BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Casglu bwyd o’ch cwmpas

Mi fydda i’n mwynhau’r hydref am sawl rheswm; tywydd gwell gan amlaf – er nad ydi hi’n rhy wych yma hyd yma; ond mae hel cnau, madarch a mafon duon ac ati yn rhoi pleser mawr i mi. Mae’r cnau yn eitha da eleni, dim ond bod ‘na ormod o wiwerod o gwmpas. Nid yn unig maen nhw’n dwyn bwyd yr adar, ond maen nhw’n sbydu fy nghoed cyll i hefyd!

Es i am dro efo ffrind ddoe i Goed y Brenin a dod o hyd i chanterelles anferthol, hyfryd, oedd ddim wedi cael gormod o sylw gan falwod.Hyfryd wedi eu ffrio efo pupur du a chydig o hufen. O, ac es i am dro efo dyn o Leipzig rai dyddiau ynghynt, Edward Werner, sydd wedi cyfieithu ‘Gwrach y Gwyllt’ i Sorbeg Uchaf. ‘Hanka’ ydi’r enw Sorbeg ar y nofel rwan. Ydi, mae’r iaith yn bod – googlwch ‘Higher Sorbian’. Iaith leiafrifol arall, yn ardal yr Almaen ( mae ‘na Sorbeg Isaf hefyd), ac roedd Edward yng Nghymru ar gyfer cynhadledd ym Mangor. Ac fel y rhan fwya o bobl yn nwyrain Ewrop, mae o’n gallu gweld madarch lle fysech chi a fi’n cerdded heibio heb weld dim. Mi gawson ni omlets madarch gwyllt wedyn – efo chanterelles a puffballs –Maen nhw’n fwytadwy os ydyn nhw’n dal yn wyn tu mewn – fel arfer pan maen nhw’n fychan. Ond mae na ‘Giant puffballs’ ar gael – sbiwch!Nid Edward ydi hwnna gyda llaw, llun ges i oddi ar y we ydi o. Dim clem pwy ydi’r boi yna. Dwi’m wedi gweld puffball fel’na  erioed. Ond blasus iawn meddan nhw!

Mae’r eirin tagu ( sloes) yn brin ofnadwy yn yr ardal yma, gyda choed sydd fel arfer yn diferu efo nhw yn gwbl wag neu efo dim ond un neu ddwy eirinen fach unig arnyn nhw. Mae gen i ffrindiau sydd â llond rhewgelloedd o eirin llynedd, ac mi gai rheiny os oes angen meddan nhw, ond dwi wedi gweld riset ar gyfer gin mafon ( neu fwyar) duon sy’n edrych yn neis – digon tebyg i’r eirin tagu, ond efo pod vanilla yn ogystal â’r gin, eirin a siwgr. Ond sdim rhaid defnyddio’r vanilla chwaith – ond mae gen i rai ers Uganda o hyd.

Ac mi fydd yn haws rhoi’r mafon duon mewn jar kilner na photel gin ( i gychwyn o leia) am fod yr eirin gymaint mwy. Mae’n well ei gadw am 12 mis cyn ei yfed, ond mi fydd yn iawn ar ôl 3 mis hefyd. Mae modd gwneud gin hyfryd efo damsons hefyd ond dydi hi’m yn flwyddyn wych ar gyfer rheiny chwaith, yn anffodus. Na, yr unig beth sy’n tyfu’n dda yma ydi mafon duon. Mae nghoese i’n dyst o hynny ar ôl cael codwm fechan ar y beic rai dyddiau’n ôl wrth fynd i lawr drwy’r goedwig. Glanio wysg fy ochr mewn mieri, cofiwch. Fues i’n tynnu draenen ar ôl draenen allan o mhen ôl.

Ta waeth, ges i sioc o weld yn atodiad garddio’r Telegraph, eitem o’r enw: “How to Grow Blackberries”. Be?! Fysa unrhyw un call yn PLANNU mafon duon yn eu gerddi?! Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n tyfu’n wyllt ym mhobman, yn y wlad a’r ddinas? Os oes rhywun isio planhigion, mae croeso i chi ddod i ngardd i i dynnu faint fynnwch chi o’r gwreiddiau. Dwi’n cael tyg o war efo nhw’n aml iawn. Ond nefi … plannu mafon duon? Mae ‘na bethau od yn digwydd ym myd garddio, ond dyna un o’r pethau rhyfedda eto.

