Filed under: Heb Gategori | Tagiau: bwyd adar, cnau mwnci, Dolgamedd, great diving beetle, gwas y neidr, gwenyn, larvae, llygod mawr, maes carafannau, pebyll, penbyliaid, to cwch gwenyn
Mae hi’n piso bwrw yma. Roedd yr ardd angen y glaw, ond dwi wedi cael digon o fod yn wlyb rwan. Mi ddylwn i fod yn sgwennu nofel i blant uwchradd ac mi fyddech chi’n disgwyl y byddai’n haws aros o flaen y cyfrifiadur ar ddiwrnod gwlyb fel hyn, ond am ryw reswm, nid felly y mae. Dwi’n sbio drwy’r ffenest ac yn ysu i’r diferu stopio er mwyn i mi gael awyr iach rhwng paragraffau. Dwi wedi bod allan ar y beic efo Del bore ‘ma ( efo dillad glaw a welintyns) a mwynhau hynny ond mae isio mynedd mentro allan eto.
Dwi newydd symud darnau’r cwch gwenyn newydd o un sied i’r llall am fod y sied wreiddiol yn gadael glaw i mewn a gwlychu fy mhren. Ro’n i wedi eu paentio efo stwff pwrpasol, ond prin fod angen iddyn nhw foddi, bechod.
Mi wnes i lwyddo i roi’r caead at ei gilydd o leia, ar ôl cael cyfarwyddiadau ar y we ( ar ôl rhoi’r bali peth at ei gilydd yn anghywir y tro cynta) – a tharo fy mawd fwy nag unwaith. Ond mae’r bocsys yn gorfod aros – nes bydd gen i’r amynedd i’w taclo neu nes bydd Carys Tractors yn galw!
Dwi wedi sgwennu colofn Herald arall am y ffordd mae’r gwenyn wedi effeithio ar fy mywyd i ( Daily Post Mercher yma) a dyma i chi gwpwl o luniau gymrais i o fy ngwenyn i pan oedd y tywydd yn eu siwtio’n well:
Ar fy nghoeden geirios drist ( weeping cherry?) mae’r rhain, reit o flaen y ty:
A na, dydyn nhw’n poeni dim ar Del hyd yma. Y cachgi-bwms ( bumble bees) sy’n ei styrbio hi – dod o nunlle, yn fler a swnllyd tydyn?
Ond mae na rywbeth mawr wedi bod yn fy styrbio i yn y pwll … Sbiwch hyll a milain! Larvae y Great Diving Beetle:
Dwi wedi blogio am rhain o’r blaen, llynedd, pan wnes i eu darganfod gyntaf. Ac maen nhw wedi bod yn brysurach fyth eleni:
Mae’r holl filoedd o benbyliaid wedi mynd lawr i un neu ddau – OHERWYDD Y DIAWLIED YMA! Dwi wedi bod yn eu dal efo rhwyd a’u lladd – o leia deg y diwrnod ( heblaw heddiw). Ydw, dwi’n teimlo’n gas a chreulon am ymyrryd efo trefn natur, ond llyffantod dwi isio yn fy ngardd, nid rhain! Mae larvae gwas y neidr yno hefyd, sy’n fwy,
ac yn bwyta mwy o benbyliaid mae’n siwr, ond dwi’n hoffi gweld gwas y neidr acw, felly mae’r rheiny’n cael byw. Ond dwi wedi symud un i’r pwll yn y ffos o flaen y ty, lle nad oes penbyliaid. Geith o fwyta be bynnag licith o yn fanno.
Dwi wedi cymryd lluniau fy hun o’r larvae great diving beetle ond does gen i’m mynedd aros i’r rheiny lawr lwytho jest rwan. Gewch chi eu gweld nhw ryw dro eto.
