Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carys Tractors, cennin pedr, gwahanlen, gwanwyn, gwenu, gwenyn, Ioan Morgan, lili wen fach, llyffantod, marw, mygu
Ail gynnig ydi hwn. Naci, trydydd a bod yn onest. Dwi’m yn gwbod be sy wedi digwydd i WordPress ond mae isio rhoi tro yng ngwddw rhywun! Dwi di treulio ORIAU yn llwytho blwmin lluniau a sgwennu’n goeth a hyfryd, ond does na’m byd i’w weld ar y b•¶∞¢# blog wedyn! Grrr…
Dwi’n gallu copio’r paragraff cynta ma oddi ar Facebook ond dim mwy. Iawn, cyfri i ddeg … trio eto:
Ia, lluniau o’r ardd bore ‘ma. Doedd hi’n hollol wefreiddiol gweld awyr las a haul eto? Iawn, mae na ryw bali malwod neu rywbeth wedi bod yn… cnoi fy lilis gwynion bychain a’r cennin pedr oedd ar fin blodeuo ond mae na ddigon o liw i’w weld ar flodau a choed eraill.
Oedd yn grêt, achos roedd y gwenyn allan – ieee! Ro’n i wedi bod yn poeni amdanyn nhw. Ar un llaw, ro’n i isio gadael llonydd iddyn nhw dros y gaea, ddim isio’u styrbio na’u hoeri; ar y llaw arall, do’n i’m isio iddyn nhw lwgu. Ro’n i’n gwybod bod 2 o’r 3 cwch yn dal yn fyw am mod i wedi gweld gwenyn yn symud dros y queen excluder/wahanlen pan fues i’n eu bwydo nhw. Ond roedd pethau’n annifyr o dawel a di-symud yn y cwch flin – dyna dwi’n galw’r un lle doth yr haid ddiarth llynedd. Hen bethau pifish. Ar ôl gweld Carys Tractors yn dre y diwrnod o’r blaen, mi ddywedodd y dylwn fynd i’w chrombil ar fyrder. iawn, felly pnawn ma, mi wnes i danio’r mygwr am y tro cynta ers oesoedd a draw a fi at y gwenyn. At yr un flin/farw gynta – a mynd coblyn roedd hi fel ffair yn y fynedfa! Roedden nhw’n hynod fyw.
Rwan ta, dwi di bod yn darllen am ddynes sy’n rhyw fath o ‘horse whisperer’ i wenyn a dydi hi byth yn eu mygu nhw, felly wnes i fawr o fygu. A diawch, wyddoch chi be, er i mi fynd drwy bob ffram, roedden nhw’n glen ac annwyl a hyfryd – fel wyn bach. ‘Beth sydd wedi diiigwyyyyydd?’ Yr hen frenhines bifish wedi marw? Wedi sylweddoli ei bod hi mewn lle da? Ei bod hi’n licio fi? Pwy a wyr, ond roedden nhw’n lyfli. Ac roedd y ddwy arall yr un mor dawel a chlen – ac iach a byw a dim sôn am afiechyd nac adennydd cam na dim. Ew, ro’n i wedi mhlesio ac yn hedfan fy hun. Sbiwch llun ( sal) dries i ei gymryd ohonof fy hun wedyn:
Gwenu go iawn fanna – nid actio mo hynna! Ro’n i’n flin fel tincar ddoe ond yn hapi byni go iawn ar ôl bod yn trin fy ngwenyn. Dylai doctoriaid ystyried rhoi gwersi trin gwenyn yn lle tabledi i bobl sy’n diodde o’r felan. A tase hi ddim yn nos, mi fyswn i’n mynd nôl at y gwenyn rwan i g^wlio lawr ar ôl i WordPress fy ngyrru’n benwan!
Cofiwch chi, roedd yr haul yn help i godi gwên hefyd doedd? A’r adar yn canu – a nythu fel mae dau ditw tomos las wedi gneud yn y bocs pren eto Fethais i gael llun call ohonyn nhw. A does na’m robin goch wedi sbio ar y tebot eto. Ro’n i wedi gwirioni efo’r llyffantod hefyd, ond gewch chi hanes rheiny yn y blog nesa ( dim mynedd rwan!) ond dyma un llun bach i aros pryd:
Ioan Morgan, mab fy ffrind, Luned, gymrodd hwnna. Mwy tro nesa. A dwi’n mynd i gopîo hwn cyn pwyso ‘Cyhoeddi’, achos os ydi o’n diflannu eto mi fydd fy sgrech i’w chlywed yn y Bala …
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: alergedd, gwahanlen, kamikaze, pigiad, pigiad gwenyn mêl, queen excluder, stingo
Doedd y gwenynwyr eraill methu credu nad o’n i wedi cael pigiad o gwbl gan wenyn – erioed, er mod i’n cadw gwenyn ers dros flwyddyn rwan. ( Cacwn/gwenyn meirch/wasps, do, ddigon!) Ac roedden nhw’n deud y dylwn i fynd ati i gael fy mhigo, rhag ofn fod gen i alergedd. Ddim diawl o beryg! Ond dyna fo, mae o newydd ddigwydd – ar fy ffer i, bore ma! Fy mai i oedd o, heb drafferthu gwisgo welintyns, heb sôn am y siwt llawn, ac wrth gydio yn un o’r jariau bwydo siwgr, mi lithrodd o fy llaw a glanio efo clec ar y ‘queen excluder’ neu’r ‘wahanlen’. Wel, mi wylltiodd hynny’r gwenyn debyg iawn, a finna yna’n trio siarad efo nhw ‘Popeth yn iawn, dim ond fi sy ma – sori am hynna …’ ond aeth un wenynen yn syth am fy sannau yndo – a bang!
Rwan, i chi sy rioed wedi cael pigiad gan wenyn, ydi, mae’n brifo, ond ddim yn uffernol. Dwi di cymryd tabled antihisthamine yn syth – rhag ofn, ac wedi rhoi stwff o’r rnw ‘Stingo’ arno fo ( ges i o yn Seland Newydd ar ôl cael pigiad gan rywbeth milain iawn dan y dwr yn Bali). Mae’n dal i’w deimlo, yn ‘throbbio’ fymryn am sbel, wedyn yn llosgi chydig, dibynnu be dwi’n neud. Ond dwi’m yn meddwl bod gen i alergedd, does ‘na fawr o chwydd a dwi’m yn meddwl mod i’n mynd i fynd mewn i sioc! A dyma’r pigyn ei hun:
Roedd o’n dal yn fy nghroen i pan dynnais i’r hosan, yn dal i bwmpio’r gwenwyn i mewn. Fel’na mae gwenyn yn gneud dach chi’n gweld – gwaelod ei phen ôl hi ydi hwnna, bechod. Wrth bigo, maen nhw fel peilotiaid kamikaze, yn gwybod eu bod yn mynd i farw, am fod rhan o’u cyrff yn cael ei adael ar ôl. Dwi’n teimlo’n euog, braidd, ond o leia nes i ei sathru er mwyn ei rhoi allan o’i phoen yn syth … wel, ocê ta, ei sathru am mod i’n flin wnes i!
Ond o leia dwi’n gwybod nad ydi un pigiad yn rhy ddrwg … cam pwysig yn fy ngyrfa fel gwenynwraig!