BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Pigiadau a chwalu wal

Dyma fo’r ail bigiad gan fy ngwenyn annwyl. Llawer iawn gwell na’r cynta, ond dim ond drwy’r siwt oedd hyn, felly wnaeth y colyn ddim aros i mewn, ac mi wnes i gymryd tabledi antihisthamine cryf, felly dyn a wyr sut siap fyddai ar fy mraich i heb rheiny! Y diwrnod canlynol oedd hyn, gyda llaw. Oes, mae’n rhaid diodde weithiau er mwyn cael y pleser o drin gwenyn mêl.

Ta waeth, mi fydd y gyfres yn ôl yn gyfredol cyn bo hir, a dyma i chi lun o Sioned pan fuon ni’n ffilmio yng Nghanolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon:

Mae’r trefniannau wnaeth hi wrth ei phenelin a’i hysgwydd – del iawn – a ges i heuchera sbâr ganddi, sy’n gwneud yn dda iawn yn un o’r tyllau fu gynt â lwmpyn mawr o redyn ynddo. Dwi’n dal i godi o leia 2/3 o’r rheiny bob dydd ac mae’n dechrau altro yma. Dydi nghefn i ddim yn wych ar ôl tynnu a brwydro’r holl efo’r gwreiddiau o uffern, ond o leia dwi’m yn gorfod talu i fynd i gampfa efo’r holl chwysu ma.

A dyma Russell a Sioned efo peth o gynnyrch y patsh:

Russ yn edrych mor wahanol efo gwallt byr tydi? A naddo, chawson ni’m mynd a’r angenfilod yna adre efo ni go iawn!

Yno i wneud eitem am fwydo adar gwyllt ro’n i, a dyma fi efo Geraint Williams, swyddog efo’r RSPB, sydd, yn anffodus, wedi cau ei lygaid. Ond bosib mai ymabaratoi i ganu oedd o, neu ddim yn hoffi fy mhersawr i – nid mod i’n gwisgo peth yn aml. Beth bynnag, gawson ni sgwrs am y ffaith bod bwydo adar wedi mynd yn fusnes anferthol, a sut i ddal ati i fwydo heb fynd i’r coch. Mi soniodd bod uwd yn beth da ( a rhad) – a dyna dwi wedi bod yn ei roi ar y gwair ar ôl rhedeg allan o hadau blodyn yr haul – a diawcs, maen nhw wrth eu boddau efo fo. Uwd amdani felly – yn ogystal â’r cnau mwnci ac ati.

O ia, wyddoch chi fod rhai pobl yn rhoi ‘ready salted’ i adar? Wir i chi. Na – cnau heb eu trin  gwbl  plis!

A dyma ‘dip’ arall ges i gan Geraint. Dydi’r sticeri pila pala rois i ar fy ffenestri ddim yn eu rhwystro rhag hedfan i mewn i’r gwydr weithiau. ‘Rhain rwyt ti eu hangen’ medda fo:

Mae ganddyn nhw ofn y rhain yndoes, felly mi awn nhw o’u ffordd i hedfan i’r cyfeiriad arall. Ro’n i wedi ofni y bydden nhw’n eu cadw draw o’r ty yn llwyr, ond na, hyd yma, maen nhw’n dal i ddod yn agos ond nid yn peltio mewn i’r gwydr. Diolch, Geraint!

Ac os ydach chi’n teithio heibio fy nhy i weithiau, mi fyddwch chi wedi amau bod rhywun wedi gyrru i mewn i’r wal:

Ond na, taro bargen efo fy mrawd wnes i. Roedd o angen cerrig da ac ro’n i angen lledu’r fynedfa – oedd yn hawdd gan fod rhan ohoni’n amlwg wedi ei ychwanegu ryw dro. Mae’r darn welwch chi yn fanna â cherrig syth, smart, fydd yn ddel iawn pan ddaw Ger yn ôl i orffen y job … mae o wedi dod i dorri’r coed a thwtio rhywfaint:Edrych gymaint gwell rwan tydi? Dwi’n cael llawer iawn mwy o olau, mae’n haws troi i mewn ac allan, ac mae ymwelwyr o gyfeiriad y Bala yn llawer llai tebygol o hedfan heibio heb fy ngweld i. Ydi, mae hi’n siapio yma! Cael gwared o’r rhododendrons yna hefyd ydi’r gobaith ryw dro. Gawn ni weld.

Advertisements


Coginio efo blodau

Cyn mynd at y blodau, wele’r effaith gafodd pigiad y wenynen fach yna ar fy ffer i erbyn nos. Erbyn 5 y bore roedd o’n fwy ac yn goch ac wedi chwyddo hyd at hanner ffordd i fyny nghoes i! Ond mae’n debyg bod y ffer yn le drwg i gael pigiad – ac roedd y ‘colyn’ wedi bod yno’n hir iawn yn pwmpio’r gwenwyn i mewn i mi – a nes i ei dynnu efo bys a bawd – dyh! Y peth anghywir i’w wneud – fflicio fo allan efo’ch gewin neu rywbeth tebyg sydd ei angen. Ges i Piriton yn lle Piriteze ac mi wellodd yn arw yn o handi. Ond dwi fod yn ofalus y tro nesa gai mhigo … ond gan nad oes gen i alergedd at ddim byd arall na chlefyd y gwair na dim byd arall, go brin mod i’n un o’r bobl anlwcus sy’n mynd mewn i sioc yr ail dro. Ond rhowch o fel hyn – dwi’n gwisgo’r gêr i gyd bob tro dwi’n mynd ar gyfyl y cychod rwan! O’n i wedi mynd braidd yn ‘cocky’ toeddwn. Parch at bwer y gwenyn, dyna ydi o!

