Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Carol Garddio, Coed camu-drosodd, dwyn ffrwyth, step-over trees, strimar, tensioners
Yn gynta, dyma i chi lun o waelod yr ardd, lle bu’r Jac Codi Baw yn tyllu – edrych yn well yn barod tydi?
Rhyw bythefnos yn ôl oedd hynna a bod yn onest. Erbyn heddiw, a’r holl law, mae’r darn moel wedi llenwi eto. A sylwch bod Del wedi stwffio ei hun i’r llun eto. Mae hi’n rêl pôsar.
Ac roedd hyn cyn iddi gael y ‘snip’. Bu’n rhaid iddi wisgo coler am wythnos a doedd hi ddim yn hapus. Dydi hi’m i fod i redeg am bythefnos ar ôl y driniaeth chwaith, ond trwich chi rwystro ci defaid rhag rhedeg! Mae’n trotian hyd yn oed pan fydd hi ar dennyn. Ond dwi’n ei rhwystro rhag neidio dros waliau a ffensus – geith hi aros wythnos arall cyn mentro gneud hynny!
Ta waeth, isio blogio am y diwrnod dreuliodd Carol Garddio yn yr ardd ydw i. Ges i ordars i glirio’r rhan bler, gwyllt yng nghornel ucha, bella’r ardd cyn iddi ddod. A dyma sut oedd o:Tipyn o waith clirio. Ac am y tro cynta ers oesoedd, mi dynnais i’r strimar allan o’r sied. Do’n i’m wedi ei ddefnyddio ers wyth mlynedd o leia (ges i chwip o beiriant torri gwair yn lle) ac ro’n i wedi anghofio sut i’w gychwyn o, heb sôn am ba danwydd i’w roi ynddo fo. Mi rois i’r petrol fydda i’n ei roi yn y peiriant mawr yn y twll pwrpasol a cheisio pwyso botymau a thynnu’r peth ’na ac ati – ond doedd dim byd yn digwydd. Felly es i a fo at fois clyfar y lle peiriannau garddio yn y Bala. Chwerthin wnaethon nhw a deud fy mod i’n lwcus nad oedd o wedi tanio, neu mi fyswn i wedi ei chwalu. Cymysgedd o betrol ac olew sydd i fod ynddo fo, debyg iawn. Dyyyh. Ac efo’r tanwydd iawn, mae’n gweithio’n champion. Wel, o feddwl bod y gwair hir, hir yn wlyb domen pan fues i’n strimio.
Gwaith torri rhych a phalu wedyn: nes roedd fy nghefn i’n sgrechian! A dyma sut oedd o’n edrych pan gyrhaeddodd y criw:
Coblyn o bridd da, gyda llaw. Mae’n rhaid bod y gornel yna wedi cael ei thrin yn dda flynyddoedd yn ôl.
Iawn, ‘step-over trees’ neu goed camu drosodd ydi coed afalau ( neu unrhyw ffrwyth tebyg am wn i) sy’n tyfu ar draws yn hytrach nac am i fyny. Dyna pam eich bod chi’n gallu camu drostyn nhw … Jest y peth os ydach chi’n brin o le. Ond mae angen gosod pyst bychain i ddal y canghennau yn gynta:
Wedyn, gosod weiran yn dynn efo’r teclynnau bach gwyrdd yma:
‘Tensioners’ – pethau bach clyfar iawn, ond mae set fel yna dros £20, felly nid yn rhad. Ac wedyn, plannu’r ddwy goeden a chlymu’r canghennau yn OFALUS i’r weiran.
Mewn pythefnos, mi fedrai dynhau mwy arnyn nhw – ac eto wedyn mewn pythefnos arall – fel mae rhywun yn dysgu gneud y sblits, ara bach a bob yn dipyn.
Mi wnes i fwynhau’r broses yn arw, rhaid i mi ddeud. Mi fydd raid aros cryn dipyn i weld os fydd yr holl waith yn dwyn ffrwyth ( ha – welsoch chi be wnes i fan’na rwan?) – dwi’m yn mynd i weld afalau am flwyddyn o leia, ond mae’r pethau gorau yn werth aros amdanyn nhw tydyn? A dwi’n gwybod sut i drin y strimar rwan – dim esgus dros adael i fan’na fynd yn wyllt eto!
Gyda llaw, ro’n i wedi dotio at hwn gan Carol. Os dach chi awydd prynu anrheg i mi ryw dro – mi fysa hwn yn plesio! Gewch chi hanes gwenyn gwyllt Commins Coch wsnos nesa!