Gawson ni dywydd rhyfeddol, o haul braf i law i genllysg. Falch iawn mod i wedi gwisgo fest thermal … rhywbeth dwi wedi ei ddysgu yn ystod fy mlynyddoedd o gyflwyno mewn gerddi – handi ydi fest thermal. Mae hi’n gallu bod yn joban gythgiam o oer.
A dyma chydig o erddi eraill, neu ddarnau ohonyn nhw:
A gerddi mewn berfa neu whilber, y gystadleuaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac arbennig lleol:
Mabolgampau oedd y thema eleni, a dyma i chi fy ffefryn i:
Dim clem pwy enillodd. Roedden nhw’n cyhoeddi enw’r enillydd ar y dydd Sul ond does na’m byd ar wefan yr RHS hyd yma – nid tra dwi’n sgwennu hwn o leia.
Mi fues i’n gwario’n wirion ar bethau gwirion eto, fel y tebot pinc yma:
A drysau tylwyth teg, un ar gyfer yr ardd ac un ar gyfer skirting board …
Dwi newydd osod yr un ‘tu allan’ wrth fonyn y goeden fwya sy gen i yn yr ardd. Gewch chi lun ohono fo ryw ben, pan fydd o wedi ‘setlo i mewn’ fel petae. Rhywbeth yn deud wrthai y bydd Cadi Fflur ( merch fy nith) wedi gwirioni.
Ond wnes i ddim prynu’r potyn yma: £851 am botyn i ddal blodau?! Mae gan rai bobol fwy o bres na sens, does. Cliché, ond mae’n wir.
Roedd na bobl yn gneud bob math o bethau efo pypedau ac ati: Roedd Russell wedi gwirioni efo dwy hen “ddynes” yn mynd o gwmpas mewn certiau swnllyd. Do’n i ddim, felly does gen i’m llun, sori. Roedden nhw’n deud arnai, yn enwedig ar ôl y trydydd tro.
A tybed wnewch chi nabod y ferch fach yma efo’i phen mewn gwrych? Go brin. Ond cliw i chi – mae’n perthyn i un o’n cyflwynwyr ni.
Doedd gen i fawr i’w wneud drwy’r bore, dim ond chwilio am rywle cynnes i eistedd. Wrth y Stondin Gwir Flas ro’n i pan ddaeth hi’n law go iawn – A sbiwch pwy sydd heb ambarel – ia, un o ddynion tywydd S4C … Ges i flasu kale ganddyn nhw gyda llaw – neis iawn, efo garlleg a tsili ac ati. Ond ro’n i’n bwyta hufen ia blas sunsur ar y pryd, felly roedd o’n gyfuniad braidd yn od.
Yn y pnawn ro’n i wrthi, a dyna pryd ges i’r wefr ryfedda o ddal tylluan fawr ar fy llaw – European Eagle Owl o’r enw Houdini. Rhyfeddol o ysgafn.Nid fy mraich i ydi honna, llun ges i oddi ar y we ydi hwnna; ro’n i wedi cynhyrfu gormod i gofio gofyn i rywun gymryd llun. Ond un felna oedd Houdini. A dwi newydd weld y geiriau ‘the largest and most ferocious owl in the world’ ar y we … nefi. Ond roedd o’n ddigon clen. Hoffi tylluanod erioed.
Ond dwi’n hoffi Del yn fwy, a sbiwch llun da ohonan ni’n dwy! Dyn o’r enw John Briggs gymrodd hwnna, ar gyfer rhyw gynllun newydd efo’r IWA. Dwi wedi sgwennu traethawd iddyn nhw. Gewch chi’r hanes ryw ben mae’n siwr. Ond dwi’n ffansio hwnna ar gyfer clawr yr hunangofiant … gawn ni weld!
Ta waeth, diwrnod da yng Nghaerdydd, fe ddylai fod yn chwip o raglen. Ond roedd y daith adre yn yr un car â Russell yn hunllef. Tydi o’m wedi arfer efo bwyd sbeisi, a dyna be gafodd o i swper nos Wener … Jen ( ei wraig) – ti’n haeddu medal – a gas mask!