Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cae o lafant, Colin, Emyr Cwmpenanner, Enlli, fuschia, gofalwr, Mair ac Alun, Porth Meudwy, Sioned, Ty newydd Aberdaron, warden, ynys
Rydan ni wedi trio ddwywaith o’r blaen i ffilmio ar Enlli, ond mae’r tywydd wedi cowlio pethau bob tro. Ond ddydd Mercher, o’r diwedd, gawson ni dywydd perffaith – Enlli amdani! Brecwast yn Nhy Newydd, Aberdaron am 5.45 ( yyyy) a dyma’r olygfa ym Mhorth Meudwy jest cyn gadael ar y cwch efo Colin:
Y môr fel darn o wydr, ylwch. Ro’n i wedi bod i Enlli o’r blaen, ond roedd rhai yn croesi am y tro cynta ac wedi cynhyrfu’n rhacs – fel Gwennan, un o’r cyfarwyddwyr …
Rwan, os na fuoch chi yno erioed, dyma’r map efo enwau pob man – ac enwau bendigedig ydyn nhw ynde?
Na, dydi hi’m yn fawr, ond mae’n ddigon hawdd bod arni drwy’r dydd – neu am wythnos, bythefnos hyd yn oed heb ddiflasu o gwbl. Mae Mam yn mynd am wythnos bob mis Medi ers blynyddoedd ac yn dod adre yn frown, yn hapus ac wedi ymlacio’n llwyr. “Eli i’r enaid” medda hi. Mi fyswn inna’n licio treulio wythnos yno – ond gewch chi’m mynd â chi yno … ond mi wnes i dreulio penwythnos hir yno cyn cael Del, pan oedd Mair ac Alun yn wardeniaid. Pleser pur. A dyma lle roedden nhw’n byw:
Mae ‘na naw ty sydd ar gael i’w rhentu, ond y warden neu’r gofalwr sy fama, ac ers chwe mlynedd, Emyr o Gwmpenanner sydd yno, ac mi welwch chi dipyn ohono fo ar y rhaglen pan gaiff hi ei darlledu – diwedd y gyfres fis Medi ryw ben. Garddwr o fri, achos doedd yr ardd ddim cweit fel hyn pan oedd Mair ac Alun yno! Cwpwl o luniau i chi – a’r ty bach ydi’r drws yn y pen draw – tai bach compost – peidiwch a disgwyl fflysh!
Dwi’n fflamio achos ches i’m llun call o Sioned, ond dyma lun da iawn gymrodd hi ohona i a Russell:
Ac mi brynon ni’n dau fuschias Enlli o’r stondin yma gan Emyr. Dwi wedi ei phlannu yng ngwaelod yr ardd yn y gobaith y gwnaiff hi dyfu’n goeden fawr i gadw fy ngwenyn yn hapus!
Mae ‘na siop grefftau ac ati drws nesa, lle mae dynes hyfryd o’r enw Carol yn nyddu a phaentio a hepu’r criw sydd ar eu gwyliau yno i wneud pob math o bethau allan o glai Enlli. Fuon ni’m yn ffilmio fanno ond ges i fodd i fyw yno! Dyma luniau oddi yno, yn cynnwys y teclyn clai sy’n berwi tecell i neud paned … gwych!
Mi allwn i sgwennu colofn hurt o hir am Enlli ( a deud y gwir, mi wnai un i’r Herald – y gwenyn sydd gen i yn hwnnw wsnos nesa!) ond jest isio rhoi blas i chi ydw i rwan. Cafwyd diwrnod hyfryd. A dwi’n meddwl bod pawb wedi syrthio mewn cariad efo’r lle. Ac allwn i’m credu faint o bobl ro’n i’n eu nabod oedd yno, boed ar wyliau nes jest am y diwrnod – y Shakespears o Bentir, Bangor, y nytars o Dalybont, Aled Jones Williams a’i wraig Sue (?), Elen o Ddolgellau yn wreiddiol a hyd yn oed Casi Wyn, fu’n sgwrsio mor ddifyr efo Gaynor Davies ar Radio Cymru bnawn Sul dwytha.
Un llun o’r olygfa o Ty Capel i orffen … nefoedd.
Ychwanegiad! Newydd gael llun da o Sioned mewn cae o lafant i neud iawn am y ffaith nad oes gen i lun ohoni ar Enlli!