Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Cymdeithas Chwiorydd Rehoboth
Daeth y merched ( ac un dyn yn eu mysg) a chafwyd pnawn bach hyfryd yn eu harwain o gwmpas yr ardd. Roedden nhw wrth eu boddau!
A rwan dwi isio llwytho llun arall ond does na’m opsiwn i mi wneud hynny – dim ond newid hwn am un arall. Grrr …Dyma ni, ar ôl mynd rownd y byd:
Del wedi cael ffrind newydd. Roedd hi wedi gwirioni efo’r holl sylw.
A’r criw i gyd. Doedd y diffyg blodau ddim wedi eu siomi – does gen i ddigon o bethau eraill i’w gweld yma? A llwythi o adar wrth gwrs. Diaw … ella wnai hyn yn amlach rwan. Ond do’n i ddim yn gwneud te i neb – mynd i dre i Gaffi TH oedden nhw wedyn – cacenni hyfryd yn fanno. Dwi’n gneud cacenni hyfryd hefyd wrth gwrs – ond dwi’n rhy brysur ar hyn o bryd! Ond dyma lun i chi o gacen wirioneddol flasus wnes i wythnos dwytha. Iym. Drapia, methu llwytho’r llun hwnnw. AAAA! Ers pryd mae technoleg yn gneud bywyd yn haws?!