Filed under: Heb Gategori | Tagiau: blackberries, casglu, chanterelles, cnau, Coed y Brenin, Edward Werner, Gifts from the garden, gin eirin tagu, Gwrach y Gwyllt, Hanka, Higher Sorbian, madarch, mafon duon, mwyar duon, puffball, wiwerod
Mi fydda i’n mwynhau’r hydref am sawl rheswm; tywydd gwell gan amlaf – er nad ydi hi’n rhy wych yma hyd yma; ond mae hel cnau, madarch a mafon duon ac ati yn rhoi pleser mawr i mi. Mae’r cnau yn eitha da eleni, dim ond bod ‘na ormod o wiwerod o gwmpas. Nid yn unig maen nhw’n dwyn bwyd yr adar, ond maen nhw’n sbydu fy nghoed cyll i hefyd!
Es i am dro efo ffrind ddoe i Goed y Brenin a dod o hyd i chanterelles anferthol, hyfryd, oedd ddim wedi cael gormod o sylw gan falwod.Hyfryd wedi eu ffrio efo pupur du a chydig o hufen. O, ac es i am dro efo dyn o Leipzig rai dyddiau ynghynt, Edward Werner, sydd wedi cyfieithu ‘Gwrach y Gwyllt’ i Sorbeg Uchaf. ‘Hanka’ ydi’r enw Sorbeg ar y nofel rwan. Ydi, mae’r iaith yn bod – googlwch ‘Higher Sorbian’. Iaith leiafrifol arall, yn ardal yr Almaen ( mae ‘na Sorbeg Isaf hefyd), ac roedd Edward yng Nghymru ar gyfer cynhadledd ym Mangor. Ac fel y rhan fwya o bobl yn nwyrain Ewrop, mae o’n gallu gweld madarch lle fysech chi a fi’n cerdded heibio heb weld dim. Mi gawson ni omlets madarch gwyllt wedyn – efo chanterelles a puffballs –
Maen nhw’n fwytadwy os ydyn nhw’n dal yn wyn tu mewn – fel arfer pan maen nhw’n fychan. Ond mae na ‘Giant puffballs’ ar gael – sbiwch!
Nid Edward ydi hwnna gyda llaw, llun ges i oddi ar y we ydi o. Dim clem pwy ydi’r boi yna. Dwi’m wedi gweld puffball fel’na erioed. Ond blasus iawn meddan nhw!
Mae’r eirin tagu ( sloes) yn brin ofnadwy yn yr ardal yma, gyda choed sydd fel arfer yn diferu efo nhw yn gwbl wag neu efo dim ond un neu ddwy eirinen fach unig arnyn nhw. Mae gen i ffrindiau sydd â llond rhewgelloedd o eirin llynedd, ac mi gai rheiny os oes angen meddan nhw, ond dwi wedi gweld riset ar gyfer gin mafon ( neu fwyar) duon sy’n edrych yn neis – digon tebyg i’r eirin tagu, ond efo pod vanilla yn ogystal â’r gin, eirin a siwgr. Ond sdim rhaid defnyddio’r vanilla chwaith – ond mae gen i rai ers Uganda o hyd.
Ac mi fydd yn haws rhoi’r mafon duon mewn jar kilner na photel gin ( i gychwyn o leia) am fod yr eirin gymaint mwy. Mae’n well ei gadw am 12 mis cyn ei yfed, ond mi fydd yn iawn ar ôl 3 mis hefyd. Mae modd gwneud gin hyfryd efo damsons hefyd ond dydi hi’m yn flwyddyn wych ar gyfer rheiny chwaith, yn anffodus. Na, yr unig beth sy’n tyfu’n dda yma ydi mafon duon. Mae nghoese i’n dyst o hynny ar ôl cael codwm fechan ar y beic rai dyddiau’n ôl wrth fynd i lawr drwy’r goedwig. Glanio wysg fy ochr mewn mieri, cofiwch. Fues i’n tynnu draenen ar ôl draenen allan o mhen ôl.
Ta waeth, ges i sioc o weld yn atodiad garddio’r Telegraph, eitem o’r enw: “How to Grow Blackberries”. Be?! Fysa unrhyw un call yn PLANNU mafon duon yn eu gerddi?! Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n tyfu’n wyllt ym mhobman, yn y wlad a’r ddinas? Os oes rhywun isio planhigion, mae croeso i chi ddod i ngardd i i dynnu faint fynnwch chi o’r gwreiddiau. Dwi’n cael tyg o war efo nhw’n aml iawn. Ond nefi … plannu mafon duon? Mae ‘na bethau od yn digwydd ym myd garddio, ond dyna un o’r pethau rhyfedda eto.