Iawn, coginio efo blodau:

Dwi wedi gwirioni efo llyfrau, a dwi’n gwirioni pan fydda i’n cyfarfod pobl sy’n gwirioni’r un fath, felly dyna pam ddechreuodd criw bychan ohonon ni gyfarfod bob rhyw ddeufis i drafod y llyfrau roedden ni wedi eu darllen. Un llyfr Cymraeg ac un Saesneg fel arfer, a chyfarfod yn nhai ein gilydd – a dod a rhyw bethau bach i’w cnoi a’u hyfed yr un pryd. Bwyd a llyfrau – be gewch chi chi well?

Felly roedden ni’n GORFOD trafod nofel am fwyd doedden?  ‘Blasu’ gan Manon Steffan Ros oedd y nofel honno, a wir i chi, mae hi’n chwip o nofel. Dydan ni fel criw ddim wastad yn cytuno, ond roedd y farn yn unfrydol y tro yma. Clincar!

Ym Mallwyd roedden ni’n cyfarfod y tro yma, sydd ddim yn bell o gartref Manon ym Mhennal, ger Machynlleth. Felly mi wnes i gysylltu efo hi’n gofyn fyddai ganddi awydd dod draw i gael sgwrs efo ni. Oedd, tad. Mi wnaethon ni hefyd benderfynu y byddai pob un ohonon ni ( hyd yn oed yr un sydd ddim yn wych am goginio – medde hi) yn gwneud un o’r risetiau sydd ar ddechrau pob pennod.

Y bisgedi Lafant a Dant y Llew dynnodd fy sylw i, felly fues i’n brysur yn hel blodau lafant o’r ardd –ond drapia – pan dach chi isio gweld Dant y Llew, does ’na’m golwg ohonyn nhw! Roedd fy chwynnu yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl – dim ond dau flodyn oedd gen i! Bu’n rhaid i mi fynd ar y beic ar hyd y ffyrdd cefn i chwilio, a ges i ddau arall. Byddai’n rhaid i hynny wneud y tro. Wedyn roedd angen dwr rhosod – a doedd gen i’m amser i fynd i chwilio am beth yn dre, felly es i ar y we i weld os oedd modd ei wneud fy hun – oedd! Felly dyma hel petalau rhai o fy hen rosod hen ffasiwn ( y rhai sydd ag arogl cryf arnyn nhw), eu rhoi mewn cwpan a thywallt dwr berwedig drostyn nhw. Erbyn i’r dwr oeri, roedd gen i ddwr oedd yn arogli’n fendigedig. Mi ges i hwyl garw’n gneud y bisgedi yma, a’r pleser rhyfedda o ddefnyddio blodau o fy ngardd fy hun i’w gwneud nhw.Tydi’r lliwiau’n hyfryd? A rhaid i mi ddeud, roedden nhw’n flasus hefyd – mae’r blas lafant yn berffaith efo paned o de – Earl Grey yn enwedig. Ydi, mae’r riset yn y llun yma – ond swn i’n prynu’r llyfr taswn i’n chi. Mae’r hufen ia yn arallfydol!

A dyma luniau o’r criw ( a Manon) yn mwynhau’r sglaffio a’r sgwrsio. A rhai o’r pethau eraill fuon ni’n eu bwyta a’u trafod a’u mwynhau! Pwdin barlys Leisa ydi hwnna – nid at ddant pawb ond nes i fwynhau yn arw – dyna be ges i i frecwast y bore wedyn! a chacen sinsir nefolaidd Delyth.

Roedd Manon wrth ei bodd bod y noson wedi troi i mewn i rywbeth a fyddai’n ffitio’n berffaith i mewn i’r nofel ei hun: “merched, a bwyd, yn chwerthin dros jôcs gwirion a difrifoli dros bethau dwys.”

Lwcus ei bod ni wedi cael chydig o waith cerdded cyn dechrau bwyta, neu mi fydden ni gyd wedi byrstio. Dach chi’n gweld, gan ein bod ni yng Nghwm Dugoed, roedd o’n gyfle da i weld llefydd pwysig yn hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy. Gawson ni’n harwain o gwmpas gan Huw Jones, Henllys: drwy gors a thros ffens i gychwyn ( dyma’r ffens)

at fryn siap pwdin Dolig o’r enw Collfryn, lle crogwyd 80 o Wylliaid Cochion Mawddwy oddi ar ganghennau’r coed derw. Mae’n le rhyfedd a hudol a does dim angen dychymyg arbennig i fedru gweld a chlywed yr hyn ddigwyddodd yno noswyl Nadolig 1554. Ymlaen a ni wedyn i weld Llidiart y Barwn, lle cafodd y Barwn Owen ei ladd ddeng mis yn ddiweddarach. Doedd hwn ddim mor hudol a bod yn onest: postyn oedd yn sicr ddim yno yn 1555, a giât haearn wedi rhydu. Ac roedd y gwybed yn ei gwneud hi’n anodd i ganolbwyntio ar Huw yn rhoi’r hanes am y saethau’n pledu’r Barwn a brodyr John Goch yn golchi eu dwylo yn ei waed o. Ond difyr tu hwnt er hynny!

Taith i gyd-fynd â ‘Mab y Cychwr’, Haf Llewelyn fydd nesa, chwip o nofel ddifyr arall, ac rydan ni am drafod ‘Fifty Shades of Grey’ hefyd, i weld be ydi’r holl ffys. Ond twt, mae ’na lyfrau ‘rhywiol’ ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd … ‘Amdani!’ – bargen am £5.95 a ‘Gwrach y Gwyllt’ wrth gwrs … ond dydi’r rheiny ddim yn ryw I GYD rhaid cyfadde. Ond mae na ffasiwn beth â gormod o bwdin!