O, a dwi’n meddwl bod gen i lygod mawr yn y wal ar waelod yr ardd eto. Mae Del yn rhedeg ar ôl rhywbeth beth bynnag, a dwi’n nabod eu hôl nhw wrth y wal bellach. Bwyd yr adar sy’n denu’r rheiny. Ond dwi’n mwynhau bwydo’r adar! Er eu bod nhw’n costio ffortiwn i mi. Unrhyw un yn gwybod ble ydi’r lle rhata i brynu bwyd adar? Dwi’n siwr bod bag o gnau mwnci yn codi yn ei bris jest cymaint â phetrol. Grrrr.
O ia, gyda llaw, mi fydd BYYA ar S4C eto yn fuan – Ebrill 18. Dwi newydd recordio’r troslais cynta am eleni.
Iawn, nôl at y nofel … cyn gwneud fy wac yn ein maes carafannau yn Nolgamedd. Dwi’n cymryd y bydd y creaduriaid oedd mewn pebyll neithiwr wedi penderfynu mynd adre, bechod …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: blodau pinc, charleston, coed afalau Enlli, dagrau solomon, gwas y neidr, honesty
Dwi wedi bod yn dawel efo’r blogio am mod i wedi bod yn ffilmio’n y de –
Cyfres newydd efo Tudur Owen – ‘Byw yn ôl y Papur Newydd’, a’r 1920au y tro yma. Coblyn o hwyl ond gwaith caled, ac ar ôl trio dawnsio’r charleston ddoe, mae fy mhengliniau’n sgrechian heddiw.
Ta waeth, hyfryd ydi bod adre a ges i fraw wrth fynd rownd yr ardd.
Do, mae’r honesty wedi tyfu dros nos. Mae’n siwr bod ‘na enw Cymraeg
ond sgen i’m mynedd sbio ar hyn o bryd.
Mae’r acer wedi deilio o’r diwedd, a’r peth oren ‘na wedi blodeuo. Dim clem be di’r enw, sori. Rwbath japonica? A sgen i’m clem pam fod y sgrifen yma wedi troi’n las wedyn yn goch ac yna’n ddu eto. Byd y blog – rhyfedd yw. Ac ydi, mae’r ty gwydr yn dal ar ei draed a’r courgettes ( rhai ohonyn nhw) yn ffynnu. Y lleill unai wedi boddi neu losgi.
Rhywbeth arall nad oes gen i syniad mwnci be ydi o ydi hwn, y blodau pinc yma:
Dim ond un oedd yma pan brynais i’r ty ddeg mlynedd yn ôl, ond mae’n rhaid ei fod o’n fy hoffi i achos mae gen i domen ohonyn nhw rwan. Rhyw fath o ‘tuber’ ydi o, un digon od yr olwg. Rois i un i fy chwaer ond dwi’n mau’n gry ei bod hi wedi ei roi’n y bin wrth glirio… hmff. Dyma fy rhai i, ylwch, wedi tyfu fel madarch tra ro’n i i ffwrdd.
Os oes gan unrhyw un syniad be ydi o, plis gadewch i mi wybod!
Reit, pa luniau eraill sy gen i? O ia, meddwl y byddech chi’n hoffi gweld sut siap sydd ar y darn fu Carol yn ei blannu efo fi – y gornel dywyll. Wel, mae fy nagrau Solomon i wedi tyfu fel pethau gwirion er i’r criw sathru a malu eu hanner nhw, felly maen nhw’n cuddio’r hellebores braidd. Ac mae’r malwod wedi bwyta cryn dipyn o fy snakes heads. Fawr o liw yno eto, ond pan fydd y bysedd y cwn amryliw yn blodeuo – helooo!
Iawn, gan fod y lluniau ma wastad yn mynnu pentyrru ar ben ei gilydd yn y diwedd yn lle aros lle dwi’n eu rhoi nhw, dyma i chi bentwr o luniau yn cynnwys fy nghoeden afalau Enlli sydd bellach yn tyfu am i fyny gyda help polyn ffens a phar o deits ( diolch am y tip, Carol) A rhyw chydig o bethe brynais i’n y sioe flodau yng Nghaerdydd. Do’n i’m wedi pasa gwario cymaint ond Russell oedd yn ddylanwad drwg arnai! Ac oes, mae gen i ‘thing’ am was y neidr…