O ia, os dach chi isio syniad garddwriaethol am anrheg Nadolig, mae na lyfr newydd o’r enw ‘Gifts From the Garden’ gan Debora Robertson ar gael am £16.99 (Kyle Books) ( rhatach ar Amazon wrth gwrs – ond cefnogwch eich siopau llyfrau lleol cyn iddyn nhw ddiflannu!). Dwi’m wedi ei weld o, dim ond y clawr:Ac mae na sawl llyfr arall gyda’r un enw – fyny i chi! Ond efallai y dylwn i gael copi gan fod angen i mi wneud eitem ar gyfer rhaglen Nadolig Byw yn yr Ardd, a does gen i’m syniad be fydd hwnnw eto. Mi fydd Sioned yn gwneud addurniadau o ryw fath mae’n siwr, Russ yn sôn am anrhegion Nadolig ar gyfer garddwyr am wn i, a bosib bod na rywbeth i mi yn y llyfr yma. Ond dwi wedi gneud eitemau am gin eirin tagu a gwin poeth/mwll/mulled o’r blaen – be sydd ar ôl?! Unrhyw gynigion, yn enwedig os ydyn nhw’n gymreig mewn rhyw ffordd, rhowch wybod, unai drwy’r blog yma neu ein tudalen Facebook. Diolch!

Reit, dwi’n mynd am dro ar y beic efo Del rwan, efo rycsac llawn potiau plastic ar fy nghefn i hel mafon duon. Mae ‘na rai anferthol, hyfryd i fyny’r ffordd i gyfeiriad Llanfachreth.

Advertisements


Defnyddio’r ardd yn greadigol

Dyma i chi lun o Ceri Redman, fy nith, sy’n gweithio fel dylunydd yng Nghaerdydd efo Richard Weston – sydd wedi gwerthu stwff i’r siopau mawrion fel Harvey Nicholls ac i sêr fel Cameron Diaz!  Mi alwodd draw wythnos dwytha ( Ceri, nid Cameron) i gael lluniau o wahanol flodau ac ati yn fy ngardd i er mwyn gallu defnyddio’r delweddau a’r patrymau hynny yn ei gwaith. A dyma rai o’r lluniau gymerais i:

Efallai y cawn nhw eu defnyddio, efallai ddim, ond mi wnai adael i chi wybod os fydd modd cael rhywbeth o fy ngardd i ar ddilledyn neu bapur wal neu gyrtens neu rywbeth yn y dyfodol! Erbyn i Ceri orffen efo nhw, fyddwch chi ddim yn eu nabod o’r lluniau yma beth bynnag; mae modd gwneud y pethau rhyfedda efo lluniau fel hyn y dyddiau yma!

Y camera da ddefnyddiais i i gymryd rheina. Yn anffodus, dim ond fy iphone oedd gen i pan fu mrawd ac ambell nith a nai yn canwio ar yr afon Mawddach fore Gwener dwytha. Mi fyswn i wedi canwio hefyd ond ddim ond 4 canw sydd gynnon ni. Beicio ar hyd y llwybr efo Del wnes i, a cherdded dros y llaid a’r baw at y lan fan hyn – a sbiwch bendigedig oedd hi yno! Pwy sydd angen mynd dramor a ninnau’n byw mewn man mor dlws? Wel … pan fydd yr haul yn tywynnu o leia. Roedd hi’n gymylog eto erbyn amser cinio.

Mae’r tridiau braf gawson ni wedi bod o help mawr i’r gwenyn – es i heibio nhw ddoe ac mae’r cwch wreiddiol yn gwneud mêl fel dwnimbe, felly beryg fydd gen i beth ar gyfer cystadlu yn Sioe Talybont wedi’r cwbl! Ond dwi’n dal i orfod bwydo’r cwch fechan – mae honno’n wan iawn o hyd. Pan aeth Carys a fi i weld yr haid flin, roedden nhw nid yn unig yn flin, ond yn gwneud celloedd brenhines fel dwnimbe. Rhoddwyd yr ‘hive tool’ yn rheiny i’w malu, a bydd raid cadw golwg arnyn nhw. Hen frenhines fach flin sydd ganddyn nhw, debyg, ac os gai un newydd, glen yn lle honno, efallai y bydd y cwch cyfan yn haws eu trin. Gawn ni weld.

A dyma i chi be ges i i frecwast y bore o’r blaen – madarch chanterelles. Maen nhw’n gynnar eleni ( ges i’r pryd cynta ryw fis yn ôl o leia) ac mae’n frwydr i gael gafael ynddyn nhw cyn y malwod, ond maen nhw’n sicr yn werth y drafferth!

O ia, a sbiwch be brynais i’n y Steddfod – wrth fy modd! Rhag ofn nad ydech chi’n deall, mae ‘Tri Chynnig i Blodwen Jones” yn un o fy nofelau i ar gyfer dysgwyr, ac mae Mair o gwmni Dalen wedi cael y syniad gwych o wneud mygiau sy’n parodio rhai o’r llyfrau ni yng Nghymru – a dwi mewn cwmni da, ylwch!