O ia, os dach chi isio syniad garddwriaethol am anrheg Nadolig, mae na lyfr newydd o’r enw ‘Gifts From the Garden’ gan Debora Robertson ar gael am £16.99 (Kyle Books) ( rhatach ar Amazon wrth gwrs – ond cefnogwch eich siopau llyfrau lleol cyn iddyn nhw ddiflannu!). Dwi’m wedi ei weld o, dim ond y clawr:Ac mae na sawl llyfr arall gyda’r un enw – fyny i chi! Ond efallai y dylwn i gael copi gan fod angen i mi wneud eitem ar gyfer rhaglen Nadolig Byw yn yr Ardd, a does gen i’m syniad be fydd hwnnw eto. Mi fydd Sioned yn gwneud addurniadau o ryw fath mae’n siwr, Russ yn sôn am anrhegion Nadolig ar gyfer garddwyr am wn i, a bosib bod na rywbeth i mi yn y llyfr yma. Ond dwi wedi gneud eitemau am gin eirin tagu a gwin poeth/mwll/mulled o’r blaen – be sydd ar ôl?! Unrhyw gynigion, yn enwedig os ydyn nhw’n gymreig mewn rhyw ffordd, rhowch wybod, unai drwy’r blog yma neu ein tudalen Facebook. Diolch!
Reit, dwi’n mynd am dro ar y beic efo Del rwan, efo rycsac llawn potiau plastic ar fy nghefn i hel mafon duon. Mae ‘na rai anferthol, hyfryd i fyny’r ffordd i gyfeiriad Llanfachreth.
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Coed y Brenin, Corris Mine Explorers, rafftio, Snow Bikers, Tryweryn
Dwi wedi bod yn brysur yn mwynhau fy hun yn ddiweddar. Oedd, roedd Rhufain yn wych ond does dim rhaid teithio’n bell i gael diawl o amser da. Dwi wedi bod yn cael gwefrau lu i gyd o fewn rhyw 20 milltir o ngharte.
Rafftio fues i bore ‘ma – efo Mam, sy’n 69. A naci, nid ni sy’n y llun. Roedd na foi’n cymryd lluniau ohona i’n cael fy ngwlychu’n socien ond weles i mo’r lluniau cyn gadael. Ond ro’n i rwbath tebyg i’r boi ar y dde. Yn Frongoch oedden ni, lle cafodd fy Mam ei magu – ac yn afon Tryweryn ddysgodd hi nofio – cyn codi’r argae. nefi, gawson ni hwyl.
Ac rhyw 10 diwrnod yn ôl, fues i’n Corris Mine Explorers efo Dad.
Tipyn mwy difyr na’r trip Brenin Arthur – dydi hwn ddim yn addas i blant ifanc, ac mae o wir yn agoriad llygad ac yn werth ei wneud. A dim ond lawr y ffordd yng Nghorris! Pwy fysa’n meddwl bod na fyd arall dan ddaear yn fanno? Byd sydd wedi ei agor i ni – am bris reit rhesymol.
Os ydach chi’n diodde o glawstroffobia neu ddim yn hoffi’r tywyllwch, wnewch chi ddim ei fwynhau o. Ond mi wnes i a Dad ei fwynhau o’n arw. Ac mae’n goblyn o job ei gael o i wneud pethau fel hyn fel arfer.
Ond yr hufen ar y gacen oedd y pnawn dreuliais i yng Nghoed y Brenin, Ganllwyd efo Graham a Jackie sy’n rhedeg cwmni beicio mynydd Snow Bikers. Iawn, dwi’n beicio bob dydd ryw ben, ond rhyw feicio digon diniwed, dim byd hard-core, er mod i wedi mynd lawr trac go hawdd yng Nghoed y Brenin efo Del gwpwl o weithiau. Ond mae Graham yn diwtor arbennig iawn, a ges i fodd i fyw yn dysgu technegau newydd a sut i wir falansio’n gywir. Er mod i chydig yn annifyr pan gymerwyd y llun yma…